Mae cryn edrych ymlaen at ŵyl Llais eleni, ar ôl ychwanegu’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig ar yr arlwy.

Yn ôl Huw Stephens, cyd-sylfaenydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, bydd y noson yn “arbennig iawn” oherwydd ei lleoliad yn Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac oherwydd y Wobr fawr.

“Mae’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn ymwneud â hybu’r albymau gorau o Gymru bob blwyddyn, ac mae cynnal y seremoni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn ei gwneud hi’n noson arbennig iawn,” meddai.

Daw ei sylwadau ar ôl i Ganolfan Mileniwm Cymru gyhoeddi’r ail don o artistiaid a pherfformiadau ar gyfer Llais 2023, yr ŵyl gelfyddydau ryngwladol flaenllaw a fydd yn dychwelyd i Gaerdydd rhwng Hydref 11-15.

Y rhaglen

Mae’r rhaglen eclectig wedi’i hysbrydoli gan yr offeryn sy’n cysylltu pob un ohonom ni – y llais.

Bydd yr ŵyl yn agor ar Hydref 10 gyda seremoni’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, dathliad arbennig o’r gerddoriaeth newydd orau yng Nghymru a chyfle i hybu’r albymau gorau dros y deuddeg mis diwethaf.

Bydd nifer o berfformiadau byw yn ystod y noson gan rai o’r enwebeion ac arddangos y gerddoriaeth newydd gorau o Gymru.

Mae rhestr hir y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni o 140 o albymau yn cynnwys yr albymau diweddaraf gan un o gyn-berfformwyr Llais, John Cale (Mercy) a Gruff Rhys (The Almond & The Seahorse).

Y beirniaid eleni yw Dave Acton (Larynx Entertainment), Huw Baines (The Guardian / NME / Kerrang), Tegwen Bruce Deans (newyddiadurwr cerddoriaeth), Mirain Iwerydd (BBC Radio Cymru), Nest Jenkins (Backstage ITV Cymru Wales) ac Eddy Temple Morris (Virgin Radio), ac mae’r rhestr hir lawn ar gael ar www.wmp.cymru.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru,” meddai Huw Stephens, cyd-sylfaenydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.

“Mae’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn ymwneud â hybu’r albymau gorau o Gymru bob blwyddyn, ac mae cynnal y seremoni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn ei gwneud hi’n noson arbennig iawn.

“Edrychwn ymlaen at ddatgelu’r rhestr fer yn fuan!”

Gorwelion

Ddydd Gwener, Hydref 13, bydd BBC Introducing a BBC Gorwelion / Horizons – cynllun gan BBC Cymru Wales mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru – yn ymuno â Llais i gyflwyno artistiaid lleol cyffrous newydd, a chydweithrediadau byw arbennig ar gyfer BBC Introducing Live eleni yng Nghaerdydd.

Mae’r artistiaid a’r bandiau lleol sydd wedi’u cadarnhau yn cynnwys L E M F R E C K, NOOKEE a Source.

“Bydd hyn yn ddathliad rhyfeddol o gymunedau cerddoriaeth yn dod ynghyd, noson i weld syniadau yn anadlu, ac eneidiau yn canu, a cherddorion yn codi gêr mewn cynnig creadigol a fydd yn codi’r to,” meddai Bethan Elfyn, Uwch-gynhyrchydd Gorwelion / Horizons.

“Diolch i’r tîm yn Llais am weld rhywbeth a oedd yn hedyn bach, a meithrin y syniad, gan adael iddo dyfu a datblygu mewn ffordd organig o’r cerddorion eu hunain.

“Dwi mor ddiolchgar y gallwn hwyluso a bod yn rhan o’r daith honno.”

The Cab, Casnewydd

Bydd lleoliad Casnewydd The Cab yn cyflwyno lein-yp llawn o roc pync DIY amrwd, gan symud o seleri a chlybiau bach chwyslyd i oleuadau llachar Canolfan Mileniwm Cymru.

Ochr yn ochr â hyn, o Fedi 25 bydd dangosiadau rheolaidd o’r ffilm VR am dyfu i fyny, Battlescar: Punk Was Invented by Girls yn Bocs, a Wasteland of My Fathers, arddangosfa gysylltiedig gan Hanes Miwsig Caerdydd yn dathlu’r byd pync yng Nghymru.

Bydd y band indie roc o Loegr, The Big Moon yn ymddangos yn Llais am y tro cyntaf gyda pherfformiadau o’u halbwm cyntaf, Love in the Fourth Dimension, gafodd ei enwebu am Wobr Mercury.

Bydd y canwr gwerin Richard Dawson yn dychwelyd i Gaerdydd am berfformiad unigol arbennig ar ôl rhyddhau ei albwm diweddaraf The Ruby Cord y llynedd.

Bydd Flight of the Phoenix yn premiere byd, gyda chyflwyniad newydd o gerddoriaeth wedi’i hysbrydoli gan fywyd ac oes Abey Mirza, cantores Hazara enwog o Affganistan, wedi’u hailddychmygu drwy lais ac arddull Elaha Soroor (The Boy with Two Hearts).

Partneriaeth ag Archif Ddarlledu Cymru

Bydd partneriaeth Canolfan Mileniwm Cymru ag Archif Ddarlledu Cymru Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn rhan o’r ŵyl gyda dangosiadau rhad ac am ddim â thocynnau o’r rhaglen boblogaidd i blant SuperTed; y gyfres deledu o 1985, The Dragon Has Two Tongues; a bydd Stone Club yn cyflwyno’r ffilm arswyd o 1981, O’r Ddaear Hen.

Byddant hefyd yn cyflwyno dangosiad o A Year in a Field gan Christopher Morris, y gwneuthurwr ffilmiau dogfen sydd wedi ennill gwobr BAFTA, a bydd Clare Marie Bailey yn cyflwyno ei chasgliad o ffilmiau analog Parallel Lives.

Bydd Next Up, tair noson o gerddoriaeth fyw wedi’u curadu a’u trefnu gan bobol ifanc o sefydliadau ieuenctid lleol yng Nghaerdydd, yn uno sêr adnabyddus yn y Deyrnas Unedig â pherfformwyr lleol, gan gwmpasu grime a dril, hip-hop, ac R&B a soul.

Bydd Somali Tales of Tiger Bay yn ddathliad o hanes, diwylliant a pherfformiadau gan bobol Somalïaidd o Gymru, wedi’i guradu a’i raglennu gan Zainab Nur, a bydd yn cynnwys trafodaeth â Nadifa Mohamed am ei llyfr The Fortune Men.

Mae’r perfformiadau eraill sydd wedi’u cyhoeddi’n cynnwys A Celebration of Alison Statton: A Jazz Re-imagining gyda cherddorion o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, y feiolinydd a’r cyfansoddwr o Gymru Angharad Davies, a’r cerddor gwerin gyfoes o Gymru, Siân James.

Gweddill y rhaglen

Mae’r perfformwyr sydd newydd gael eu cyhoeddi yn ymuno â rhaglen eclectig o berfformiadau ac actau gafodd eu cyhoeddi eisoes.

Ddydd Gwener, Hydref 13, bydd Llais 2023 yn cyflwyno Both Sides Now: Celebrating Joni Mitchell – teyrnged i’r perfformiwr eiconig gyda Gwenno, ESKA, Charlotte Church a Laura Mvula.

Bydd y pedair yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn y perfformiad cerddorfaol cyntaf yn y byd o Both Sides Now.

Bydd Bat for Lashes hefyd yn ymddangos yn Llais, gan berfformio caneuon eiconig o’i phum albwm a arweiniodd at ei thri enwebiad am y wobr Mercury.

Bydd perfformiad ôl-weithredol Gwenno yn cynnwys datganiadau o’i holl albymau llwyddiannus.

Bydd The Unthanks hefyd yn cynnal digwyddiad drwy’r dydd, gan gynnwys cyngherddau, digwyddiadau cyfranogol a pherfformiadau o’u halbymau llwyddiannus – The Bairns, Here’s The Tender Coming a Last.

Bydd James Yorkston a Nina Persson, prif gantores The Cardigans hefyd yn ymddangos yn Neuadd Hoddinott i berfformio caneuon o’u halbwm The Great White Sea Eagle, gafodd ei gynhyrchu ochr yn ochr â The Second Hand Orchestra.

Ddydd Sadwrn, Hydref 14, bydd y gantores fado o Bortiwgal a’r eicon byd-eang Mariza, sydd wedi hudo cynulleidfaoedd ledled y byd gyda’i chanu nodedig, ei phresenoldeb llwyfan carismatig a’i chymysgedd pwerus o ganeuon traddodiadol a chyfoes.

Bydd y trwmpedwr o Gymru Tomos Williams hefyd yn perfformio ei ail ddangosiad o Riot! yn Llais.

Gyda’r cerddorion adnabyddus Soweto Kinch ac Orphy Robinson, ochr yn ochr â’r gantores o Gymru Eädyth Crawford, ac adran rhythm sy’n cynnwys Aidan Thorne a Mark O’Connor, bydd y perfformiad ymdrochol o Riot! yn cynnwys elfennau o jazz, hip-hop, cerddoriaeth werin o Gymru a’r avant-garde, gydag effeithiau gweledol gan Simon Proffitt.

Mae actau eraill ar y dydd Sadwrn yn cynnwys Qawwali Flamenco, sy’n uno telynegiaeth hypnotig flamenco a lleisiau qawwali o Bacistan i Andalucia gyda Faiz Ali Faiz a Chicuelo.

Bydd yr aml-offerynnwr a’r cyfansoddwr caneuon Angeline Morrison hefyd yn perfformio caneuon gwerin traddodiadol, gan archwilio profiad pobol Ddu Brydeinig sydd wedi’u hesgeuluso’n aml iawn.

Mae lein-yp gŵyl 2023 hefyd yn cynnwys perfformiad gan The Staves, triawd gwerin indie o Loegr sy’n chwiorydd sydd â phedwar albwm stiwdio gan gynnwys eu trydydd albwm llwyddiannus Good Woman.

Bydd dangosiad byw o ffilm arswydus arfordirol gythryblus Mark Jenkin, Enys Men -stori arswyd werin ryfeddol, sydd wedi’i ffilmio ar 16mm.

Caiff ei pherfformio gan Mark Jenkin ei hun a Dion Star, o dan faner eu prosiect cerddoriaeth cydweithredol ‘The Cornish Sound Unit’, sy’n chwarae darnau byrfyfyr ac wedi’u cyfansoddi gan ddefnyddio peiriannau tâp, synths analog, adborth a recordiadau maes.

Bydd hefyd amserlen lawn o weithdai a digwyddiadau rhad ac am ddim ym mhob cornel o Ganolfan Mileniwm Cymru, gyda manylion pellach i’w cyhoeddi yn y misoedd sydd i ddod.

Yn newydd eleni, bydd Llais yn lansio tocynnau ‘Talwch Beth y Gallwch’ lle y gall pobol wneud cais am ddau ddigwyddiad o’u dewis a thalu beth y gallan nhw ar sail y cyntaf i’r felin, gan atgyfnerthu’r ffaith y dylai’r celfyddydau fod yn hygyrch i bawb.