Wrth i’r Senedd ail agor ei ddrysau yn barod am dymor newydd bydd rhai o ysgolion Cymru yn aros ar gau…

Wrth i heidiau o ddisgyblion ddychwelyd i’r ysgol ddechrau’r wythnos, arhosodd drysau Ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi yn Ynys Môn ar gau.

Roedd hyn wedi’r darganfyddiad bod math o goncrit sydd mewn perygl o gwympo ar unrhyw adeg wedi cael ei ddefnyddio yn yr adeiladau.