Mae llysgenhadon ifanc yr Urdd yn paratoi i deithio i Gwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc er mwyn cyflwyno Cymru, y Gymraeg a Chymreictod i gynulleidfaoedd newydd.

Daw ymweliad Aelwyd Hafodwenog ar ôl i’r Urdd ymgymryd â gwaith tebyg yng Nghwpan Pêl-droed y Byd y dynion yn Qatar y llynedd.

Byddan nhw’n perfformio gerbron torfeydd yn Lyon cyn gêm Cymru yn erbyn Awstralia ar Fedi 24.

Fis nesaf, bydd prosiect ‘Chwarae yn Gymraeg’ yr Urdd yn hyrwyddo Cymru a’r Gymraeg i blant a phobol ifanc Lorient a Nantes yn Llydaw.

Codi proffil

“A hithau’n Flwyddyn Cymru yn Ffrainc Llywodraeth Cymru, roedd yr Urdd yn awyddus i ddatblygu cyfleoedd i blant a phobol ifanc Ffrainc a Llydaw ddysgu am ein gwlad, iaith a’n diwylliant, yn ogystal â chynnig cyfleoedd newydd i aelodau a staff y Mudiad ddysgu gan gymunedau eraill am eu diwylliannau nhw,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.

“Byddwn yn cyflwyno Cymru a’r Gymraeg i gynulleidfaoedd yn Lyon, a gydag ieuenctid dinasoedd Lorient a Nantes drwy gân a chwaraeon.

“Cawsom ymateb ardderchog i’n sesiynau ‘Chwarae yn Gymraeg’ yn Doha a Dubai fel rhan o ymgyrch Cymru yn ystod Cwpan y Byd 2022, ac eto yn Nulyn yn ystod dathliadau Dydd Gŵyl Dewi eleni.

“Rydym yn falch o gael cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru o godi proffil rhyngwladol Cymru.”

Yn ôl Dai Baker, arweinydd Aelwyd Hafodwenog, “mae cael cynrychioli’r Urdd a bod yn rhan o ymgyrch Cymru yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc yn gyfle heb ei ail”.

“Yn ogystal â bod yn brofiad unigryw i ni fel aelwyd, dyma gyfle euraidd i ddangos cefnogaeth i’n tîm cenedlaethol, a rhannu’n iaith a’n diwylliant gyda’r byd,” meddai.

Digwyddiadau

Cyn gêm Cymru v Awstralia ar 25 Medi, bydd Côr Aelwyd Hafodwenog yn perfformio ym Mhentref Rygbi Lyon, mewn digwyddiad gan Lywodraeth Cymru yn ogystal ag ysgol leol i bobol ifanc sy’n ail gydio mewn addysg.

Fel rhan o’u perfformiadau yn y ddinas, bydd y côr yn canu caneuon traddodiadol Cymreig, yn dawnsio gwerin ac yn cymryd rhan mewn gweithdai diwylliannol wrth ymgysylltu â phobol ifanc lleol.

Fel rhan o’r paratoadau ar gyfer gêm Cymru v Georgia yn Nantes ar Hydref 7, bydd yr Urdd yn cynnal sesiynau ‘Chwarae yn Gymraeg’ mewn ysgolion yn Lorient (Hydref 2-3) ac yn Nantes (Hydref 5-6).

Wedi’i greu gan yr Urdd, mae ‘Chwarae yn Gymraeg’ yn rhaglen sy’n cyflwyno’r iaith a’r diwylliant Cymraeg i blant mewn ffordd hwyliog, trwy chwarae a gweithgareddau amrywiol.

Mae’r gweithgareddau’n canolbwyntio naill ai ar chwaraeon neu ddiwylliant, gan ganiatáu i blant ddysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

Mae’r prosiectau hyn wedi’u hariannu gan Adran Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru fel rhan o weithgareddau Blwyddyn Cymru yn Ffrainc i hyrwyddo Cymru a’r Gymraeg yn rhyngwladol.