Gareth Charles yw sylwebydd rygbi S4C, ac mi fydd yn cadw colofn yn Golwg drwy gydol Cwpan y Byd. Ar drothwy’r gêm fawr rhwng Cymru a Ffiji nos Sul, mae yn edrych ar record rymus ddiweddar ein gwrthwynebwyr cyntaf…

Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain? Mae hanes yn awgrymu nad yw hynny’n debyg o fod yn wir yng Nghwpan Rygbi’r Byd ac mae perfformiadau diweddar y pencampwyr presennol, De Affrica, wedi ategu hynny.