Dros gyfnod y Pasg, bydd bandstand Aberystwyth yn cael ei drawsnewid i fod yn lleoliad annisgwyl ar gyfer arddangosfa ffotograffiaeth dros dro o’r enw ‘Darlunio Dyfodol Cymru’.

Dyma’r arddangosfa gyntaf mewn cyfres sy’n archwilio sut mae profiadau bywyd pobol yn effeithio ar eu hagwedd tuag at annibyniaeth.

Bydd cyfle i weld ffotograffiaeth newydd sbon sy’n portreadu gwahanol safbwyntiau ar annibyniaeth yng Nghymru, fel rhan o ymchwil arloesol newydd, gydag arddangosfeydd tebyg ar y gweill yn Barcelona, Caerdydd a Chaeredin.

Bydd derbyniad, trwy wahoddiad yn unig, yn cael ei gynnal ar noson gynta’r arddangosfa, ar nos Iau, Ebrill 13 yng nghwmni Elin Jones, Llywydd y Senedd, a rhanddeiliaid allweddol, yn ogystal ag aelodau o Glwb Camera Aberystwyth, sef y grŵp cyntaf i weld eu ffotograffau yn cael eu harddangos.

Gall y cyhoedd ymweld â’r arddangosfa ffotograffiaeth yn Bandstand Aberystwyth rhwng 10yb a 5yp rhwng Ebrill 13-15.

Bydd gweithgareddau teuluol hefyd yn cael eu cynnal.

Tynnu ar brofiadau Catalwnia a’r Alban

Gyda’r gwaith o gasglu data eisoes wedi’i gwblhau yng Nghatalwnia, mae’r tîm ymchwil bellach yn galw ar glybiau a dosbarthiadau ffotograffiaeth ledled Cymru a’r Alban i gymryd rhan yn yr astudiaeth amhleidiol tair gwlad hon, gan gynnig y cyfle i’w ffotograffau gael eu harddangos yn Barcelona.

Mae arweinwyr y prosiect, Dr Anwen Elias a Dr Elin Royles o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn gweithio gyda chydweithwyr o Gatalwnia a’r Alban i guradu gwaith cyfranogwyr y prosiect.

Bydd hyn yn taflu goleuni ar sut mae pobol yn meddwl ac yn teimlo am ddyfodol cyfansoddiadol y tair gwlad.

Wedi’i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) fel rhan o’r rhaglen WISERD (Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru), mae’r prosiect hwn yn ymgais i newid yn sylfaenol y ffordd mae annibyniaeth yn cael ei hastudio, gan ddefnyddio ffotograffiaeth fel sail i ddeall meddyliau a theimladau pobol.

Hyd yn hyn, mae’r rhan fwyaf o’r ymchwil wedi canolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar ymatebion i arolygon a nodweddion demograffig fel oedran, rhyw, dosbarth cymdeithasol ac incwm.

Dylai dull arloesol y prosiect hwn ychwanegu lliw a chysgod at yr hyn sy’n hysbys hyd yma am farn pobol am annibyniaeth.

Pwrpas yr ymchwil yw cefnogi trafodaeth fwy cynnil, yn enwedig yng Nghatalwnia a’r Alban, lle mae’r dadlau’n ddwys ac wedi’i begynnu ymysg pleidiau gwleidyddol a’r cyfryngau.

Torri tir newydd

Mae’r arddangosfa yma’n torri tir newydd, gan nad oes archwiliad wedi ei wneud o’r blaen am deimladau a meddyliau pobol am annibyniaeth oherwydd eu profiadau bywyd.

Yn y gorffennol, mae ymchwil wedi canolbwyntio ar farn pobol a’r ffactorau sy’n cael effaith arnyn nhw.

“Sut mae profiadau bywyd pobol yn effeithio ar ei hagwedd tuag at annibyniaeth ydy’r cwestiwn rydym yn ceisio’i ddeall ar hyn o bryd yn y prosiect, oherwydd beth sydd gennyt ti yw sefyllfa lle does dim llawer o ymchwil wedi cael ei wneud yn barod yn y maes yma,” meddai Dr Elin Royles wrth golwg360.

“Mae’r gwaith o’r blaen wedi canolbwyntio ar ydy pobol yn cefnogi neu wrthwynebu annibyniaeth.

“Mae fel arfer yn tynnu ar arolygon barn a gofyn sut fysen nhw’n pleidleisio mewn refferendwm ar annibyniaeth, neu ofyn pa opsiwn cyfansoddiadol ydy’r gorau gennych chi, gan gynnwys annibyniaeth yn rhan o hwnna.

“Mae’n canolbwyntio ar sut mae ffactorau fel oed, rhywedd a dosbarth cymdeithasol a pha blaid wleidyddol maen nhw’n ei chefnogi, neu sut maen nhw’n gweld eu hunaniaeth yn effeithio ar eu barn nhw ar annibyniaeth.

“Beth rydym yn gwybod yw bod mwy o wybodaeth ar nodweddion penodol yn dylanwadu.

“Does dim cytundeb ar ba ffactorau sy’n dylanwadu ar hyn.

“Felly pa mor bwysig yw hunaniaeth genedlaethol neu gyfleoedd economaidd annibyniaeth, neu broblemau economaidd i ddeall annibyniaeth.

“Hefyd, sut mae profiadau dydd i ddydd pobol yn dylanwadu ar eu hagweddau tuag at annibyniaeth.

“Dyna rydym yn ceisio’i wneud yn y prosiect ydy dechrau casglu tystiolaeth am hynna.

“Mewn ffordd, rydym dal mewn cyfnod cynnar yn y prosiect.

“Dydyn ni ddim yn gallu dweud yn bendant beth sy’n digwydd.

“Mewn ffordd, beth rydym yn ceisio’i wneud yw defnyddio methodoleg newydd, nid defnyddio arolygon barn, a defnyddio ffotograffiaeth fel ffordd o ddechrau sgwrs efo pobol am eu safbwyntiau nhw a’u teimladau nhw am annibyniaeth a beth sy’n dylanwadu ar eu teimladau nhw am annibyniaeth.”

‘Meddyliau a theimladau’n bwysig’

Ym marn Dr Elin Royles, digon cyfyng yw’r ddealltwriaeth o’r ffactorau sy’n effeithio ar agweddau pobol tuag at annibyniaeth.

Gan ei fod yn rywbeth mor bwysig ar hyd a lled y wlad erbyn hyn, mae’n dweud bod angen ei astudio a’i bod hi’n bwysig deall safbwyntiau’r bobol sydd heb farn gref y naill ffordd na’r llall ar y mater.

Dywed fod angen trafod y mater mewn ffordd fwy dwys yng Nghymru

“Mae dau brif reswm pam bod astudio meddyliau a theimladau pobol am annibyniaeth yn bwysig,” meddai.

“Mae yna gyfyngiadau i beth rydym yn ei ddeall ar wahanol ffactorau sy’n dylanwadu ar agweddau pobol tuag at annibyniaeth.

“Mae’n faes i’w ddeall yn well oherwydd ei fod yn ffenomenon ryngwladol, ac mae’n ffenomen sy’n gallu rhannu cymdeithasau.

“Mae’n ffenomenon sy’n tyfu ac felly mae angen ei ddeall yn well.

“Rydym wedi bod yn trio mynd mewn i siarad efo grwpiau ffotograffiaeth ac efo cyrsiau ffotograffiaeth mewn colegau ac yn y blaen, felly trio mynd mewn i grwpiau niwtral, nid o reidrwydd rhywle ble mae pobol am gael barn gref un ffordd neu’r llall.

“Rydym yn trio gweld sut mae pobol sydd efo diddordeb mewn ffotograffiaeth yn ymateb i’r pwnc, yn hytrach na phobol sy’n teimlo rhyw safbwynt neu’i gilydd.

“Beth mae ffotograffiaeth yn ei wneud yw rhoi ffordd i ni ddechrau sgwrs ar bynciau cymhleth, pynciau sydd ddim yn hawdd siarad amdanyn nhw.

“Dydyn ni yng Nghymru ddim yn aml yn siarad amdano fo.

“Mae yna lawer o fetholeg sy’n defnyddio gwahanol ddulliau gweledol; mae pobol yn defnyddio gwnïo, gwneud crefft neu hyd yn oed playdough neu fuzzy-felt.

“Mae dulliau mwy creadigol o ddechrau sgyrsiau am bynciau.

“Rydym yn ceisio cymryd safbwynt gwahanol i arolygon barn a’r math o ddata rwyt ti’n ei gasglu mewn arolygon barn, i geisio deall profiadau pobol yn well.”

Annibyniaeth ar hyd y byd drwy’r oesoedd

Yn wreiddiol, roedd bwriad i astudio pobol yng Nghwrdistan ond doedd hyn ddim yn bosib yn y pen draw.

Yn ôl Dr Elin Royles, wrth ganolbwyntio ar Gymru, does dim llawer o drafod ar annibyniaeth wedi bod yma, er bod hyn wedi datblygu a gwella.

Mae’n credu bod y drafodaeth yn fwy dwys yng Nghatalwnia a’r Alban, lle bu galwadau a refferenda dros y blynyddoedd diwethaf.

“Doedd Cymru ddim yn astudiaeth achos gennym yn y lle cyntaf,” meddai.

“Roeddem yn mynd i drio astudio pobol Cwrdistan, a dweud y gwir, yn rhan o’r prosiect; dyna oedd y bwriad gwreiddiol.

“Gwnaeth Covid effeithio ar ein cynlluniau ni.

“Sylweddolom na fysen ni wedi cael yr hawl i fynd yno oherwydd bod o’n rhy beryg, ac yn ail bysen ni wedi bod yn gallu peryglu pobol.

“Ar y pryd, doedd sefyllfa trafod annibyniaeth yng Nghymru ddim yn rhan o’r opsiynau.

“Yn amlwg, mae’r sefyllfa wedi newid yng Nghymru.

“Mae trafodaethau am annibyniaeth yn yr Alban a Chatalwnia yn dipyn cryfach.

“Mae yna drafodaethau ar hyn mewn cenhedloedd a thiriogaethau yn Ewrop a thu hwnt.

“Mae yna alwadau am annibyniaeth wedi bod ar hyd y byd ers 1945.

“Mae yna gynnydd wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf.

“Yn y 2010au, fe gynhaliwyd pymtheg refferendwm ar annibyniaeth mewn llefydd mor amrywiol â de Brasil a Chaledonia Newydd, ac Irac.

“Roedd rhai yn swyddogol a rhai yn rhwymedig yn gyfreithiol, fel bod eu canlyniad nhw fod i falio.

“Mae’n bwnc lle mae yna ddatblygiadau gwleidyddol; mae’n bwnc heriol iawn.

“Dydyn ni ddim yn ceisio hyrwyddo unrhyw safbwynt penodol.

“Rydan ni’n trio deall beth yw’r profadau a ffactorau bywyd ac yn y blaen sy’n dylanwadu ar sut mae pobol yn teimlo tuag ato fo.”

  • Dylai clybiau a dosbarthiadau ffotograffiaeth (18+) sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â Dr Elin Royles: ear@aber.ac.uk