Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Gareth Miles, sydd wedi marw’n 85 oed.
Roedd yn ymgyrchydd iaith, awdur a dramodydd, ac mae wedi’i ddisgrifio fel “ysgrifennwr gwleidyddol iawn” wrth ysgrifennu nofelau a dramâu o safbwynt Marcsaidd, ac fel un yr oedd ei “fyd-olwg yn eang iawn” wrth osod ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith o fewn cyd-destun rhyngwladol a byd-eang.
Gareth Miles oedd un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a bu’n gadeirydd ar y mudiad rhwng 1967 a 1968.
Yn 1962, cafodd ei arestio am yrru ei feic yn beryglus yn Aberystwyth, ac fe wrthododd dalu dirwy hyd nes ei fod yn derbyn gohebiaeth yn y Gymraeg.
Galwodd ar eraill i brotestio dros yr iaith, ac arweiniodd hyn at sefydlu’r Gymdeithas yn ddiweddarach y flwyddyn honno.
Y tu hwnt i’r byd gwleidyddol, roedd hefyd yn nofelydd a dramodydd uchel ei barch.
Ysgrifennodd ddeg nofel, ac enillodd e wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2008 am Y Proffwyd a’i Ddwy Jesebel.
Bu hefyd yn ysgrifennu dramâu gwreiddiol yn ogystal ag addasu clasuron Saesneg a Ffrangeg i’r Gymraeg.
Ac yntau’n Farcsydd, cyfieithodd e Hamlet gan William Shakespeare i’r Gymraeg o’r safbwynt hwnnw.
‘Ysgrifennwr gwleidyddol go iawn’
Dywed y dramodydd Aled Jones Williams nad yw’n credu y byddai wedi cael gyrfa yn y maes heblaw am gefnogaeth Gareth Miles.
“Jest ar fater personol, heb Gareth Miles dydw i ddim yn meddwl buaswn i wedi ysgrifennu dim byd achos fo rhoddodd y wobr i mi yn Eisteddfod Castell-nedd 1994 am ddrama hir,” meddai wrth golwg360.
“Tasa fo heb wneud, dydw i ddim yn meddwl y buaswn i wedi ysgrifennu dim byd wedyn.
“Roeddwn i’n falch iawn o dderbyn sêl bendith Gareth Miles, achos fysech chi ddim yn dweud rŵan ond roedd o’n ffigwr allweddol yn y byd drama.”
Dywed fod Gareth Miles yn “ysgrifennwr gwleidyddol go iawn”, gan blethu ei gredoau Marcsaidd gyda byd y llwyfan.
“Mi oedd o’n ysgrifennu o’i safbwynt Marcsaidd, a dw i’n meddwl mai theatr oedd ei gariad gyntaf o.
“Roedd o’n deall theatr i’r dim.
“Un o’r pethau gorau welais i erioed yn y byd theatr Cymraeg oedd drama, efallai buasai lot ddim yn ei chofio hi.
“Banc y Byd oedd ei henw hi, drama gomisiwn gan Gymorth Cristnogol.
“Wnaethon nhw glirio y tu mewn i Gadeirlan Esgobaeth Bangor ac roedd hi’n ddrama wleidyddol gyda phob man tu mewn i’r Gadeirlan yn cael ei ddefnyddio.
“Roedd o’n defnyddio theatr fel llwyfan i’w fyd gwleidyddol, ac mae yna golled ar ôl hynny.
“Dydy hynna ddim yn digwydd cymaint rŵan yn y Gymraeg.
“Mi oedd o’n ffigwr hynod bwysig, yn y byd llenyddol a gwleidyddol.
“Mae’n golled enfawr ar ôl Gareth Miles.”
“Gosod y sylfeini” i Gymdeithas yr Iaith
Mae Dafydd Iwan yn cofio Gareth Miles yn nyddiau cynnar ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith.
“Mae’n newyddion trist iawn, achos roedd Gareth yn un o’r rhai a osododd y sylfaeni i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg,” meddai wrth golwg360.
“Efallai mai un o’i gyfraniadau mwyaf o oedd creu’r mudiad fel un oedd o ddifrif ond eto doedd o ddim yn cymryd ei hun ormod o ddifrif.
“Roedd o hefyd yn gosod ymgyrchoedd y Gymdeithas mewn cyd-destun rhyngwladol, ac roedd ei fyd-olwg o’n eang.
“Mae ei gyfraniad o wedi bod yn fawr i’r Gymdeithas, ac i Blaid Cymru cyn iddo ymuno â’r Blaid Gomiwnyddol, a bydd colled fawr ar ei ôl.
“Ac wrth gwrs mae o’n gadael corff sylweddol o lenyddiaeth, o nofelau a dramâu.”
Mae cadeirydd Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi talu teyrnged i ddylanwad Gareth Miles ar y Gymdeithas a’i werthoedd hyd heddiw.
“Heblaw am ei gyfraniad fel sylfaenydd a chadeirydd, Gareth Miles gyflwynodd ac a wreiddiodd y syniad sy’n dal i redeg trwy waith y Gymdeithas, bod brwydr yr iaith yn annatod i gyfiawnder cymdeithasol ac yn rhan o’r frwydr fyd-eang yn erbyn grym imperialaidd a chyfalafol,” meddai Robat Idris.
“Mae hynny’n rhan annatod o’n gweledigaeth ni hyd heddiw.
“Mae’n golled i’r mudiad cenedlaethol, y mudiad sosialaidd a’r chwith yng Nghymru, ond yn bennaf oll mae’n golled i’r teulu.”
Bu’r ymgyrchydd Ffred Ffransis yn rhan o’r mudiad o dan gadeiryddiaeth Gareth Miles.
“Gareth oedd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ar ganol yr 1960au pan ddois i’n aelod gweithredol, a bu’n arwain mewn dull amhrisiadwy trwy siarad ac annog aelodau ifainc newydd,” meddai.
“Fo yn bennaf oll roddodd y sicrwydd i ni i gyd fod y frwydr dros y Gymraeg yn rhan o frwydr ehangach fyd-eang dros gyfiawnder cymdeithasol, a rhoi pobl o flaen buddiannau.”
‘Lladmerydd cryf a digyfaddawd dros y Gymraeg’
Mae Heledd Fychan, llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg, fod Gareth Miles yn “lladmerydd cryf a digyfaddawd” dros yr iaith.
“Roedd ei gyfraniad i’w hyrwyddo a’i phrif ffrydio yn amhrisiadwy,” meddai.
“Roedd gan Gareth nid yn unig gariad at yr iaith ond cariad at Gymru hefyd, ac rydym yn cydymdeimlo â’i deulu a’i gyfeillion yn eu colled.”