Cyhoeddodd BAFTA Cymru ddoe (dydd Llun, Medi 4) mai’r actores Rakie Ayola yw enillydd Gwobr Siân Phillips eleni.

Mae Gwobr Siân Phillips yn cael ei chyflwyno i Gymro neu Gymraes sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i deledu neu ffilm.

Dywedodd yr actores wrth golwg360 ei bod hi’n “anrhydedd” ymuno â chyn-enillwyr fel Michael Sheen a Ruth Jones.

Mae Rakie Ayola wedi actio a chynhyrchu ym myd y ffilm, theatr a theledu dros dri degawd, ac wedi ymddangos ar raglenni fel Black Mirror, Doctor Who, The Pact a Noughts + Crosses.

Enillodd y wobr am yr Actores Gefnogol Orau yng Ngwobrau Teledu BAFTA 2021 am ei phortread o Gee Walker yn ffilm y BBC, Anthony.

Mae’r actores o Drelái wedi bod yn eiriolwr dros ehangu amrywiaeth a chynrychiolaeth talent ar, ac oddi ar, y sgrin ar hyd ei bywyd.

‘Yn rhan o rywbeth’

Mae Rakie Ayola yn ymuno ag enwau fel Michael Sheen, Rhys Ifans, Ruth Jones, Ioan Gruffudd a Russell T Davies sy’n gyn-enillwyr Gwobr Siân Phillips.

“Ges i wybod ei fod e’n gyfrinachol nes hyn, ond mi es i ar wyliau am dair wythnos felly wnes i ddim meddwl am y peth achos roedd e’n rhy fawr i feddwl am,” meddai Rakie Ayola wrth golwg360.

“Wedyn wnes i sylweddoli; dydyn nhw ddim yn jocian.

“Mae e’n arbennig, ond yn overwhelming wrth edrych ar y rhestr o’r holl bobol sydd wedi ennill.

“Ond be sy’n lyfli ydy fy mod i wedi nabod rhai o’r cyn-enillwyr yma fel Michael Sheen a Ruth Jones ers ein bod ni’n tua 16 oed gan ein bod ni i gyd wedi gwneud Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru gydag ein gilydd.

“Felly mae’n fendigedig, achos nid yn unig ydw i wedi eu hadnabod ers cyn iddyn nhw ddod yn adnabyddus, ond dw i’n ffan fawr o’u gwaith.

“Mae’n teimlo fel bod y cyn-enillwyr yn cymryd fy llaw a dw i’n ymuno â’r llinell, ac yna byddai’n estyn fy llaw i bwy bynnag fydd yn ennill ar fy ôl.

“Dw i’n gobeithio bod derbyn y wobr yma’n golygu fy mod yn cael gweithio mwy gyda’r bobol sydd wedi’i dderbyn o fy mlaen a’r bobol sydd eto i’w dderbyn.

“Does gen i ddim diddordeb mewn bod yn ynys pan mae’n dod at actio.

“Dw i’n hoffi’r syniad o fod yn rhan o rywbeth.

“Mae’n anrhydedd i mi gael eistedd ymhlith yr enwau hynny.”

Edmygu Siân Phillips

Wrth dyfu i fyny yn Nhrelái yng Nghaerdydd, penderfynodd Rakie Ayola yn wyth oed ei bod am fod yn actores ar ôl gwylio Barbra Streisand ar Hello Dolly ar BBC1, ac mae wedi parhau i edmygu Barbra Streisand ers hynny.

Ond un arall a oedd yn ysbrydoliaeth iddi oedd Siân Phillips ei hun.

“Roeddwn i’n gwybod am Siân Phillips cyn fy mod i’n gwybod ei enw, gan fy mod i’n gwylio I, Claudius yn saith neu wyth oed… Er na ddylai blentyn saith neu wyth oed fod yn ei wylio.

“Wnes i dyfu fyny a chanfod ei bod hi o Gymru, ac os tase ti’n gorfod enw actores Gymreig – Siân Phillips byddai’r enw cyntaf.

“Mae e’n anferth fy mod i wedi ennill ei gwobr hi.”

Canu yn y Gymraeg yn y West End

Heno (nos Fawrth, Medi 5), fe fydd hi’n cymryd rhan mewn sioe gerdd o’r enw For Tonight yn yr Adelphi Theatre yn Llundain.

Gan gyfuno alawon a rhythmau corawl traddodiadol Cymreig, indie-pop, gwerin a Romani, mae For Tonight wedi’i gosod yng ngogledd Cymru a Lerpwl yn y 19eg ganrif ac yn adrodd hanes dau deulu, teulu Roma a theulu o ffermwyr Cymreig.

Rhwng popeth, mae Rakie Ayola’n teimlo bod y “duwiau Cymreig wedi lapio eu breichiau” o’i chwmpas.

“Dw i’n agor y sioe yn canu hwiangerdd Gymreig, felly dw i wrth fy modd oherwydd mae amseriad hyn a’r cyhoeddiad gan BAFTA Cymru fel bod Cymru yn nodio ata i.

“Dydw i erioed wedi canu ar lwyfan yn y West End a’r tro cyntaf dw i’n ei wneud o, fydd o’n y Gymraeg.

“Dw i’n teimlo fel bod y bydysawd yn dweud rhywbeth wrtha i.

“Bydd fy nghalon fach Gymreig yn pwnio gymaint.”