Mae label cerddoriaeth annibynnol o Ddyffryn Nantlle wedi cael eu bygwth gyda dirwy o £5,000 neu chwe mis yn y carchar am osod posteri i hysbysebu eu gig o amgylch dinas Bangor.

Roedd y posteri yn hysbysebu gig sydd wedi ei drefnu gan label INOIS nos Sadwrn (9 Medi) yn nhafarn y Belle Vue ym Mangor i lansio EP newydd y band ifanc Maes Parcio.

Yn yr e-bost, sydd wedi cael ei dangos i golwg360, mae Warden Gorfodaeth Stryd a gyflogir gan Gyngor Gwynedd yn dweud: “O batrolau diweddar o amgylch ardal Bangor rwyf wedi sylwi fod yna sawl poster wedi eu gosod o gwmpas yr ardal.

“Rwy’n deall eich bod am hyrwyddo’ch gig/cyngerdd i’r cyhoedd ond i’ch gwneud yn ymwybodol, mae gosod posteri’n anghyfreithlon yn drosedd.

“Os caiff ei ddal gan Warden Gorfodi Stryd, gallai’r troseddwr gael dirwy yn y fan a’r lle.

“Os ceir yn euog o drosedd, gall y ddirwy uchaf fod hyd at £5,000 neu chwe mis o garchar.”

‘Anghredadwy’

Dywedodd Hedydd Ioan, cyd-sylfaenydd y label INOIS: “Pan wnes i weld yr e-bost am y tro cyntaf wnes i chwerthin i ddweud y gwir.

“Mae’n anghredadwy.

“Mae’r ffaith bod arian y cyngor yn cael ei wario ar bobol i fygwth pobol ifanc yn lle ariannu gweithgareddau i hybu’r celfyddydau yn lleol yn warthus.

“Ar ben hynny roeddem yn gorfod gofyn i gael yr e-bost yn Gymraeg oherwydd roedd yr e-bost gwreiddiol yn uniaith Saesneg.”

Ychwanegodd ar wefan X (Twitter yn flaenorol): “Cafodd ein gweithred o osod posteri o gwmpas y ddinas ei roi yn yr un categori â ‘fly-tipping’ a ‘dog fouling‘.

“Amlwg fod y parch a’r gefnogaeth gan ein cyngor lleol yn wych.”

‘Eironig’

Ychwanegodd drymiwr y band Maes Parcio, Owain Siôn: “Mae’r ffaith eu bod nhw’n rhoi mwy o bwyslais ar fiwrocratiaeth a bod darn bach o bapur ddim yn cael bod yn y lle penodol yma’n warthus.

“Dydyn ni fel band byth wedi cael cefnogaeth gan y cyngor a’r cyswllt cyntaf rydan ni wedi cael ydy nhw’n bygwth i roi ein trefnwyr yn y carchar.”

Mae’r band yn sgrifennu cerddoriaeth wleidyddol gyda nifer o’r traciau ar yr EP newydd, fel ‘Nodiadau ar Gariad’ a Gwleidyddiaeth’ yn cwestiynu sut mae gwleidyddiaeth fodern yn effeithio bywydau pobol ifanc.

“Mae’n eithaf eironig fod band sydd yn ceisio herio’r drefn ddim hyd yn oed yn gallu trefnu gig heb gael eu bygwth,” meddai’r label mewn datganiad.

Mae’r label yn dweud eu bod nhw’n “fwy penderfynol nag erioed” i roi llais i artistiaid ifanc newydd, “beth bynnag y gost”.

‘Trosedd amgylcheddol’

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Fel Cyngor, rydym yn nodi fod gosod posteri’n anghyfreithlon yn drosedd amgylcheddol a ystyrir yn ymddygiad gwrth gymdeithasol.

“Rydym yn derbyn nifer sylweddol o gwynion gan y cyhoedd – yn enwedig yn ardal Bangor – am bosteri a graffiti sy’n cael effaith andwyol ar edrychiad canol y ddinas ac yn difrodi eiddo cyhoeddus a phreifat.

“Gall rhywun sy’n eu cael yn euog o drosedd o’r fath wynebu cosb benodedig o £100 yn daladwy am bob trosedd, neu erlynir gan y llys gellir wynebu dirwy o hyd at £5,000 neu ddedfryd o garchar am hyd at 6 mis.

“Rydym yn cefnogi ymdrechion unigolion a mudiadau i drefnu a chynnal gweithgareddau cymdeithasol ac yn eu hannog i fod yn gyfrifol wrth eu hyrwyddo, er enghraifft gosod eu posteri ar hysbysfyrddau cymunedol; gofyn i arddangos posteri mewn siopau, caffis neu dafarndai; neu hyrwyddo drwy gyfryngau cymdeithasol.

“Mae’n ddrwg iawn gennym fod e-bost Saesneg wedi ei anfon gan aelod o’n staff, a byddwn yn gwneud yn siŵr bod ymddiheuriad llawn yn cael ei anfon at y derbynnydd.

“Mae gan Gyngor Gwynedd bolisi iaith gadarn sydd yn gosod y disgwyliad bod unrhyw ohebiaeth gychwynnol efo aelod o’r cyhoedd yn ddwyieithog, oni bai bod dewis iaith yr unigolyn dan sylw yn hysbys i ni.

“Mae’n ymddangos bod camgymeriad wedi ei wneud yn y sefyllfa yma, a byddwn yn gwirio ein trefniadau i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.”