Mewn erthygl arbennig i golwg360, mae Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Lafur Cymru, a Cefin Campbell, Aelod Dynodedig Plaid Cymru, yn trafod eu gobeithion ar gyfer twristiaeth yng Nghymru.
Mae tymor gwyliau’r Pasg ar fin dechrau.
Mae busnesau ym mhob cwr o Gymru yn paratoi i groesawu pobol o Gymru, y Deyrnas Unedig ac o wledydd ledled y byd.
Bydd ein trigolion yn ymfalchïo unwaith eto wrth iddynt ddangos i ymwelwyr y golygfeydd gwych y maen nhw eu hunain yn eu mwynhau o ddydd i ddydd.
Bydd ymwelwyr sy’n dod yma am y tro cyntaf – neu hyd yn oed y rheini sy’n ymweld yn flynyddol – yn dysgu rhywbeth newydd am ein hiaith a’n diwylliant unigryw.
Rydym am weld ein tirwedd drawiadol, ein dinasoedd bywiog a’n trefi a’n pentrefi hardd ar hyd yr arfordir yn parhau i ffynnu.
Dyna pam y byddwn yn cyflwyno ardoll ymwelwyr yng Nghymru. Rydym am feithrin synnwyr o rannu’r cyfrifoldeb dros ddiogelu ein hardaloedd lleol, a buddsoddi ynddynt, rhwng ein trigolion a’n hymwelwyr.
Tâl bach a fydd i’w dalu gan bobol sy’n aros dros nos mewn llety sy’n cael ei osod yn fasnachol fydd yr ardoll. Mater i bob awdurdod lleol fydd penderfynu a fydd am gyflwyno ardoll yn ei ardal, a’r ardal leol fydd yn elwa ar yr arian a fydd yn cael ei godi.
Mae trigolion yn dymuno gweld twristiaid yn rhoi rhywbeth nôl
Cafodd ymchwil ymhlith defnyddwyr ei chomisiynu gennym i gael gwybod rhagor am yr hyn y mae trigolion Cymru ac ymwelwyr o’r Deyrnas Unedig yn ei feddwl am y syniad o ‘ardoll twristiaeth’. Gwnaeth mwy na 2,500 o ymatebwyr gymryd rhan yn yr arolwg – roedd 1,005 o’r rheini yn byw yng Nghymru.
Mae’r canlyniadau wedi’u cyhoeddi heddiw.
Cytunai’r rhan fwyaf o drigolion Cymru a gymerodd ran yn yr arolwg y dylai twristiaid gyfrannu tuag at y gost o gynnal y cyrchfannau lle y byddant yn aros, a buddsoddi ynddynt.
Nid yw’n syndod mai yn yr ardaloedd hynny sy’n denu’r niferoedd mwyaf o dwristiaid yr oedd y gefnogaeth fwyaf ar gyfer yr ardoll. Daeth yr arolwg i’r casgliad bod dwy ran o dair o bobl Cymru sy’n byw mewn mannau sy’n boblogaidd iawn gan dwristiaid yn cefnogi’r syniad o gyflwyno ardoll ymwelwyr.
Mae twristiaid yn dymuno rhoi rhywbeth nôl
Efallai mai’r syndod mwyaf oedd bod mwy o ymatebion cadarnhaol nag o rai negyddol i’r syniad o gyflwyno ‘ardoll ymwelwyr’ mewn lle y bydd yr ymatebwyr yn mynd iddo ar eu gwyliau neu yn eu hardal nhw – roedd 45% ohonynt wedi ymateb yn gadarnhaol, a 25% ohonynt yn negyddol.
Bydd awdurdodau lleol sy’n dewis cyflwyno ardoll yn gofyn i ymwelwyr – p’un a fyddant wedi teithio o ardal arall yng Nghymru ynteu o’r tu allan – wneud cyfraniad bach tuag at gynnal a gwella’r lle y byddant yn ymweld ag ef. Bydd gweithredu fel hyn yn helpu i feithrin agwedd fwy cynaliadwy ar gyfer twristiaeth.
Rydym wedi bod yn gwrando
Rydym yn gwybod bod gan rai busnesau bryderon.
Daeth mwy na 1000 o ymatebion i law i’n hymgynghoriad cyhoeddus ar yr ardoll. Rydym wedi cyhoeddi’r canfyddiadau hyn heddiw hefyd, ynghyd â’r ymchwil defnyddwyr.
Er bod cefnogaeth wedi bod i’r ardoll ar draws y mwyafrif o awdurdodau lleol a sefydliadau eraill, cynrychiolwyr o’r diwydiant twristiaeth gyflwynodd nifer helaeth o’r ymatebion hyn ac roedd llawer yn anghytuno â’r egwyddor o ardoll ymwelwyr.
Mae’n bryder cyffredin ymhlith yr ymatebwyr y byddai pobol yn rhoi’r gorau i ymweld â Chymru pe byddai ardoll yn cael ei chyflwyno.
Hoffem dawelu meddyliau cynrychiolwyr y sector twristiaeth yng Nghymru ein bod yn dymuno gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd sydd i ddod, a chyda llywodraeth leol a’n holl bartneriaid i sicrhau na fydd hyn yn digwydd.
Rydym am eu sicrhau hefyd fod taliadau tebyg ar waith yn barod mewn lleoliadau ar draws y byd – taliadau y mae twristiaid a phobol leol, fel ei gilydd, yn elwa arnynt.
Nawr yw’r amser inni gynllunio ardoll sy’n gweithio i bob un ohonom
Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi neilltuo amser i ymateb i’n hymgynghoriad. Wrth inni gymryd y cam nesaf tuag at gyflwyno ardoll yng Nghymru, byddwn nawr yn defnyddio eu hadborth nhw, a’r adborth o’r ymchwil defnyddwyr, i bennu’n union sut fydd yr ardoll yn gweithio.
Rydym yn gwybod y bydd angen i’r ardoll fod yn deg.
Mae angen ardoll syml a rhaid iddi fod yn hawdd i’w gweithredu.
Bydd angen amser i wireddu hyn. Dros y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod, byddwn yn parhau i weithio gyda busnesau, llywodraeth leol a’n holl bartneriaid i gynllunio ardoll ymwelwyr i Gymru a fydd yn gweithio i bob un ohonom.
Ardoll a fydd yn rhoi’r pŵer yn nwylo’r cymunedau lleol fydd hon, a bydd yn adnodd iddynt ei ddefnyddio i annog twristiaeth adfywiol.
Gadewch inni weithio gyda’n gilydd i wneud yn siŵr bod enw da Cymru fel cyrchfan o ansawdd uchel i dwristiaid yn cael ei gadarnhau am flynyddoedd i ddod.
- Mae’r ardoll ymwelwyr yn cael ei datblygu fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio a lofnodwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.