Mae’r gyfrol ‘Salem a Fi’ yn “gyfle i werthfawrogi cyfraniad dyn arbennig iawn i’n diwylliant poblogaidd ni”.

Dyna farn Eurof Williams sy’n ffan mawr o’r canwr ac yn un fu yn cynhyrchu rhaglenni radio a theledu am gerddoriaeth ers y 1970au…

Roedd gwrando ar record hir Endaf Emlyn Salem yn 1974 yn sioc i’r sustem. Dyma’r record Gymraeg gyntaf oedd yn haeddu’r gair ‘campwaith’.  I mi, a nifer o ddilynwyr canu poblogaidd Cymraeg, ddaeth y teimlad fod yna garreg milltir wedi ei chyrraedd. Roedd gan y Byd Sgt. Pepper’s Lonely Hearts Club Band gan y Beatles, ond roedd gennym ni, Gymry, Salem. Rhwng y gwaith offerynnol arbennig; y cynhyrchu a’r trefniadau soffistigedig, wedi eu cyplysu â llais melfedaidd Endaf Emlyn, roedd dychymyg ag uchelgais mawr yn perthyn i’r fenter. A dyma ni, hanner can mlynedd yn ddiweddarach yn cael hanes y dyn, a’r fenter, trwy lygaid y crëwr ei hun:

‘O dro i dro, pan ddaeth awgrym y dylwn i sgwennu hunangofiant, fedrwn i weld dim un rheswm da dros wneud hynny. Cyndyn iawn fues i erioed i dynnu sylw, am resymau sy’n astrus. Ond… dyma fi’n gofyn i fi’n hun, beth oedd hynna i gyd, y degawdau wibiodd heibio, yr holl hwyl a’r helbul? Tybed ddylwn i godi’r caead fymryn?’

Rwyf mor ddiolchgar ei fod wedi mentro ‘codi’r caead’.

Mae’r llyfr yn enfys o atgofion, sydd yn dilyn argraffiadau am y babi newydd anedig: ‘“Ma’r hogyn bach ’ma rhy ddel…,” meddai rhyw hen fodryb pan ddois i’r byd yma, yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor…’

Hyd at y presennol: ‘Dydw i ddim yn un sy’n byw i berfformio ar lwyfan. Ces ddigon ar hynny drwy holl eisteddfota fy mhlentyndod. Doedd dim dianc rhag yr hen ofn hwnnw.’

Serch hynny, yn ei arddegau bu’n aelod o Gerddorfa Ieuenctid Cymru ar yr un pryd â’r cyfansoddwr enwog Karl Jenkins a John Cale, un o aelodau’r band roc dylanwadol The Velvet Underground.

Yr hyn a ddaw’n amlwg yn yr hunangofiant Salem a fi yw gymaint o feddyliwr dwfn yw Endaf. Mae ganddo ddychymyg byw sydd yn llifo – fel yr afon trwy Gwm Nantcol, ger Capel enwog Salem – trwy ei hanes fel cerddor; cyflwynydd; cynhyrchydd a chyfarwyddwr ffilmiau teledu. Ac mae yna edrych yn ôl yn y llyfr:

 ‘Mae gen innau ben-blwydd yn 2024, yn syfrdanol, wyth deg oed! Rydw i’n ddyn o’r oes o’r blaen, yn ddawnsiwr o’r byd analog. Mi wnes i ddysgu sgwennu ym mhedwardegau y ganrif ddwetha, ar ddarn o lechan mewn ffrâm bren, a dyma fi’n sgwennu hwn heddiw ar dabled digidol sydd tua’r un maint a siâp â’r llechan honno. O fewn bywyd un dyn, aethon ni o’r llechan i’r iPad. Oni ddylai fod gan ddyn sydd wedi gweld yr holl newid rywbeth call i’w ddweud, rhyw air o brofiad gwerth ei gael? Mi ges wisgo amryw o wahanol hetia dros y blynyddoedd, ond hetia’r canwr a’r cyfarwyddwr oedd bwysica. Hanes cyfnod y canu fydd hwn, er y bydd dyn yr het arall, y cyfarwyddwr, yn siŵr o wthio’i big i mewn.’

Dyn mwyn ac addfwyn

Mae’r llyfr yn llifo’n esmwyth rhwng cyfnodau pwysicaf bywyd Endaf: o’r fagwrfa ym Mhwllheli i Gaerdydd, ac yn amlygu gymaint mae hiraeth yn pwyso arno:

‘Dwi wedi byw’r rhan fwya o f’oes yng Nghaerdydd, ond wnes i ddim llwyddo i adael Pwllheli yn llwyr. Os bydda i’n effro’r nos, mi a’ i i gerdded strydoedd yr hen dre fel rydw i’n eu cofio nhw.’

Yn ogystal, mae’r hunangofiant yn dangos pwysigrwydd delweddau a geiriau i Endaf. Nid y fi’n unig sy’n ei ystyried i fod yn fardd arbennig a sensitif. Wele’r geiriau ar y gân ‘Madryn’ o 1971:

‘Sŵn y don yn deffro’r nos

Yn llusgo ar y traeth,

Cynnar gân uwchben y rhos,

Y wawr a ddaeth.

Niwlen ar yr afon

Yn crwydro lawr i’r glyn,

Llafn o haul yng Nghoed Nanhoron,

Plant ar lethra’r Garn yn brysur gasglu llus,

Cân y gwenyn ganol dydd ym mlodau’r grug,

Arad yn y dyffryn pell yn rhwygo’r tir

A gwres yr haul ym Madryn

Yn galw arnaf fi.’

 

Ac yna, deg mlynedd yn ddiweddarach, geiriau’r gân ‘Nôl i’r Fro’:

‘Bwrw angor yng nghysgod y bar

A sôn am y siwrna

Yn ôl i’r Sarn.

Sôn am hiraeth,

Sôn am fynd yn ôl

I’r fro…’

Yn ogystal â chlywed am ei waith cerddorol ei hun, mae Salem a Fi yn gyfle i gofio’r grwpiau a fu’n rhan o’i fywyd cerddorol: yr arbrawf diddorol i uno nifer o ddoniau cerddorol Cymru, a chreu Injaroc, ac yna’r grŵp soffistigedig Jîp. ‘Peth gwych ar ôl teimlo’n belican yn yr anialwch oedd cyfarfod pobol oedd o’r un anian, oedd yn rhannu’r un gobeithion â fi,’ meddai Endaf yn y llyfr.

Yn ogystal, mae’n trafod yr operâu roc: Melltith ar y Nyth i BBC Cymru; Harri am helyntion y môr-leidr yn y Caribî, ar gyfer Cwmni Theatr yr Urdd.

Mae’n drysor pwysig i gofio, mwynhau a dathlu artist geiriol a gweledol arbennig. Dyn mwyn ac addfwyn yw Endaf, sydd wedi gadael i ni rannu ei ddychymyg byw, boed yn sain neu’n ffilm, gair neu gân.

Bydd Salem a Fi yn ddelfrydol fel anrheg Nadolig i’r sawl, fel fi, sydd am gyfle i werthfawrogi cyfraniad dyn arbennig iawn i’n diwylliant poblogaidd ni. Mae wedi rhyddhau saith record hir (un gydag Injaroc), a chyfarwyddo naw ffilm. Enillodd y rhaglen ddogfen Shampŵ wobr ‘Ysbryd yr Ŵyl’ yn yr Ŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd yn yr Iwerddon, ac yn 2017 derbyniodd Endaf Wobr John Hefin am Gyfraniad Oes yng ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin.

Mae gymaint mwy o straeon ac atgofion i’w darllen a’u trysori yn y llyfr, a dim digon o le yn yr adolygiad byr yma i wneud cyfiawnder â phob dim. Diolch am y geiriau a’r gân; y delweddau a’r breuddwydion, Endaf. A dyma’r dyn ei hun unwaith eto gyda’r gair olaf:

Dwi’n ddigon hen i fedru cofio clywed Bob Roberts Tai’r Felin yn canu, ‘Rwy’n bedwar ugain oed… di-wec-ffal-di-la-la-la’, a dyma fi rŵan, ac yn sydyn braidd, ’run oed â fo. Ond ar wahân i ryw duchan ysbeidiol, a phendwmpian yn y pnawnia, dydw i’n teimlo fawr gwahanol i’r hogyn bach hwnnw fyddai’n mynd ar garlam i lan môr, ar gefn ei geffyl anweledig. Mae’r ceffyl hwnnw’n dal gynna i, a hen bryd i fi ddringo ar ei gefn, a ffarwelio efo chi, chwifio fy het, a dwad â’r stori yma i’w therfyn.’