Mae’r bardd 36 oed wedi byw ar hyd a lled y wlad – yn y Barri ac Abertawe yn y de, a Llandudno a’r Wyddgrug yn y gogs, a nawr mae yn trigo yn Wrecsam.

Ef yw pencampwr Ymryson Wrex-slam wedi iddo ddod i’r brig wrth berfformio dwy o’i gerddi.

A phan nad yw’r cyn-newyddiadurwr yn gweithio i Fanc Datblygu Cymru, mae wrth ei fodd yn gwisgo fel Jedi o’r ffilm Star Wars

Beth oedd dan sylw yn y cerddi wnaethoch chi berfformio yn yr ymryson?

Wel, mae yna un gerdd na fasa chi yn gallu argraffu’r teitl… y teitl oedd ‘You’re all b*stards’!

Roeddwn i yn meddwl ‘this will be a crowd pleaser’ math o beth, ac yn ceisio defnyddio tipyn bach o hiwmor i fod yn ice breaker ar y dechrau.

Roedd yna ryw bymtheg o bobl yn y gynulleidfa, y rhan fwyaf yna i berfformio eu cerddi eu hunain, ac roedd honna’n gerdd i drio gwneud i fy hun edrych fel fy mod yn meddwl fy hun fwy nag ydw i. Gwneud dipyn o fall guy allan o fy hun, ac yn y diwedd dod rownd i ddweud ‘I love you all really’ a bod dipyn bach mwy cynnes.

Ac roedd y gerdd arall, ‘Lads in th woods’, dipyn bach fel hen straeon tylwyth teg, ond dipyn bach yn fwy tywyll ac o ddifrif…

Ac roeddwn i wedi fy synnu fy mod i wedi ennill gyda’r cerddi hynny!

Doeddwn i ond wedi gorffen sgwennu nhw cwpwl o oriau cyn i fynd i’r ymryson, felly roedd ennill yn dipyn o sypreis.

Rydw i yn ceisio cadw tipyn bach o nerfusrwydd wrth berfformio, achos mae o’n help i gynnal adrenalin a chadw i fynd.

Os ydw i jesd yn mynd fyny a darllen [y cerddi], mae hwnna yn teimlo dipyn bach yn soul-less.

Hefyd, dw i ddim yn gallu gweld lot heb fy sbecs, felly os ydw i yn teimlo ychydig yn nerfus gyda’r crowd, dw i yn tynnu fy sbecs fel bo fi methu gweld neb.

Roedd ennill yn deimlad braf, a wnes i ennill gwydr peint Wrexham Lager a’r headline slot ar gyfer yr ymryson nesaf yn [nhafarn] y Saith Seren ym mis Ionawr.

Mae yna sîn barddoniaeth dda yn Wrecsam ac mae yna gyfle i berfformio cerddi.

Pam ydach chi’n adrodd straeon trwy gerddi?

Dw i’n meddwl fod yna fwy o gynulleidfa i farddoniaeth, ac mae modd cymryd mwy o amser i ddweud stori.

Rydw i yn sgwennu rhyddiaith hefyd, ond dw i yn meddwl fod adrodd stori trwy farddoniaeth yn cipio’r dychymig yn fwy, ac rydach chi’n medru dod â sut mae o’n teimlo fewn iddi.

Ac mae o’n mynd nôl i’r traddodiad o fod rownd y tân, rownd y pentan, yn rhannu straeon a rhannu caneuon. Ac er y ffaith fy mod i yn sgwennu yn Saesneg, mae o’n teimlo fel traddodiad reit Gymraeg.

Ac mae’r gair ‘bardd’ yn deitl yn Gymraeg fel nad ydy o yn Saesneg. Tydi ‘poet’ ddim yn deitl… er, mae ganddo chi Poet Laureate a phethau fel yna. Ond mae ‘bardd’ yn swnio fwy dwys yn y Gymraeg. Ac er nad ydw i yn sgwennu yn Gymraeg, dw i’n teimlo yn rhan o’r hen draddodiad yna sy’n mynd yn ôl oesoedd ag oesoedd.

Ac mae rhannu barddoniaeth yn teimlo yn gymdeithasol – pawb yn y tywyllwch yn cadw ei gilydd yn saff a phrysur trwy rannu straeon.

Ers faint ydach chi’n barddoni?

Wnes i gychwyn yn blentyn a’r gerdd gyntaf lle dw i’n cofio’r teitl oedd un o’r enw ‘Dynomania’, oherwydd roeddwn i yn mad am deinosors pan oeddwn i yn blentyn.

A wnes i ddod yn ail mewn cystadleuaeth ysgol, faswn i wedi bod yn naw oed.

Ac er fy mod i yn nerfus o flaen torf, roeddwn i yn well yn adrodd fy ngherddi, achos roeddwn i yn teimlo mai’r gwaith oedd yn cael ei farnu, ac nid y fi. A dw i’n dal yn teimlo fel yna, dipyn bach.

 Pryd wnaethoch chi gychwyn gohebu ar bapurau newydd? 

Wnes i ddechrau ym Mae Colwyn gyda’r North Wales Pioneer yn 2010 ar ôl hyfforddi ar gwrs ym Mhrifysgol Glyndŵr. Roeddwn i yn cyfro Llandudno, Bae Colwyn, Conwy a rhan o Ddyffryn Conwy. Wedyn wnes i symud i’r Wrexham Leader yn 2014, a newid o weithio ar bapur wythnosol i weithio ar bapur dyddiol. A wnes i ddysgu lot wrth wneud y ddau.

Er i mi gael fy magu yn Llandudno a Glan Conwy, wnes i ddysgu lot mwy am yr ardal yn gweithio yn y Pioneer. Wnes i ddysgu lot am waith y llys, incwests a chyfarfodydd cyngor ar y Leader. A wnes i ddysgu lot am Wrecsam ac roedd yna wastad egni yna. Mae Wrecsam wedi bod drwy llanw a thrai, fel pob tref fawr arall. Ond roeddwn i wastad wedi sylwi ar yr egni a’r ysbryd a’r brwdfrydedd i daro ymlaen.

Y straeon roeddwn i’n hoffi ac yn falch ohonyn nhw oedd y rhai wnes i bigo fyny mewn cyfarfodydd cyngor sir a chyngor tref, achos dyna’r rhai lleol oedd yn bwysig. Hefyd – ac mae hyn yn swnio’n drist – ond roedd y straeon teyrnged yn dda hefyd, ac roedd pobol wastad yn dweud: ‘Chwarae teg i ti am y stori deyrnged am hwn-a-hwn, fydda fo wedi ei licio hi’. Ac os oedd y rheiny yn gweithio, roeddwn i jesd yn meddwl: ‘Job done’.

Ydach chi’n ffan o’r clwb pêl-droed lleol, y ffilm Deadpool [sydd â Ryan Reynolds yn y brif ran] a’r gyfres It’s Always Sunny In Philadelphia [gyda’r actor Rob McElhenney]?!

Dw i heb ddal fyny efo It’s Always Sunny… hyd yn hyn. Ond dw i yn geek ofnadwy, ac mae Deadpool yn agos iawn at fy nghalon. Dw i yn ffan mawr o Ryan Reynolds. Ond dw i ddim yn dilyn y pêl-droed a tydw i ddim wedi cymryd lot o ddiddordeb mewn chwaraeon, ffwl sdop.

Wnes i symud lawr i’r de i fyw yn y Barri ar gychwyn 2020, i weithio fel Swyddog y Wasg i Fanc Datblygu Cymru, a dyna pryd wnaeth popeth gychwyn efo’r clwb pêl-droed, a Welcome to Wrexham ar Disney+. Ac efo Wrecsam yn cael y proffil rhyngwladol ardderchog yma, roeddwn i yn teimlo yn dipyn bach o prat yn colli allan!

Sut brofiad oedd astudio sgrifennu creadigol yn y brifysgol yn Abertawe?

Roeddwn i wedi clywed lot o bethau da am [Brifysgol] Bangor, ond doeddwn i ddim eisiau aros yn rhy agos i gartref. Felly wnes i symud i Abertawe oherwydd wnes i fwynhau’r diwrnod agored, roeddwn i yn hoffi’r ddinas a’r ffaith fod y traeth ryw bum munud i ffwrdd.

Ac roeddwn i yn lwcus tra’r oeddwn i yna i astudio o dan Nigel Jenkins, a oedd yn athro barddoniaeth, a Fflur Dafydd yn athro sgwennu creadigol, a wnes i astudio Drama dan foi o’r enw Dave Britton o Awstralia. Addysg eang.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Rydw i yn cofio tynnu tatws allan o’r bocs yn y gegin yn ein cartref, tŷ teras yn Llandudno, ac roedd George ein ci ni yna. A ‘George’ oedd y gair cyntaf wnes i ddweud, am ryw reswm.

Beth yw eich ofn mwya’?

Dim marwolaeth, so much, ond bod yn ‘byth bythoedd’ un ffordd neu’r llall… dw i ddim eisiau marw am byth, ond dw i ddim eisiau byw am byth chwaith.

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Cerdded lot. Dw i yn lwcus i fod yn byw o fewn pellter cerdded i Barc Ponciau. Hefyd, efo Wrecsam, rydach chi’n gallu bod yng nghanol y ddinas, ond ar ôl gyrru am ryw bump i ddeg munud, rydach chi ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae yna lot o ardaloedd o gwmpas i fynd i gerdded.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Dw i yn un am hanes felly fyswn i yn gwadd Eleanor of Aquitaine (1137-1204) achos mae gen i ddiddordeb yn hanes y Normaniaid, ac mi fysa yn ddiddorol cwrdd â hi.

Roedd hi yn frenhines i Harri II a hi oedd mam Richard The Lionheart, ac wedi bod yn wraig i Frenin Ffrainc hefyd, felly roedd hi wedi cael bywyd andros o ddiddorol.

A fyswn i yn gwadd Paddington fel yr un arall, achos dw i wrth fy modd efo’r ffilms am yr arth. Felly rhwng y ddau yna, dw i yn meddwl fysa ganddo ni noson dda.

A fyswn i yn gwneud cottage pie fy hun i fwyd.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Fy nghariad Tracy. Os fyswn i wedi dweud unrhyw un arall, fysa hi yn fy saethu!

Mae hi’n dod o Warrington, a wnaethon ni gyfarfod ar-lein, ac mae hi ar ganol symud drosodd i Wrecsam. Tydi hi ddim yn sgwennu barddoniaeth, ond mae hi wastad yn cefnogi fi. Felly mae gen i cheerleader yn fy nghornel!

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

Rightey dokey’ ydy’r un dw i yn ei ddefnyddio ar y funud.

Yn hytrach na dweud ‘Rightey ho’ neu ‘Okey dokey’, rydw i yn defnyddio ‘rightey dokey’.

Hoff wisg ffansi? 

Dw i yn un garw am cosplay a mynd i’r conventions.

Yn yr un diweddara roeddwn i wedi gwisgo fel Jedi ar gyfer digwyddiad elusennol yn ardal Caer.

Hefyd, dw i wedi bod yn un o’r Dr Whos, ac yn Tony Stark [o’r ffilmiau Iron Man].

Dw i yn geek uffernol ac mae unrhyw beth fel yna yn apelio i fi.

Gwyliau gorau?

Doedd o ddim yn wyliau, as such, ond wnes i fynd i ŵyl cerddoriaeth metel caled o’r enw Hammerfest ym Mhrestatyn flynyddoedd yn ôl, tra’r oeddwn i yn gweithio ar bapur newydd.

Ac roedd yn gyfle i gyfweld nifer o fandiau a wanglo fy hun o gwmpas y lle.

Lot o gwrw, lot o frecwast wedi ffrio a lot o gerddoriaeth dda. Sbot on i fi!

Dw i yn edrych yn ôl ar hwnna fel y Golden Days!

Dw i yn hoffi lot o heavy metal, ond hefyd y blues a Miles Davis a Billie Holiday.

Ond yn fy arddegau roeddwn i yn beth maen nhw yn ei alw yn mini mosher ac wrth fy modd gyda band Viking Metal o’r enw Amon Amarth. Nhw oedd y gorau!

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Dim byd. Pan dw i yn cysgu, dw i yn cysgu.

Hoff ddiod feddwol?

Dw i yn un am y sheri. Bristol Cream yw’r gorau.

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

1984 gan George Orwell, oherwydd wnaeth o weld lot yn dod ymlaen llaw, jesd yn nhermau sut aeth y Rhyfel Oer.

A dw i yn hoffi Lord of the Rings a Game of Thrones a ffuglen wyddonol.

Ond dw i yn darllen pob dim.

Hoff fardd?

Dw i ddim yn un am ffefryns, mae hi’n dibynnu ffordd mae’r gwynt yn chwythu… ond wnes i fynd i weld Roger McGough, y bardd o Lerpwl, yn fyw yng Nghonwy pan oeddwn i tua 11. A wnaeth o wneud i fi sylweddoli fod barddoniaeth yn rhywbeth mae pobol yn gallu gwneud, darllen pob math o farddoniaeth, boed o’n ddigri neu drist neu bwysig neu beth bynnag.

Fo oedd yr arwr yn fy arddegau cynnar, a wnaeth fy nghael i i feddwl ‘mae hyn yn rhywbeth mae pobol yn wneud’.

Beth wnaethoch chi ddarganfod yn y cyfnod clo?

Wnes i ddechrau casglu diodydd ar gyfer fy drinks cabinet fy hun. Doeddwn i byth yn un am wneud coctels, ond wnes i ddechrau troi fy llaw at hynny.

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Dw i erioed wedi dysgu sut i reidio beic. Wnes i ddim gweld y pwynt pan oeddwn i’n blentyn. Roeddwn i jesd yn meddwl: ‘Os dw i eisiau mynd i rywle, dw i yn gallu cerdded’.