Yn 76 oed, mae Peter Lord wedi cael y cyfle i gyflwyno ei drysorau celf gerbron y genedl. Yn ei arddangosfa newydd ‘Dim Celf Gymreig’ – Archwilio’r Myth yn y Llyfrgell Genedlaethol, mae cyfle i weld llawer o’r casgliad celf hynod y bu’n ei hel ers yr 1980au, ynghyd â thros gant o weithiau o gasgliad y Llyfrgell ei hun.