Bydd côr Only Girls Aloud yn cael ei lansio yn y gorllewin dros yr hydref.

Elusen Aloud, gafodd ei sefydlu er mwyn denu pobol ifanc at ganu corawl, fydd yng ngofal y côr i ddisgyblion Blwyddyn 7 i Flwyddyn 13.

Daw’r cyhoeddiad am y côr newydd yn dilyn llwyddiant Only Girls Aloud yn y de.

Bydd yr ymarferion yn cael eu cynnal unwaith y mis yn ystod y tymor, a’r bwriad yw cynnal yr un cyntaf ddechrau mis Hydref yn Llangrannog.

Fe fydd y lleoliad yn newid o fis i fis fel bod aelodau o bob rhan o’r gorllewin yn gallu ymuno, meddai’r elusen.

Rydyn ni mor gyffrous i lansio Only Girls Aloud yng Ngorllewin Cymru a rhoi cyfle i fwy o bobl ifanc gysylltu ag ymgysylltu ag eraill wrth ddatblygu eu sgiliau canu a’u hyder,” meddai Beth Jenkins, Rheolwr Prosiect Gorllewin Cymru’r elusen.

“Bydd Only Girls Aloud yng Ngorllewin Cymru yn darparu lle diogel a chyfeillgar i ferched ifanc fynegi eu hunain yn rhydd â chael cyfleoedd perfformio unigryw na fyddent fel arall yn cael cyfle i gymryd rhan ynddynt.

“Y rhan fwyaf cyffrous yw, fel prosiect newydd, bod aelodau sefydlu Gorllewin OGA yn cael y cyfle i lunio dyfodol y côr.”

‘Cam naturiol’

Yn ogystal ag Only Girls Aloud yn y de, mae gan yr elusen gôr Only Boys Aloud, wnaeth gystadlu ar Britain’s Got Talent dros ddegawd yn ôl, ac Only Kids Aloud.

Ychwanega Carys Wynne-Morgan, Prif Weithredwr yr elusen, eu bod nhw’n “hynod falch” i allu dod â’r côr i’r gorllewin.

“Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yng Nghaerdydd, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ehangu ein gwaith gyda merched yn eu harddegau, a chyda chymaint o ddiddordeb gan bobol ifanc yng Ngorllewin Cymru, roedd hwn yn teimlo fel y cam naturiol nesaf i ni,” meddai.

“Rwy’n edrych ymlaen at gael gweld sut mae hyn yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf, yn enwedig sut y gallwn gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc trwy ganu torfol yn y Gorllewin.”

Dylai unrhyw un sydd yn awyddus i ymuno gysylltu â ogagorllewin@thealoudcharity.com i gofrestru eu diddordeb.