Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cynlluniau i godi treth twristiaeth ar ymwelwyr yng Nghymru.

Bydd deddfwriaeth sy’n caniatáu i awdurdodau lleol gyflwyno treth twristiaeth yn cael ei chyflwyno i’r Senedd o fewn y ddwy flynedd nesaf.

Cymdeithas yr Iaith oedd y mudiad cyntaf i alw am dreth dwristiaeth yng Nghymru bron i hanner can mlynedd yn ôl.

Pe bai’r dreth wedi cael ei chyflwyno bryd hynny, byddai wedi codi miliynau o bunnoedd ar gyfer ein cymunedau erbyn hyn, yn ôl y mudiad.

Yn hytrach, medden nhw, mae cymunedau wedi dirywio dros y blynyddoedd, gyda gwasanaethau’n diflannu, tra bod diweithdra a phrisiau tai yn codi.

Bydd y Gymdeithas yn annog Awdurdodau Lleol i ddefnyddio’r arian a ddaw o’r dreth i fuddsoddi mewn seilwaith, ond yn hytrach na rhoi’r arian tuag at wella seilwaith i dwristiaeth dylai’r arian gael ei flaenoriaethu ar gyfer yr economi leol a buddsoddi mewn tai ar gyfer pobol leol.

‘Ddim yn niweidio’r diwydiant’

“Nid yw treth ar dwristiaeth yn beth newydd mewn rhannau eraill o’r byd, ac mae tystiolaeth nad yw treth o’r fath yn niweidio’r diwydiant,” meddai Robat Idris, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Rhaid i dwristiaeth fod yn gynaliadwy ac yn addas i’n cymunedau, yn lle eu gwthio o’r neilltu a’i difrodi.

“O ddefnyddio’r dreth yn gywir, gall fod yn rhan o’r ateb i atgyfnerthu ein cymunedau yn yr ardaloedd twristaidd.

“Gofynnwn i Awdurdodau Lleol ddechrau cynllunio yn syth ar sut y byddant yn gwario’r arian.”

Mwyafrif yn credu y dylai twristiaid gyfrannu at gostau cynnal a chadw cyrchfannau

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu bwriad i fwrw ymlaen ag ardoll

Ardoll twristiaid yn “forthwyl i dorri cneuen”

Daw hyn wrth i’r mwyafrif ddweud y dylai twristiaid gyfrannu at gostau cynnal a chadw cyrchfannau