Mae Manon Steffan Ros, Caryl Lewis, Nia Morais, Casia William ac Owen Sheers ymysg yr awduron a beirdd fydd yn rhan o Ŵyl Llên Plant Abertawe eleni.
Bydd dros 30 o awduron plant Cymru a gwledydd eraill Prydain yn cymryd rhan yn y digwyddiad rhad ac am ddim yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau fis Hydref.
Ymysg yr enwau eraill mae Hannah Gold, enillydd Gwobr Plant Waterstones 2022 am Last Bear; Alex Wharton, Bardd Plant Saesneg Cymru; Liz Hyder, Rebecca F. John a Robin Bennett.
Y nod ydy galluogi plant o bob oed i gael mynediad at lenyddiaeth, ac mae Achub y Plant Cymru yn un o’r partneriaid sy’n cydweithio â’r trefnwyr, Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe a rhaglen DylanED.
Trafnidiaeth am ddim
Er mwyn sicrhau bod plant o bob cwr o Abertawe a’r cyffiniau’n gallu mynd i’r ŵyl, fe wnaeth aelodau Cangen Achub y Plant Abertawe gynnal cinio yng Ngwesty Norton House gan godi dros £2,300.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i drefnu cludiant i blant a’u teuluoedd sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd uchel yn Abertawe i’r ŵyl.
Roedd y cinio’n dathlu 65 mlynedd ers sefydlu Cangor Achub y Plant Abertawe, sy’n un o ganghennau mwyaf a hynaf yr elusen yn y Deyrnas Unedig.
Bu Dr Pam Muirhead yn aelod o’r gangen ers bron i hanner canrif bellach, a bu’n chwarae rhan hefyd mewn sawl ymgyrch i godi arian.
“Ein nod, mewn partneriaeth â Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe a phartneriaid lleol eraill wrth drefnu’r Ŵyl hon, yw annog plant lleol i barhau i ddarganfod byd rhyfeddol y geiriau a chynnig amryfal o brofiadau yn enwedig i’r teuluoedd hynny sy’n ei chael hi’n anodd mynychu digwyddiadau o’r fath oherwydd y cynnydd mewn costau trafnidiaeth a’r argyfwng costau byw,” meddai.
Ychwanega Melanie Simmonds, pennaeth Achub y Plant Cymru, fod yr ŵyl yn rhoi cyfle i blant gymryd rhan mewn sesiynau hwyliog ac i gwrdd ag awduron o bob cwr o’r wlad a thu hwnt.
“Drwy gydol yr haf rydym wedi clywed gan deuluoedd pa mor anodd yw hi arnynt i roi’r haf y byddent yn ei hoffi i’w plant, gyda chostau diwrnodau allan, bwyd a thrafnidiaeth i gyd yn rhwystrau enfawr i greu atgofion plentyndod,” meddai.
“Rydym hefyd yn bryderus iawn am y dewisiadau amhosibl y bydd yn rhaid i deuluoedd eu gwneud y gaeaf hwn a fydd yn gadael llawer o blant yn oer ac o angen bwyd, gan ei gwneud yn anoddach fyth iddynt ganolbwyntio a dysgu yn yr ysgol.”
‘Cyffro o eiriau’
Dywed Dr Elaine Canning, Pennaeth Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe, y bydd cannoedd o ddigwyddiadau yn rhan o’r ŵyl, gan gynnwys crefftau, darlunio, cwisiau, creu straeon ac adrodd straeon.
“Edrychwn ymlaen at groesawu pawb i’r hyn sy’n argoeli i fod yn benwythnos llawn hwyl a chyffro o eiriau, creadigrwydd a dychymyg,” meddai.