Bydd mwyafrif o strydoedd 30 milltir-yr-awr Cymru yn troi yn rhai 20mya fis yma ac mae llawer o anghytuno wedi bod am yr arafu… 

Ymhen ychydig tros wythnos, ar ddydd Sul 17 Medi, fe fydd terfyn cyflymder o 20mya yn cael ei osod ar y mwyafrif o ffyrdd sydd â therfyn cyflymder o 30mya yng Nghymru.

Ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r newidiadau daeth y mater yn daten boeth wleidyddol gyda dryswch ynglŷn â beth yn union fydd oblygiadau arafu’r traffig ar ein ffyrdd.

Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd fu yn gyrru’r drol ar ran y Llywodraeth ac mae o’n honni y bydd lleihau’r terfyn cyflymder yn achub bywydau a diogelu cymunedau.

Dywedodd Lee Waters mai’r flaenoriaeth yng Nghymru yw “gofalu am ein gilydd ac ymddiried yn yr wyddoniaeth”.

“Mae’r dystiolaeth yn dangos bod cerbyd sy’n teithio 30mya yn dal i deithio ar 24mya yn yr amser y daw car sy’n teithio 20mya i stop,” meddai.

“Yn ogystal ag achub bywydau, mae gyrru’n arafach yn helpu i greu cymunedau cryfach a mwy diogel – llefydd gwell i fyw ein bywydau ynddyn nhw.”

Ond nid yw llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig yn cytuno gyda dadleuon y Blaid Lafur.

Er ei bod hi’n cefnogi terfynau cyflymder 20mya ble mae’n angenrheidiol, megis o gwmpas ysgolion ac ysbytai, nid yw Natasha Asghar yn cytuno gyda’r nod o osod y terfyn newydd ar y mwyafrif o strydoedd 30mya.

“Nid oes hanner digon o feddwl wedi mynd fewn i’r polisi hwn,” meddai wrth Golwg.

“Yn wreiddiol y ddadl oedd cyrraedd targedau [carbon] sero net.

“Wedyn, pan ddaeth yr ystadegau yn ôl yn dweud ei fod am arwain at fwy o dagfeydd ac allyriadau [carbon], wnaeth y Dirprwy Weinidog newid ei gân a dechrau sôn am ddiogelwch ffyrdd.”

Mae polisïau tebyg eisoes wedi eu cyflwyno mewn rhannau arall o’r byd megis yn Sbaen ble gwelwyd gostyngiad o 14% mewn marwolaethau ar y ffyrdd.

Ond, yn ôl Natasha Asghar, mae data wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru sy’n adrodd stori wahanol.

Daw’r data dan sylw gofnodion yr heddlu o wrthdrawiadau ffyrdd.

Ei phryder yw bod y data rhwng 2017 a 2022 yn dangos gostyngiad o 33% mewn gwrthdrawiadau ar strydoedd 30mya, tra bod cynnydd o 174% ar strydoedd 20mya yn yr un cyfnod.

Ar y llaw arall, mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn dadlau bod y data yn cefnogi’r polisi newydd.

“Mae’r dystiolaeth yn glir: os ydyn ni’n gyrru’n arafach dydyn ni ddim yn brifo cymaint o bobol nag yn eu lladd nhw chwaith,” meddai Jane Dodds wrth Golwg.

Ychwanegodd bod y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau wedi bod yn edrych ar ddata ledled y Deyrnas Unedig ac yn cymharu strydoedd gyda therfynau o 20mya a 30mya.

Yn gyffredinol, canfuwyd bod nifer y damweiniau yn is ar gyfer ardaloedd ble roedd mesurau 20mya mewn lle.

Yn ôl y Gymdeithas, roedd y risg o farwolaeth yn dilyn gwrthdrawiad pan oedd rhywun yn cerdded yn cael ei daro, yn tua 1.5% ar strydoedd 20mya tra ei fod yn 8% ar rai 30mya.

Costio gormod?

Rhan arall o’r ddadl yw’r costau sydd yn gysylltiedig â rhoi’r terfyn cyflymder 20mya ar waith.

Yn ôl Natasha Asghar, bydd y cynlluniau yn costio tua £60 miliwn i’w wireddu ac mae’n honni  bod £26 miliwn eisoes wedi ei wario ar arwyddion ffyrdd i hyrwyddo’r terfyn newydd.

Yn yr hir dymor, disgwylir bydd y cynllun yn costio £4.5 biliwn i economi Cymru wrth i bobol orfod treulio mwy o amser yn teithio.

Mae dogfen a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru yn pwyso a mesur manteision ac anfanteision economaidd y cynllun.

Mae’n nodi bod y buddion yn cynnwys arbediad posib o £57.5 miliwn dros gyfnod o 30 mlynedd oherwydd gostyngiad mewn galwadau i’r gwasanaethau brys.

Yn ogystal, disgwylir bydd rhwng 40 a 440 yn llai o farwolaethau a rhwng 1,800 a 3,900 yn llai o ddamweiniau difrifol yn yr un cyfnod.

Maen nhw yn rhagweld y bydd hyn yn dod â budd ariannol o tua £1.4 biliwn i’r economi erbyn 2052.

Er hynny, mae’r un adroddiad yn nodi’r posibilrwydd bydd amseroedd teithio hirach yn dod ar gost o tua £6.4 biliwn.

Mae’n bwysig nodi mai amcangyfrif yw hyn a gall y gwir ffigwr amrywio  rhwng £2.7 biliwn a £8.9 biliwn.

“Y daith am gymryd hirach”

Er y costau ychwanegol, mae Jane Dodds o’r farn bod y polisi’n un sydd werth ei weithredu.

Mae hi’n credu mai problem fach yw costau ychwanegol ac amseroedd teithio hirach os yw’n golygu bod bywydau’n cael eu hachub.

“Y ddadl rydw i wedi ei chlywed gan y mwyafrif o bobol yw bod eu taith nhw am fod yn arafach a’u bod am orfod cychwyn yn gynt,” meddai.

“Mae hynny’n wir, mae’n rhaid i ni i gyd feddwl am yr amser bydd siwrne yn ei gymryd.

“Mae’n rhaid i ni i gyd edrych ar y daith a derbyn ei fod o am gymryd hirach.”

Ychwanegodd ei bod hi wedi edrych ar dystiolaeth amrywiol ynglŷn â’r polisi a bod sawl undeb plant yn cytuno gydag arafu i 20mya.

“Mae’n werth arafu i lawr i achub bywydau, yn enwedig rhai plant,” meddai.

Yn ogystal, mae hi’n credu bod manteision eraill i iechyd a llesiant y gymuned wrth arafu traffig.

Bydd llai o lygredd sain yn cael effaith gadarnhaol ar bobol sy’n byw wrth ymyl y ffyrdd, meddai, tra bod llai o allyriadau yn gam positif ar gyfer pobol gyda chyflyrau megis asthma neu broblemau calon.

Democratiaeth wedi ei ddiystyru?

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar leisiau’r cyhoedd yn yr achos hwn, yn ôl Natasha Asghar.

Dim ond 3% o bobol Cymru ddywedodd eu bod nhw eisiau gweld y terfyn cyflymder yn cael ei leihau mewn arolwg gan Lywodraeth Cymru, meddai.

“Y prif bryderon ynglŷn â ffyrdd oedd ansawdd gwael gwaith atgyweirio a thagfeydd,” meddai.

“Mae’r Llywodraeth wedi mynd yn eu blaenau i wthio eu hagenda nhw eu hunain o fod yn garbon niwtral ac wedi methu’r pwynt yn llwyr.”

Yn ôl Natasha Asghar, bu i 6,000 o bobol gymryd rhan mewn arolwg a dywedodd dros 60% eu bod nhw yn anghytuno gyda’r terfyn tra bod miloedd wedi arwyddo deisebau yn ei wrthwynebu.

“Rydym n’n byw mewn democratiaeth ac mae gan bawb yr hawl i siarad am y materion sy’n bwysig iddyn nhw,” meddai.

Ond yn ôl Jane Dodds bydd pawb wedi anghofio am y polisi newydd mewn ychydig fisoedd ac wedi dod i arfer gyda gorfod gyrru’n arafach.

Cyfeiriodd at yr adeg pan gafodd gorfodi gwisgo gwregys diogelwch ei gyflwyno yn 1983, rhywbeth mae hi’n ddweud oedd yn ddadleuol iawn ar y pryd ond erbyn hyn does prin neb yn meddwl dwywaith amdano. A’r un peth fydd hi gyda’r terfynau newydd, meddai.

“Bydden ni ddim yn meddwl am y peth mewn mis, neu chwe mis neu beth bynnag.”

Gwella trafnidiaeth, nid gostwng terfynau

Yn ôl Natasha Asghar, mae atebion callach o ran gwella diogelwch ar y ffyrdd a chyrraedd targedau sero net.

“Dywedais i fy mod i’n fwy na pharod i wrando ar ffyrdd i symud Cymru ymlaen, ond mae’r Llywodraeth wedi colli’r plot,” meddai.

Bu yn dadlau yn y siambr y dylai Llywodraeth Cymru ddilyn trywydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth sefydlu ymgyrch ‘GoSafe’.

Ychwanegodd bod yr ymgyrch, a gostiodd tua £20 miliwn, wedi cael effaith sylweddol ar bobol trwy fynd i’r afael â phroblemau megis yfed-a-gyrru a thecstio-a-gyrru.

Awgrym arall ganddi yw gwella ffyrdd y wlad ac adeiladu mwy ohonyn nhw trwy ddulliau ecogyfeillgar megis defnyddio hen deiars wedi eu hailgylchu.

Gwaedd y gwasanaethau brys

Pryder arall yw’r effaith y caiff y newidiadau ar weithwyr y gwasanaethau brys megis yr heddlu, diffoddwyr tân a gyrwyr ambiwlans.

“Rydw i’n meddwl bod y polisi am achosi anhrefn pur,” meddai Natasha Asghar.

Yng Nghymru mae’n rhaid i staff y gwasanaeth tân fyw o fewn pedair i wyth milltir o’r orsaf.

Dywedodd Natasha Asghar bod cyn-farsial tân wedi codi’r pwynt bod y terfyn cyflymder rhwng tai’r gweithwyr a’r orsaf yn 30mya yn y mwyafrif o achosion.

Roedd yn pryderu pe bai’r terfyn hwnnw yn cael ei ostwng i 20mya y byddai’n cymryd fwy o amser i gyrraedd yr orsaf dân, a hynny cyn gallu cychwyn ar y siwrne at y tân ei hun.

“Rydym wedi sôn am achub bywydau, ond faint o fywydau ydyn ni’n mynd i’w colli wrth beidio â chyrraedd yr argyfwng mewn amser?” Dyna gwestiwn y Tori.

Anghytuno mae Jane Dodds.

“Rydw i wedi cael llawer o bobol yn ysgrifennu ataf i yn dweud eu bod nhw ddim yn hapus am y mesurau,” meddai.

“Ond rydw i’n trio gwrando arnyn nhw a sicrhau eu bod nhw’n deall y sefyllfa.

“Rydw i wedi siarad gyda phobol sy’n gweithio mewn gorsafoedd tân ac fel rydw i’n deall, os oes angen iddyn nhw yrru’n gyflymach, bydd hynny’n cael ei gymryd i mewn i ystyriaeth gan yr heddlu neu phwy bynnag.”

Gadael gyrwyr tacsis ar ôl?

Mae gyrwyr tacsis hefyd wedi mynegi eu pryderon, meddai Natasha Asghar.

Dywedodd bod un gyrrwr wedi dweud wrthi ei fod yn ofnus am y newidiadau a’r effaith y caiff ar ei allu i gynnal ei deulu o dri.

Mae’n debyg fod y gyrrwr yn gwneud tua 30 taith tacsi ar ddiwrnod da, ond mae yn ofni y bydd hynny’n gostwng i 20 neu hyd yn oed 15 gyda’r polisi newydd, ac yntau yn gorfod gyrru yn arafach.

“Mae’r rhain yn bwyntiau da iawn ac maen nhw’n bethau dydy Llywodraeth Cymru heb eu hystyried,” meddai Natasha Asghar.

Nid yw yn credu bod modd gwneud eithriadau ar gyfer gweithwyr penodol fel dynion tân chwaith.

“Ble wyt ti’n tynnu’r llinell gydag eithriadau?

“Os basen ni’n rhoi eithriad i bawb yn y gwasanaeth tân fydd gyrwyr tacsis yn gofyn pam eu bod nhw’n cael eu gadael allan.

“Wedyn bydd rhywun sy’n weithiwr hanfodol yn gofyn yr un cwestiwn.”

Y terfyn eisoes ar waith yn Sir Conwy

Mae terfynau cyflymder 20mya eisoes mewn lle mewn rhai ardaloedd ledled Cymru megis tu allan i ysgolion.

Mae hyn yn wir am dref Llanfairfechan yn Sir Conwy, ble mae’r Cynghorydd Alun Rhys Jones yn cynrychioli’r Blaid Werdd.

Er ei fod yn cyfaddef ei bod yn anodd gweld pa mor dda mae’r terfyn yn gweithio ar hyn o bryd, mae’r cynghorydd sir – fel gweddill y blaid – yn cefnogi’r polisi newydd.

“Y peth mwyaf yw sicrhau diogelwch a lleihau’r siawns o gael damweiniau ac achosi niwed,” meddai wrth Golwg.

“Ac mae yna fuddion eraill hefyd fel lleihau’r defnydd o danwydd, lleihau allyriadau a lleihau sŵn.

“Pan wyt ti’n edrych ar y dystiolaeth, dwyt ti ddim yn colli llawer o amser wrth fynd i lawr o 30 i 20mya.”

Ychwanegodd bod terfyn o 20mya dros ardal ehangach hefyd yn arbed arian wrth leihau’r angen am gymaint o arwyddion ffyrdd.

Ac mae dyn y Blaid Werdd yn credu mai mater yw hi o addysgu gyrwyr am fuddion gyrru’n arafach ac mae’n rhagweld bydd y newidiadau’n cael effaith gadarnhaol ar y gymuned.

“Mae pobl yn teimlo’n fwy diogel yn y pentref pan wyt ti’n gyrru’n arafach, ac efallai’n mynd ar eu beic neu’n cerdded mwy.”