Gyda Chymru wedi colli eu dwy gêm agoriadol yng Nghyfres yr Hydref, 24-19 i Ffiji a 52-20 i Awstralia, mae yna bwysau anhygoel cyn y gêm yn erbyn De Affrica’r Sadwrn yma.

Seimon Williams sy’n edrych ar sefyllfa go ddyrys…

Erbyn i chi ddarllen hwn, mae’n bosib iawn y bydd newid wedi digwydd ar frig tîm hyfforddi dynion Cymru. Wrth ysgrifennu, mae Warren Gatland yn dal ymlaen i’w swydd o groen ei ddannedd.

Roedd y perfformiad brynhawn Sul yn erbyn Awstralia cyn waethed a welwyd gan dîm cenedlaethol y dynion ers ugain mlynedd a mwy.

Digalon oedd y gêm, gyda Chymru’n gorfod gwneud 125 tacl yn yr hanner gyntaf yn unig, 64 ohonynt yn y deuddeg munud agoriadol. Fel cymhariaeth, 128 tacl fesul gêm – nid fesul hanner, fesul gêm – yw’r cyfartaledd i Gymru yn erbyn Awstralia dros y 15 mlynedd diwethaf. O fewn 20 munud, roedd Awstralia 19-0 ar y blaen. Brwydrodd Cymru’n ôl yn yr ail chwarter i fod dim ond 13-19 ar ei hôl hi, ond dyna ddiwedd ar eu gobeithion.

Am yr eildro o fewn wythnos, methodd Cymru â chymryd mantais o gerdyn coch ugain-munud i’w gwrthwynebwyr. Ymateb Awstralia oedd cadw pethau’n dynn, a sgoriwyd tri chais ganddynt cyn i gerdyn coch Samu Kerevi orffen – 15 Cymru yn colli’r cyfnod yn erbyn 14 dyn Awstralia, a hynny o 21-0. Erbyn y diwedd, roedd blinder yn drech â’r Cymry, a’r ceisiau’n pentyrru.

Eleni yw deugain-mlwyddiant taith Camp Lawn Awstraliaid 1984 – tîm y brodyr Ella, Lynagh, Campese a’r criw, un o’r goreuon erioed. Nid yw’r garfan bresennol yn yr un cae – dyma’r tîm, wedi’r cyfan, gollodd 40-6 i Gymru dim ond 14 mis yn ôl, ac a gollodd 67-27 i’r Ariannin ddeufis yn ôl – ond mae yna dalent yma. Ac mae ganddynt hyfforddwr profiadol – Joe Schmidt – sydd yn dechrau canfod y patrymau sy’n tynnu’r gorau o’r chwaraewyr sydd ar gael iddo. Eithaf cul a difflach oedd Iwerddon pan oedd Schmidt yno gynt, yn chwarae i gryfder y pac a’r haneri. Gydag Awstralia, mae’n gwybod bod angen chwarae gêm letach, ac mae yna awgrym yr hydref hwn bod y cynllun yn dechrau gweithio. Deugain o bwyntiau yn Twickenham wythnos diwethaf wrth guro’r Saeson yn annisgwyl, hanner cant yr wythnos hon. Dyma hyfforddwr mentrus, chwilfrydig.

Tristwch diwedd cyfnod

Tristwch oedd y prif emosiwn wrth wylio’r hyfforddwr a’i gapten Dewi Lake yn siarad gyda’r wasg ddydd Sul. Y tristwch a’r loes amlwg ar wynebau’r ddau, a thristwch y sawl oedd yn yr ystafell bod y sefyllfa cyn waethed.

Roedd y ddau yn trio’u gorau glas i awgrymu bod datblygiad i’w weld, bod strwythur yn dechrau amlygu’i hun, bod yna gynnydd. Os felly mae hi wrth ymarfer, ychydig iawn o olwg o hynny sydd ar y cae chwarae.

O ran y strwythur, anodd dehongli beth yn union yw hynny. Yn ystod cyfnod cyntaf Gatland, roedd hi’n amlwg – tîm mawr, corfforol, ffit fyddai’n blino’u gwrthwynebwyr nes iddyn nhw ildio. Rhywbeth tebyg gwelwyd yng Nghwpan y Byd (gydag ambell hen filwr o’r cyfnod euraid yn arwain y ffordd). Agored, llac a di-drefn oedd Chwe Gwlad eleni. Rhywbeth tebycach at yr hen arddull a welwyd dros yr haf yn Awstralia gyda chanolwyr mawr yn cario. A nawr? Bach ac ysgafn yw olwyr Cymru, ond yn ceisio chwarae’r hen ffordd – llusgo’u gwrthwynebwyr o’r naill ystlys i’r llall heb y grym corfforol i ganfod ffordd trwodd.

Os yw Schmidt yn datblygu ffordd newydd o chwarae sy’n gweddu’r gêm fodern a’r chwaraewyr sydd ar gael iddo, barn nifer o wybodusion yw mai ceisio gorfodi’i chwaraewyr i ddilyn patrymau’r 2010au cynnar mae Gatland.

Y gost ariannol

Mae’r ffeithiau moel yn ddychrynllyd. Collwyd dros y Sul o 20-52 – y tro cyntaf i Awstralia groesi’r hanner cant yng Nghymru. Un ar ddeg colled yn olynol – record arall, gan dorri record tîm Steve Hansen o ddeg colled o’r bron yn 2002/3. Mae Cymru nawr lawr yn rhif 11 o blith detholion y byd – eu safle isaf erioed (yn wir, dim ond buddugoliaeth hwyr yr Eidal yn erbyn Georgia wnaeth eu hachub rhag disgyn i’r deuddegfed safle). Nid yw Cymru wedi colli bob gêm mewn blwyddyn galendr ers 1937 – dim ond tair gêm chwaraewyd y flwyddyn honno – a De Affrica yw’r cyfle olaf i osgoi efelychu’r tîm hwnnw. Ychydig iawn o gefnogwyr fydd yn gobeithio am lot mwy na chadw’r sgôr i lawr.

Pan ddaeth Gatland yn ôl i gymryd yr awenau unwaith yn rhagor ar ddiwedd 2022, roedd Undeb Rygbi Cymru mewn trafferthion. Oedd, roedd tîm cenedlaethol y dynion ar chwâl, a newydd golli adref i’r Eidal a Georgia am y tro cyntaf erioed. Ond mi oedd mwy – tipyn mwy – i ddod. Cyhuddiadau o rywiaeth o fewn yr Undeb, perthynas ar chwâl gyda’r rhanbarthau proffesiynol, a thîm y dynion ar fin bygwth mynd ar streic.

Ateb y Prif Weithredwr ar y pryd, Steve Phillips, oedd denu Gatland yn ôl ar gyflog swmpus. Gosodwyd cymal i ddiweddu’r cytundeb ar ôl Cwpan Rygbi’r Byd llynedd, gydag addewid wedyn o estyniad o bedair blynedd hyd at Gwpan y Byd 2027. Cyn i’r tîm ddychwelyd o Ffrainc, roedd Phillips wedi mynd, a Nigel Walker oedd nawr wrth y llyw, dros dro. Estynnwyd y cytundeb.

Un o’r cwestiynau mawr, o ystyried sefyllfa ariannol Undeb Rygbi Cymru, yw p’un ai gall y corff fforddio diswyddo Gatland blwyddyn i mewn i gytundeb pedair blynedd. Mae yna si bod yna doriad pellach – ar ddiwedd Chwe Gwlad 2025 – gallai wneud hyn yn haws. Ond nid oes sicrwydd o hynny, gyda newyddiadurwyr yn gwrthddweud ei gilydd ar y mater.

Cwestiwn pwysicach, efallai, yw p’un ai gall yr Undeb fforddio i beidio â diswyddo’r prif hyfforddwr? Mae yna gost ariannol i fethiant ar y cae. Tair gêm, nid pedair, sy’n cael eu chwarae gan Gymru ar draws yr hydref. Er hynny, 62,000 a 56,000 oedd torfeydd y ddwy gêm ddiwethaf – 30,000 o docynnau heb eu gwerthu, felly. Dwy gêm ar y Sul, hefyd, yn hytrach na’r nosweithiau Gwener a Sadwrn sy’n cael eu cadw ar gyfer mawrion Ffrainc, Lloegr ac Iwerddon. Mae yna filiynau o bunnoedd o wahaniaeth rhwng ennill y Chwe Gwlad a gorffen gyda’r llwy bren.

Lle mae’r chwaraewyr?

Nid oes dwywaith fod Gatland wedi elwa o genhedlaeth euraid wrth gyrraedd yn 2008. Roedd ganddo garfan oedd wedi ennill Camp Lawn, nifer ohonynt yn Llewod, ond a oedd wedi colli cyfeiriad dan arweiniad Gareth Jenkins. Rhoddodd Gatland siâp ar bethau’n gyflym iawn, gan fod y deunydd crai yno. Chwaraewyr da yn chwarae gyda rhanbarthau cryf a chystadleuol (ac ochr yn ochr â rhai o gewri’r byd, Marshall, King, Lomu a Collins yn eu plith).

Wedyn daeth y gor-wyro tuag at arllwys arian i mewn i dîm cenedlaethol y dynion o 2009 ymlaen. Roedd y rhanbarthau yn gwanio, ond pa ots tra bod y tîm yn ennill Campau Llawn? Erbyn hyn, mae canlyniad y llwgu bwriadol i’w weld ymhobman – gwan yw’r rhanbarthau, a gwanio mae’r tîm cenedlaethol.

Eironi hyn oll, wrth gwrs, yw mai Nigel Walker yw Cyfarwyddwr Gweithredol Rygbi’r Undeb. Nôl yn 2021, roedd Walker ar ochr arall y ffens, yn eistedd ar fwrdd clwb Caerdydd. Rhybudd oedd gan Walker – bod y gor-bwyslais ar y tîm genedlaethol yn gwanio’r rhanbarthau, ac y byddai hynny, yn y pendraw, yn golygu na fyddai’r rhanbarthau’n cynhyrchu chwaraewyr o’r un safon, a Chymru fyddai’n dioddef. Unwaith i bethau ddechrau pydru, dywedodd, byddai angen cenhedlaeth i wyrdroi’r sefyllfa.

Mae’r rhanbarthau wedi gwanhau, a’r tîm cenedlaethol wedi’u dilyn. Nid oes gan Gymru’r chwaraewyr i herio’r goreuon bellach. Nid oes yr un rhan o’r system yn gweithio’n iawn. Ar bob lefel, mae yna anniddigrwydd ac anfodlonrwydd.

Byddai’n talu ffordd i Nigel Walker 2024 wrando ar fersiwn 2021. Roedd e’n gwbl gywir.

Ymhlith hyn oll, nid oes gan yr Undeb strategaeth. Addawyd y byddai hynny’n ein cyrraedd yn y gwanwyn, wedyn yr hydref, wedyn cyn gêm Ffiji ar ddechrau’r mis hwn. Cynhelir Cyfarfod Blynyddol yr Undeb fore Sul, oriau ar ôl y gêm yn erbyn y Springboks. Mae’n sicr o fod yn gyfarfod cythryblus.

Beth nesaf?

Ond nôl at Warren Gatland. Fe adawodd Cymru ar ôl gorffen yn bedwerydd yn y byd yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2019, gyda Champ Lawn a chyfnod byr ar frig detholion y byd hefyd ar record y flwyddyn. Os nad oes ganddo’r deunydd crai na’r system gywir i ail-adrodd llwyddiannau’r 2010au, nid Gatland y 2010au mo hwn chwaith. Aeth o Gymru i hyfforddi’r Chiefs yn Waikato – collwyd wyth gêm allan o wyth. Cafodd gyfnod sabothol i arwain Llewod 2021 i Dde Affrica, lle collwyd y gyfres. Dechreuodd y Chiefs ennill yn ei absenoldeb, ac fe gafodd ei gicio lan llofft ar ôl dychwelyd. Chwech o’i 23 gêm yn ôl gyda Chymru y mae Gatland wedi eu hennill – pedwar ohonynt yng Nghwpan Rygbi’r Byd flwyddyn yn ôl. Fel cymhariaeth, mae nifer o hyfforddwyr rhanbarthol Cymru dros y tair blynedd diwethaf  – sydd wedi derbyn cymaint o feirniadaeth – wedi sicrhau canlyniadau tipyn gwell, gyda Dwayne Peel yn agos at 40%, a Toby Booth a Dai Young dros y 40%. Weithiau, mae’r gêm yn symud yn ei blaen ac yn gadael yr hen gymeriadau ar ôl.

Mae gan arweinyddiaeth yr Undeb – Abi Tierney, Richard Collier-Keywood a Nigel Walker – dipyn o her o’u blaenau. Sefyllfa prif hyfforddwr y dynion yw’r sylw yn y tymor byr, ond mae angen iddynt gydio yn yr awenau a gosod rygbi Cymru ar y trywydd iawn.

Un peth yw dioddef poen tymor byr. Mae hynny ond yn dderbyniol os oes yna ddyfodol mwy llewyrchus o’n blaenau, a chynllun clir i gyrraedd yr uchelfannau.

Mae’n hen bryd i’r gwaith hynny gychwyn.

Cymru v De Affrica yn fyw ar S4C a’r gic gyntaf am 5.40pm ddydd Sadwrn