Mae’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau BAFTA Cymru 2023 wedi’u cyhoeddi.

Daeth cadarnhad eisoes mai Rakie Ayola yw enillydd Gwobr Siân Phillips eleni.

Mae’r gwobrau’n anrhydeddu rhagoriaeth ac yn dathlu doniau creadigol ar draws ffilm a theledu yng Nghymru.

Mae 22 o gategorïau i gyd, sy’n dathlu ystod eang o feysydd o actio i grefft a chynhyrchu.

Bydd yr holl enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod seremoni arbennig yng Nghasnewydd ar Hydref 15.

Mae’r ffilm Y Sŵn, sy’n adrodd hanes sefydlu S4C, wedi’i henwebu ar gyfer pum gwobr, tra bod Greenham wedi cael pedwar enwebiad.

Mae tri enwebiad yr un i Chris a’r Afal Mawr, His Dark Materials, The Lazarus Project a The Pact.

Ymhlith y rhai sydd wedi’u henwebu am y tro cyntaf ar gyfer gwobr BAFTA Cymru mae Graham Land, Katie Wix, Owain Arthur, Rakie Ayola a Taron Egerton.

‘Dathlu a hyrwyddo yn bwysicach nag erioed’

Yn ôl Angharad Mair, cadeirydd BAFTA Cymru, mae dathlu a hyrwyddo gwaith cynhyrchu ffilm a theledu o Gymru a sicrhau ei fod yn cyrraedd pob cwr o’r byd “yn bwysicach nag erioed”.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld twf aruthrol yn y sectorau creadigol yma yng Nghymru ac mae wedi bod yn wych gweld cynnydd yn nifer y lleoliadau a chynyrchiadau Cymreig ar y sgrin yn rhyngwladol ac yn fyd-eang,” meddai.

“Nod Gwobrau BAFTA Cymru yw dathlu rhagoriaeth ar draws y diwydiannau sgrin, ac fel cadeirydd BAFTA Cymru, rwy’n hynod o falch ac yn llawn cyffro i weld pa berlau creadigol fydd yn rhagori yn ystod Gwobrau Cymru eleni.

“Llongyfarchiadau gwresog i bawb sydd wedi cael eu henwebu.”

Y seremoni

Bydd seremoni Gwobrau BAFTA Cymru yn cael ei chynnal yn yr ICCW yng Nghasnewydd am y tro cyntaf eleni, a bydd modd gwylio’r cyfan ar sianel YouTube BAFTA hefyd.

Alex Jones fydd yn arwain y noson unwaith eto, a bydd llu o sêr yn ymuno â hi i ddatgelu’r enillwyr ac i gyflwyno’r gwobrau.

“Rwyf wrth fy modd i fod yn cyflwyno Gwobrau BAFTA Cymru eleni eto ac i ddathlu’r holl gynyrchiadau ffilm a theledu sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru,” meddai.

“Mae bod yn rhan o ddigwyddiad sy’n hyrwyddo a dathlu’r holl dalent a chreadigrwydd gwych sy’n dod allan o’m mamwlad bob amser yn bleser.

“Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cael eu henwebu ac edrychaf ymlaen at gael eich cwmni ar y noson.”

Dyma’r rhestr yn ei chyfanrwydd.

33 o enwebiadau i S4C

Mae S4C wedi derbyn 33 o enwebiadau eleni.

Roedd saith enwebiad i Y Sŵn (Swnllyd), gan gynnwys Cyfarwyddwr Gorau i Lee Haven Jones, i Roger Williams fel yr Awdur, ac i Eiry Thomas o ran categori’r Actores Orau.

Cafodd cyfres Stori’r Iaith (Rondo Media) bump enwebiad, gan gynnwys y Gyfres Ffeithiol Orau ac hefyd enwebiad i Gruffudd Sion Rees fel Cyfarwyddwr Cyfres Ffeithiol.

Llwyddodd S4C a Boom Cymru i gipio y tri enwebiad ar gyfer y categori Rhaglen Blant, ar gyfer Gwrach y Rhibyn, Mabinogiogi ac Y Goleudy.

Roedd pedwar enwebiad i gyfres Greenham (Tinopolis) a tri enwebiad i Chris a’r Afal Mawr (Cwmni Da).

Cyflwynwyr rhaglenni S4C oedd y pedwar gafodd eu henwebu ar gyfer y categori, Chris Roberts am Chris a’r Afal Mawr (Cwmni Da), Emma Walford a Trystan Ellis-Morris am Prosiect Pum Mil (Boom Cymru) ac fe gafodd Lisa Jên a Sean Fletcher enwebiad yr un am eu penodau nhw o Stori’r Iaith (Rondo Media).

“Llongyfarchiadau mawr i bawb gafodd eu henwebu eleni ar gyfer gwobr BAFTA Cymru 2023,” meddai Llinos Griffin-Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C.

“Dwi mor falch o lwyddiant cynnwys S4C gan ei fod yn dangos y talent, creadigrwydd a gwaith caled y sector greadigol yng Nghymru a’r holl gwmnïau cynhyrchu sy’n cyfrannu cynnwys ar ein cyfer.

“Pob lwc i bawb sydd wedi cael eu henwebu yn seremoni wobrwyo fis nesaf.”

“Anrhydedd” i Rakie Ayola ymuno ag enillwyr Gwobr Siân Phillips

Elin Wyn Owen

“Mae’r duwiau Cymreig wedi lapio eu breichiau o fy nghwmpas,” meddai wrth dderbyn Gwobr Siân Phillips a pharatoi i ganu yn y Gymraeg yn y West End