Mae ymchwilwyr yn chwilio am bobol o ardal Caernarfon sy’n mwynhau ffotograffiaeth, i dynnu lluniau yn adlewyrchu sut maen nhw’n meddwl ac yn teimlo am annibynniaeth.

Bydd gofyn i’r ffotograffwyr dynnu pedwar o luniau, a mynd i sesiwn yn Galeri yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn, Medi 30 i drafod sut a pham wnaethon nhw ddewis eu delweddau.

Mae’r alwad yn rhan o brosiect ymchwil rhyngwladol dan arweiniad Dr Anwen Elias a Dr Elin Royles o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Nod y prosiect yw archwilio sut mae profiadau bywyd pobol yn effeithio ar eu hagweddau at annibyniaeth yng Nghatalwnia, Cymru, a’r Alban.

O Aberystwyth i’r Cymoedd

“Yng Nghymru, fel rhan o’n prosiect ymchwil, rydym eisoes wedi bod yn gweithio gyda ffotograffwyr yn ardal Aberystwyth ac mae’r gwaith yn ehangu i gymoedd y De hefyd,” meddai Dr Anwen Elias o Brifysgol Aberystwyth.

“Gan ein bod yn awyddus i sicrhau bod gennym ddelweddau o bob rhan o Gymru, rydyn ni’n gobeithio bydd ffotograffwyr ardal Caernarfon eisiau bod yn rhan o’r astudiaeth ddiddorol yma.

“Y bwriad yw adlewyrchu ystod barn eang ac ry’n ni’n croesawu cyfraniadau gan unigolion sydd â safbwyntiau gwahanol ar annibyniaeth, yn ogystal â rhai sydd heb feddwl am y mater o gwbl.”

Yn ôl Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth, mae’r prosiect “yn datblygu dull newydd sbon o ymchwilio i annibyniaeth”.

“Hyd yma, mae’r rhan fwyaf o’r gwaith ymchwil yn y maes wedi canolbwyntio ar ymatebion i arolygon barn ac i ffactorau demograffig, fel oedran, rhyw, dosbarth cymdeithasol ac incwm, ond ry’n ni’n cloddio’n ddyfnach ac â diddordeb mewn dysgu sut y gallwn esbonio’r ffordd mae pobol yn meddwl ac yn teimlo am ddyfodol cyfansoddiadol eu gwledydd gan ddechrau gyda ffotograffau,” meddai.

“Drwy weithio yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia, y nod yw ychwanegu lliw a chysgod at yr hyn sy’n hysbys hyd yma am farn pobl mewn perthynas ag annibyniaeth.

“Yn bwysicaf oll, gall arwain at drafodaeth fwy cynnil, yn enwedig yng Nghatalwnia a’r Alban, lle mae’r dadlau’n ddwys ac wedi’i begynnu ymhlith pleidiau gwleidyddol a’r cyfryngau.”

  • Gall ffotograffwyr o ardal Caernarfon sydd â diddordeb yn y prosiect gofrestru ar-lein neu gysylltu’n uniongyrchol gydag Elin Royles ar ear@aber.ac.uk am fwy o wybodaeth. Bydd detholiad o’r lluniau o ardal Caernarfon yn cael eu cynnwys mewn arddangosfeydd ffotograffiaeth sy’n cael eu cynllunio gan y prosiect yng Nghymru a Chatalwnia.

Cloriannu annibyniaeth drwy lens y camera

Cadi Dafydd

Mae ffotograffwyr o Gymru, Catalonia a’r Alban wedi bod wrthi’n tynnu lluniau sy’n cyfleu eu teimladau tuag at annibyniaeth i’w gwledydd

Astudiaeth ffotograffiaeth gynta’r byd ar annibyniaeth yn Aberystwyth

Mae’n archwilio sut mae profiadau bywyd pobol yn effeithio ar eu hagweddau at annibyniaeth yng Nghatalwnia, Cymru a’r Alban

Sut mae profiadau bywyd pobol yn effeithio ar eu hagwedd tuag at annibyniaeth?

Lowri Larsen

Aberystwyth a Barcelona i gynnal arddangosfa ffotograffiaeth ar astudiaeth ymchwil newydd ar annibyniaeth