Gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd fydd “gêm fawr y grŵp”, yn ôl y sylwebydd Gareth Charles.

Bydd tîm Warren Gatland yn herio Ffiji yn Bordeaux am 8 o’r gloch nos Sul (Medi 10), gan obeithio na fyddan nhw’n ail-fyw’r hunllef gafodd tîm Gareth Jenkins yn Ffrainc yn 2007, pan gollodd y prif hyfforddwr ei swydd ar y ffordd adref o’r twrnament wedi’r golled annisgwyl o 38-34.

Yn ôl Gareth Charles, roedd y gêm honno’n “un fythgofiadwy am y rhesymau anghywir”, ond dydy e ddim yn disgwyl i dîm Warren Gatland ddiodde’r un siom 16 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

“Fi’n credu bo ni yn ddigon da i guro Ffiji,” meddai wrth golwg360.

“Roedd hi’n ffantastig o gêm [yn 2007], ond fe gostiodd hi swydd Gareth Jenkins iddo fe.

“Fi’n credu, dyna’r peth yn erbyn Ffiji yw bo ti ddim yn cael dy dynnu mewn i chwarae’r math o gêm wnaethon ni ar yr adeg yna maen nhw’n mo’yn i ni chwarae.”

Mae e’n sôn, wrth gwrs, am y dull enwog sydd gan dimau Ynysoedd y De o daflu’r bêl o amgylch gan ddefnyddio’r pymtheg chwaraewr er mwyn ceisio rhedeg a lledu’r bêl, yn hytrach na’r gêm gicio sy’n rhan mor nodweddiadol o’r gêm ryngwladol erbyn hyn.

Ond mae’n rhybuddio na ddylai Cymru geisio efelychu steil eu gwrthwynebwyr.

Sut mae ennill?

Sut, felly, mae trechu eu gwrthwynebwyr?

“Fi’n credu bod rhaid bod Cymru’n ddisgybledig, bo nhw yn chwarae gêm dynn, lot o gicio, peidio towlu’r bêl ambwyti a chwarae mewn i ddwylo Ffiji,” meddai Gareth Charles.

“Fi’n credu, o gael y math yna o reolaeth, dylen ni fod yn ddigon da i ennill honna.”

Bydd Cymru hefyd yn herio Awstralia, Georgia a Phortiwgal.

Ond y gêm gyntaf yn erbyn Ffiji fydd “gêm fawr y grŵp”, meddai.

“Os gollwn ni honna, rydyn ni mewn trafferth.

“Ond os enillwn ni honna, fi’n credu bod digon gyda ni wedyn i fynd trwodd.

“Fel ‘yf fi’n ei gweld hi ar y funud, fi’n credu taw ail fyddwn ni i Awstralia, ond o leiaf awn ni drwyddo.”

S4C am ddangos pob gêm rygbi Cymru yng Nghwpan y Byd

Mae’r sylwebydd Gareth Charles wedi bod yn siarad â golwg360 am Gymru, eu gobeithion a’u gwrthwynebwyr

Ffiji – disgyblaeth a doniau disglair

COLOFN RYGBI NEWYDD Gareth Charles, wrth iddo edrych ymlaen at benwythynos cyntaf Cwpan y Byd