Mae prosiect newydd ar y gweill i fesur agweddau trigolion ynys Gibraltar at iaith.
Dyma brosiect mawr cyntaf Cyngor Llyfrau Cenedlaethol newydd yr ynys, a’r prosiect cyntaf o’r math hwn.
Mae’r arolwg yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â phrifysgolion yn Sbaen, wrth i 21 o drigolion Gibraltar gael adrodd hanes eu hiaith am y tro cyntaf erioed.
Bydd yr arolwg yn mesur perthynas pobol â iaith – o iaith yr aelwyd pan oedden nhw’n blant i’w syniadau ynghylch sut mae Saesneg, Sbaeneg ac Ilanto wedi esblygu dros y blynyddoedd.
Dywed y Cyngor Llyfrau mai un prif nod sydd ganddyn nhw yw cynyddu dealltwriaeth pobol o iaith yr ynys.
Bydd yr hanesion yn cael eu cyhoeddi fel cyfrol yn ddiweddarach eleni, a hynny fel rhan o bartneriaeth gyda Phrifysgol Vigo a Phrifysgol yr Ynysoedd Balearaidd.
Mae prosiect arall sydd ar y gweill gan y Cyngor Llyfrau Cenedlaethol yn casglu’r holl wybodaeth sydd ar gael am lenyddiaeth yr ynys sydd ar gof a chadw, ac maen nhw’n galw ar awduron i gyflwyno cofiannau byrion sy’n cynnwys manylion eu holl waith.
Bydd yr holl gofnodion yn cael eu rhestru ar wefan y Cyngor Llyfrau Cenedlaethol.
Yn ogystal, bydd gweithdai ysgrifennu’n cael eu cynnal dros yr wythnosau nesaf er mwyn hybu hunaniaeth genedlaethol a rhoi cyfle i awduron rwydweithio.
Bydd casgliad arall, o nofelau byrion awduron yr ynys, yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.