Mae Dŵr Cymru wedi cael eu beirniadu am ddweud y bydd yn rhaid i gwsmeriaid dalu mwy am eu dŵr tra bod penaethiaid y cwmni’n derbyn bonws.
Mae’r cwmni dan y lach o hyd hefyd ar ôl i rannau helaeth o orllewin Cymru gael eu gadael heb ddŵr am gyfnod sylweddol y llynedd.
Dywedodd y cwmni wrth y Pwyllgor Materion Cymreig fod cwsmeriaid yng Nghymru’n wynebu “cynnydd sylweddol mewn biliau” i dalu am fesurau i atal carthion rhag cael eu gollwng mewn afonydd a moroedd.
Mae penaethiaid y cwmni wedi derbyn dros £1m mewn arian bonws dros y dair blynedd ddiwethaf, ac mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud bod y cwmni’n “watwarus” wrth alw eu hunain yn gwmni nid-er-elw.
Mae’r blaid yn galw am waharddiad ar arian bonws hyd nes bod yr “argyfwng” gollwng carthion wedi cael ei ddatrys, ac i’r arian gael ei ddargyfeirio i wella isadeiledd.
‘Hollol warthus’
“Mae’n hollol warthus fod Dŵr Cymru bellach yn disgwyl i drethdalwyr yng Nghymru dalu i lanhau eu llanast, tra eu bod nhw wedi treulio blynyddoedd yn derbyn arian i dalu bonws mawr iddyn nhw eu hunain,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
“Rydyn ni’n gwybod fod y Ceidwadwyr wedi methu’n llwyr â mynd i’r afael â gollwng carthion, gyda bron bob un o’u Haelodau Seneddol Cymreig wedi pleidleisio yn erbyn camau cryfach i wahardd yr arfer.
“Ond eto, dydy Llywodraeth Lafur Cymru ddim heb rym i wneud safiad ar y mater yma.
“Tra bod afonydd mewn rhanbarthau megis fy un i megis afon Gwy, afon Tawe, afon Wysg, afon Teifi ac afon Hafren yn parhau i ddirywio’n sylweddol o ran iechyd, mae penaethiaid Dŵr Cymru’n defnyddio arian y cyhoedd i roi bonws hael iddyn nhw eu hunain yn hytrach nag ailfuddsoddi’r arian mewn gwelliannau i isadeiledd ac mae’r Llywodraeth wedi methu â’u rheoleiddio nhw.
“Mae’r holl beth yn watwarus o’r syniad fod Dŵr Cymru’n gwmni nid-er-elw.
“Rhaid i lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig weithio er mwyn gwahardd y bonws yma, a mandadu’r gwelliannau i isadeiledd sydd eu hangen arnom.
“Mae ein hafonydd a’r bywyd gwyllt ynddyn nhw’n rhedeg allan o amser.”