Fe fu galwadau ar i ysgol newydd ar gyfer plant tair i 16 oed ym Mhontypridd gadw’r enw Hawthorn (Y Ddraenen Wen), wrth i drigolion fynegi pryderon am yr opsiynau ar gyfer yr enw sydd wedi’u cynnig.
Mae’r Cyngor yn ymgynghori unwaith eto ar enwau’r ddwy ysgol newydd tair i 16 oed, ac ysgol Gymraeg newydd ym Mhontypridd.
Yr enwau posib ar gyfer yr ysgol tair i 16 oed newydd yn y Ddraenen Wen yw Ysgol Afon Wen/White River School, Ysgol Glan Dwr/Waterside School, Ysgol Cae Celyn/Hollyfield School ac Ysgol Coed Ilan/Ilan Woods School, gydag opsiwn “Arall” hefyd.
Ar gyfer yr ysgol tair i 16 oed ym Mhontypridd, yr opsiynau yw Ysgol Gymunedol Bro Taf / Taff Vale Community School, Ysgol Bro Taf / Taff Vale School, Ysgol Gymunedol Pontypridd / Pontypridd Community School ac Ysgol Pontypridd / Pontypridd School.
Ar gyfer yr ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Rhydfelen, yr opsiynau yw Ysgol Gynradd Gymraeg Awel y Taf / Taff Breeze Welsh Medium Primary School, Ysgol Gynradd Gymraeg Dyffryn Corrwg / Corrwg Vale Medium Primary School, Ysgol Gynradd Gymraeg yr Hen Bont / The Old Bridge Welsh Medium Primary School, Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ilan / Ilan Vale Welsh Medium Primary School ac Ysgol Gynradd Gymraeg Ynysangahard / Ynysangharad Welsh Medium Primary School.
Adroddiad a phenderfyniad
Roedd disgwyl penderfyniad gan y Cabinet ddydd Mawrth, Chwefror 28 ond cafodd yr adroddiad ei ohirio ac mae ymgynghoriad arall ar y gweill ac yn dod i ben ar Ebrill 4.
Dywedodd adroddiad y Cabinet fod penaethiaid a llywodraethwyr dros dro’r tair ysgol newydd wedi cwblhau ymgynghoriadau helaeth ar enwau newydd ar gyfer y tair ysgol, ac wedi cytuno ar enwau addas i’r Cabinet eu hystyried.
Cytunodd y Cabinet yn eu cyfarfod ar Orffennaf 18, 2019 i gadarnhau’r cynigion yn ffurfiol i greu ysgolion newydd tair i 16 oed yn y Ddraenen Wen a Phontypridd, ac ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Rhydfelen.
Cafodd cyrff llywodraethwyr dros dro eu penodi yn y tair ysgol er mwyn goruchwylio’r penderfyniadau ynghylch sefydlu’r ysgolion.
Ers hynny, mae’r cyrff llywodraethu dros dro wedi penodi penaethiaid, a’r gred yw y bydd y broses o benodi’r holl staff arall yn dechrau yn ystod tymor y gwanwyn, a’r disgwyl yw y bydd y tair ysgol yn agor fis Medi 2024.
Mae’r gwaith brandio, gan gynnwys arwyddion a logos, dewisiadau ar gyfer gwisg ysgol a lliwiau’r ysgolion yn dibynnu ar gymeradwyo enwau’r ysgolion, meddai’r adroddiad gan y Cabinet ym mis Chwefror.
Ymgynghoriadau
Fe wnaeth pob pennaeth gynnal ymgynghoriad â’r disgyblion a’r staff yn yr ysgolion hynny fydd yn cau er mwyn creu lle i’r ysgolion newydd.
Fe wnaeth y cyrff llywodraethu dros dro ystyried y cynigion, a chytunodd pob un ohonyn nhw ar bedwar o opsiynau ar gyfer pob ysgol i fod yn destun ymgynghoriad gyda’r holl ddisgyblion, staff, llywodraethwyr a’r gymuned ar ffurf holiadur ar wefan Rhondda Cynon Taf.
Ar gyfer yr ysgol tair i 16 oed yn y Ddraenen Wen, derbyniodd Ysgol Afon Wen y nifer fwyaf o bleidleisiau (35%) yn yr ymgynghoriad cychwynnol, tra mai Ysgol Bro Taf dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau (43.1%) ar gyfer yr ysgol tair i 16 oed ym Mhontypridd.
Ar gyfer yr ysgol gynradd Gymraeg newydd, Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau (39%).
Gwrthwynebiad i’r Gymraeg
Ond mae rhai trigolion yn ardal y Ddraenen Wen yn gwrthwynebu’r cynnig i newid enw’r ysgol yn eu hardal.
Dywed Christine Thompson, un o’r trigolion lleol, ei bod hi wedi mynd i’r ysgol gynradd, ynghyd â’i mam a’i phlant.
Dywed nad yw hi’n deall sut eu bod nhw wedi dewis pedwar enw Cymraeg ar gyfer ysgolion Saesneg os oedd plant ynghlwm wrth gyflwyno’r enwau.
Dywed nad yw “ailfrandio” yn newid ethos na safon addysg ysgol.
Dywed fod y cyfan yn ymarfer “ticio bocsys” yn nhermau bodloni targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer nifer y siaradwyr Cymraeg, ac y gallai “danseilio” yr iaith Saesneg sydd, meddai, “yn fwy buddiol i blant yn y byd ehangach”.
“Dylai’r pwyslais fod ar addysg yn hytrach nag ailfrandio,” meddai.
Aeth yn ei blaen i ddweud bod Llywodraeth Cymru’n “rhy ynysig” ac nad ydyn nhw’n “meddwl am yr effaith ehangach”.
“Os ydych chi eisiau tŷ, car a gwyliau, mae angen i chi fod yn ennill arian da,” meddai.
“Mae angen gyrfa arnoch chi, sgiliau trosglwyddadwy, fel bod cyflogwyr eich eisiau chi ac y byddan nhw’n talu’r cyflog rydych chi ei eisiau.
“Dw i’n amau y cewch chi hynny yng Nghymru.”
Dywed eu bod nhw’n colli sgiliau ac nad yw llawer o bobol yn dychwelyd i Gymru ar ôl bod i’r brifysgol a chael swyddi mewn llefydd eraill.
Wrth gyfeirio at yr enw posib Afon Wen, dywed nad oes yna ddŵr gwyn na chyflym yn yr afon.
“Hawthorn fuodd hi erioed oherwydd fe fu yna ddraenen wen yma,” meddai.
“Pam maen nhw mor benderfynol o gefnu arno? Pam ydyn ni’n cael logo newydd?”
Cododd hi bryderon am ariannu’r ailfrandio o gyllideb yr ysgol, gan ddweud, “Oni ddylai hynny fod yn mynd tuag at addysg?”
Mynegodd hi bryder hefyd ynghylch faint fyddai’r wisg ysgol yn ei gostio i rieni, gan ddweud mai’r “peth hanfodol yw cael athrawon o safon dda i roi addysg o safon dda fel bod gan y plant hyn ddyfodol”.
“Nhw yw ein dyfodol ni,” meddai.
‘Gwrthwynebu’r enw, ond nid y Gymraeg’
Dywed Denise Morgan, cyn-ddisgybl yn yr ysgol ac un o drigolion y Ddraenen Wen, ei bod hi’n deall ceisio cyflwyno’r Gymraeg, ond nid newid yr enw.
“Mae ysgol Hawthorn wedi bod yn rhan o’r gymuned ers nifer o flynyddoedd,” meddai.
Ychwanegodd ei bod hi’n hawdd dod o hyd iddi yn yr ardal leol, ac nad yw’r enw ‘Afon Wen/White River’ yn “golygu dim o gwbl i’r ysgol, i fi nac i nifer o bobol eraill”.
“Dw i’n edrych er mwyn ceisio dweud pam fod rhaid iddyn nhw newid yr enw yma,” meddai.
Dywed ei bod hi’n deall eu bod nhw’n ceisio sefydlu’r Gymraeg, ond fod y rhan fwyaf o bobol yn yr ardal yn siarad Saesneg ac nad oes cysylltiadau o gwbl ag unrhyw enwau lleoedd yn yr enw sy’n cael ei gynnig.
Dywed fod y gymuned yn falch o’i hysgol, ac yn datblygu cysylltiadau â’r ysgol wrth i’r plant ganu mewn corau a chyfweld ag aelodau’r gymuned am eu gorffennol.
“Pam ydyn nhw eisiau tynnu’r enw allan o’n hardal leol pan ydyn ni’n adeiladu cysylltiadau?” meddai.
“Byddai’n drueni gweld yr enw wedi mynd. Mae ganddo fe gysylltiadau hanesyddol.”
Dywed ei bod hi eisiau cadw’r enw Hawthorn, a’i bod hi’n teimlo bod yr awgrymiadau wedi cael eu cyflwyno fel “fait accompli”.
Dywed nad yw hi’n gwybod faint o bobol sy’n gwybod am yr ymgynghoriad, gan ddweud, “Dydy sefydlu un o nunlle ddim yn gwneud unrhyw synnwyr.”
Dywed ei bod hi’n braf cynnwys y plant, ond fod ystyr a hunaniaeth i Hawthorn a bod “gan lawer o bobol atgofion braf o Hawthorn”.
Ymateb y Cyngor
“Mae rhestr fer o enwau posib ar gyfer pob un o’r chwe ysgol sydd ynghlwm yn uniongyrchol â’r buddsoddiad gwerth £75.6m ledled Pontypridd Fwyaf wedi cael ei chyflwyno gan staff a disgyblion yr ysgolion sy’n cael eu heffeithio,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf.
“Mae’r disgyblion wedi chwarae rhan bwysig wrth ddewis enw addas i’r ysgol ac wedi gallu cael dweud eu dweud cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ehangach.
“Tra nad yw’n ofyniad statudol i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus, cytunodd y tri chorff llywodraethu dros dro yn y tair ysgol i’r elfen hon yn y broses, gan sicrhau bod y broses wedi bod mor agored a thryloyw â phosib.
“Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus hefyd wedi cynnig cyfle i randdeiliaid gyflwyno enwau eraill i’w hystyried, y tu hwnt i’r enwau sydd wedi’u hawgrymu gan ddysgwyr a staff ysgol.
“Mae’r ymgynghoriad ehangach wedi sicrhau bod y broses wedi mynd ymhellach nag unrhyw ymgynghoriad blaenorol gan y Cyngor ar gyfer enwi ysgol newydd, nad yw’n ofyniad statudol ynddo’i hun.
“Mae hyn wedi galluogi penaethiaid, staff, disgyblion a’r gymuned i gael dweud eu dweud, cyn i ganlyniadau’r ymgynghoriad gael eu hystyried gan Gorff Llywodraethu Dros Dro pob ysgol, a bod cymeradwyaeth yn cael ei cheisio gan Gabinet y Cyngor.”
Y dyddiad cau ar gyfer ymgynghoriadau ar enwau’r ysgolion yw dydd Mawrth, Ebrill 4.