Mae’r Haf Bach Mihangel ledled Cymru ar hyn o bryd yn benthyg ei enw i ŵyl gerddorol newydd sbon yng nghanolfan Saith Seren Wrecsam ddiwedd yr wythnos hon.

Daeth yr heulwen braf â thymor o lawenydd a hwyl i’r ardal, wrth i’r trefnwyr baratoi i groesawu Fleur de Lys, Gwilym, Y Cledrau a Bwncath.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd cyfarwyddwyr canolfan Gymraeg Wrecsam eu bod nhw wedi prynu eu hadeilad, a daeth hyn ar yr un adeg â’r cyhoeddiad bod Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn dod i Wrecsam yn 2025.

Mae cymesuredd yn y ffaith fod y Saith Seren wedi’i sefydlu wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â’r fro yn 2011, a bod yr ŵyl hon yn cael ei sefydlu ar drothwy’r ymweliad nesaf ymhen dwy flynedd.

Bydd Haf Bach Mihangel yn cychwyn nos Wener (Medi 8) gyda Fleur de Lys, fydd yn cael cefnogaeth gan y band ifanc lleol Catalyst.

Un sydd wrth ei fodd hefo’r sefyllfa bresennol, wedi blynyddoedd o weithio’n ddi-flino dros y Gymraeg yn y fro, yw Chris Evans, Cadeirydd y Saith Seren.

Eisiau mwy o gigs Cymraeg yn yr haf

Yn ôl Chris Evans, cadeirydd Saith Seren, fe fu’n bwriadu trefnu gŵyl hafaidd yn Wrecsam ers tro.

“Mae yna sawl gŵyl gerddorol wych yng Nghymru, fel Gŵyl Cefni, Gŵyl Rhuthun ac yn y blaen, ac ers tro rwy’ wedi ystyried cynnal gŵyl o ryw fath yn Wrecsam,” meddai wrth golwg360.

“Rydyn ni wastad wedi cynnal gig i ddathlu Diwrnod Owain Glyndŵr ganol mis Medi, ond eleni roeddwn i eisiau ehangu nifer y gigiau Cymraeg rydyn ni’n eu cynnal ar adeg yma’r flwyddyn.

“Rydw i’n hynod o falch o fod wedi llwyddo i ddenu pedwar o fandiau ifanc gorau Cymru, sef Fleur de Lys, Gwilym, Y Cledrau a Bwncath.

“Yn hytrach na’u rhoi gyda’i gilydd dros un penwythnos, dw i wedi gadael pythefnos rhwng pob gig, gan obeithio y bydd hyn yn rhoi cyfle i bobol fwynhau pob un i’r eithaf, ac adfer eu hegni a mynychu pob un!”

Bandiau ifanc y dyfodol

Yn ôl Chris Evans, mae ymddeoliad diweddar Bryn Fôn a’r Band yn cynnig cyfle ychwanegol i fandiau ifanc y dyfodol gamu i’r llwyfan mawr.

Ond mae hefyd yn gyfle i bobol fagu hyder yn eu Cymraeg hefyd.

“Dwi wedi dewis bandiau ifanc yn fwriadol oherwydd, yn enwedig yn dilyn ymddeoliad Bryn Fôn a’r Band, mae angen rhoi cyfle i rai iau gymryd lle yr hen ffefrynnau, a denu cenhedlaeth newydd o gefnogwyr,” meddai.

“Mae hyn mor bwysig, oherwydd mae’n helpu pobol ifanc sydd wedi dysgu’r Gymraeg yn Ysgol Morgan Llwyd i ddal gafael ar yr iaith ar ôl gadael yr ysgol, a hefyd yn rhoi hwb i ddysgwyr newydd barhau gyda’u hymdrechion i ddysgu Cymraeg.

“Bydd yna lawer mwy o gigiau a nosweithiau o adloniant yn Saith Seren dros y ddwy flynedd nesaf wrth i ni baratoi at yr Eisteddfod.

“Gyda phopeth sy’n digwydd efo’r clwb pêl-droed, a’r cais i fod yn Ddinas Diwylliant 2029, mae hi’n amser cyffrous yn Wrecsam!

“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y tri gig sy’n rhan o Ŵyl Haf Bach Mihangel Wrecsam, ac i ddwyn llinell gan Rob McElhenney, mae hi wastad yn heulog yn Wrecsam!”

Y gigs

Gwylbachfihanegl2

Medi 8: Gig Owain Glynŵr – Fleur de Lys, Catalyst (£10, neu £7 i fyfyrwyr, a dau docyn am bris un i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wrth ddangos tystiolaeth megis tocyn, ap neu gerdyn crafu).

Medi 22: Gwilym, Y Cledrau

Hydref 6: Bwncath

  • Mae modd prynu tocynnau yn y Saith Seren, neu drwy anfon neges destun at Chris Evans ar 07885 567 512.