Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod yr ardoll fydd yn cael ei chodi ar dwristiaid yn sgil cynlluniau Llywodraeth Lafur Cymru’n “wenwynig”.
Mae’r cynlluniau i gyflwyno ardoll i dwristiaid am fynd rhagddynt, fydd yn galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno’r ardoll yn eu hardaloedd eu hunain.
Y gred yw y bydd y cynlluniau’n mynd gerbron y Senedd yn ystod y tymor presennol.
Swm o arian yw ardoll sy’n cael ei dalu gan bobol sy’n aros mewn llety masnachol dros nos, ac mae’n beth digon cyffredin ym mhob cwr o’r byd, gyda mwy na 40 o wledydd wedi cyflwyno cynlluniau tebyg.
Bydd modd i awdurdodau lleol benderfynu a fyddan nhw’n cyflwyno ardoll, a bydd yr arian sy’n cael ei godi yn mynd tuag at awdurdodau lleol ar gyfer eu dibenion eu hunain.
Ymgynghoriad
Daeth mwy na 1,000 o ymatebion i law yn sgil ymgynghoriad â’r cyhoedd fis Rhagfyr y llynedd ynghylch sut i gyflwyno ardoll.
Mae casgliadau’r ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi heddiw, ynghyd ag adroddiad ymchwil cwsmeriaid yn rhoi sylw i safbwyntiau’r cyhoedd ynghylch ardoll i dwristiaid.
Yn sgil yr ymgynghoriad, daeth ymatebion gan fusnesau, awdurdodau lleol a’r cyhoedd yn ehangach, ac roedd cryn gefnogaeth yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol a sefydliadau eraill i’r cynlluniau.
Ond daeth nifer o ymatebion hefyd gan gynrychiolwyr o’r byd twristiaeth, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n gwrthwynebu’r egwyddor.
Yn ogystal â’r ymgynghoriad, canolbwyntiodd ymchwil ymhlith cwsmeriaid ar safbwyntiau trigolion Cymru a chwsmeriaid gwyliau cartref yn y Deyrnas Unedig.
Casgliadau
Ymhlith prif gasgliadau’r ymchwil roedd y ffaith fod y rhan fwyaf o blaid yr egwyddor o gyflwyno ardoll twristiaeth.
Roedd 58% o’r rhai atebodd yn cytuno y dylai twristiaid gyfrannu at gostau cynnal a chadw a buddsoddi yn yr ardaloedd lle maen nhw’n aros ar eu gwylio.
Cododd y ffigwr i 66% mewn ardaloedd yng Nghymru lle mae nifer sylweddol o dwristiaid, a 72% ar draws y Deyrnas Unedig.
Dim ond 13% o drigolion Cymru atebodd yr ymgynghoriad oedd yn gwrthwynebu ardoll.
Roedd y gefnogaeth i ardoll ar ei chryfaf mewn ardaloedd lle mae’r nifer fwyaf o dwristiaid, gyda dau draean o drigolion Cymru mewn ardaloedd â chyfran uchel o dwristiaid yn cefnogi’r ardoll.
Roedd y rhan fwyaf yn cefnogi’r egwyddor o gyflwyno ardoll yn yr ardaloedd lle maen nhw’n mynd ar eu gwyliau – gyda 45% yn gefnogol a dim ond 25% yn negyddol.
‘Annhebygol iawn y bydd ein cymunedau’n gweld unrhyw fudd’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb yn chwyrn i’r cynlluniau, serch hynny, gan ddweud eu bod nhw’n “wenwynig”.
“Does dim byd yn dweud Croeso i Gymru yn fwy na Llafur yn cyhoeddi y byddan nhw’n bwrw ymlaen â’u treth dwristiaeth wenwynig wrth i deuluoedd baratoi ar gyfer gwyliau’r Pasg,” meddai Tom Giffard, llefarydd twristiaeth y blaid.
“Fel bob tro, mae’r diafol ym manylion yr ymgynghoriadau hyn ac rydym yn gwybod ei bod hi’n annhebygol y byddai’r enillion yn cael eu defnyddio i wella economïau twristaidd lleol.
“Yn wir, dywedodd Adam Price y byddai’n cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau porthi balchder eraill, felly mae hi’n annhebygol iawn y bydd ein cymunedau lleol yn gweld unrhyw fudd.
“Mae twristiaeth yn cynnal un ym mhob saith o swyddi yng Nghymru, gan alluogi pobol i dalu treth y cyngor, gan helpu i fynd i’r afael â’r materion mae Llafur yn honni y byddai treth dwristiaeth yn eu trwsio.
“Dylai’r Llywodraeth Lafur fod yn cydweithio â’r diwydiant i roi hwb i’r sector hanfodol yma yn hytrach na defnyddio morthwyl i dorri cneuen.”