Mae ymchwil newydd yn dangos bod y rhan fwyaf o bobol yn cefnogi’r egwyddor y dylai twristiaid gyfrannu at gostau cynnal a chadw, a buddsoddi mewn cyrchfannau gwyliau.

Mae disgwyl i Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol Cymru, gyhoeddi heddiw (dydd Iau, Mawrth 30) fod y cynlluniau i gyflwyno ardoll i dwristiaid am fynd rhagddynt fydd yn galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno’r ardoll yn eu hardaloedd eu hunain.

Y gred yw y bydd y cynlluniau’n mynd gerbron y Senedd yn ystod y tymor presennol.

Swm o arian yw ardoll sy’n cael ei dalu gan bobol sy’n aros mewn llety masnachol dros nos, ac mae’n beth digon cyffredin ym mhob cwr o’r byd, gyda mwy na 40 o wledydd wedi cyflwyno cynlluniau tebyg.

Bydd modd i awdurdodau lleol benderfynu a fyddan nhw’n cyflwyno ardoll, a bydd yr arian sy’n cael ei godi yn mynd tuag at awdurdodau lleol ar gyfer eu dibenion eu hunain.

Ymgynghoriad

Daeth mwy na 1,000 o ymatebion i law yn sgil ymgynghoriad â’r cyhoedd fis Rhagfyr y llynedd ynghylch sut i gyflwyno ardoll.

Mae casgliadau’r ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi heddiw, ynghyd ag adroddiad ymchwil cwsmeriaid yn rhoi sylw i safbwyntiau’r cyhoedd ynghylch ardoll i dwristiaid.

Yn sgil yr ymgynghoriad, daeth ymatebion gan fusnesau, awdurdodau lleol a’r cyhoedd yn ehangach, ac roedd cryn gefnogaeth yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol a sefydliadau eraill i’r cynlluniau.

Ond daeth nifer o ymatebion hefyd gan gynrychiolwyr o’r byd twristiaeth, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n gwrthwynebu’r egwyddor.

Yn ogystal â’r ymgynghoriad, canolbwyntiodd ymchwil ymhlith cwsmeriaid ar safbwyntiau trigolion Cymru a chwsmeriaid gwyliau cartref yn y Deyrnas Unedig.

Casgliadau

Ymhlith prif gasgliadau’r ymchwil roedd y ffaith fod y rhan fwyaf o blaid yr egwyddor o gyflwyno ardoll twristiaeth.

Roedd 58% o’r rhai atebodd yn cytuno y dylai twristiaid gyfrannu at gostau cynnal a chadw a buddsoddi yn yr ardaloedd lle maen nhw’n aros ar eu gwylio.

Cododd y ffigwr i 66% mewn ardaloedd yng Nghymru lle mae nifer sylweddol o dwristiaid, a 72% ar draws y Deyrnas Unedig.

Dim ond 13% o drigolion Cymru atebodd yr ymgynghoriad oedd yn gwrthwynebu ardoll.

Roedd y gefnogaeth i ardoll ar ei chryfaf mewn ardaloedd lle mae’r nifer fwyaf o dwristiaid, gyda dau draean o drigolion Cymru mewn ardaloedd â chyfran uchel o dwristiaid yn cefnogi’r ardoll.

Roedd y rhan fwyaf yn cefnogi’r egwyddor o gyflwyno ardoll yn yr ardaloedd lle maen nhw’n mynd ar eu gwyliau – gyda 45% yn gefnogol a dim ond 25% yn negyddol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Wrth i wyliau’r Pasg ddynesu, gyda sawl rhan o Gymru yn paratoi at groesawu ymwelwyr o bob cwr o’r byd, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn mynd ati i greu sector twristiaeth cynaliadwy sydd hefyd yn cefnogi cymunedau lleol,” meddai Rebecca Evans.

“Yn ystod y blynyddoedd nesaf, byddwn yn parhau i weithio gyda busnesau, llywodraeth leol a’n holl bartneriaid i gynllunio ardoll a fydd yn rhoi pŵer yn nwylo cymunedau lleol.

“Rydym yn deall bod gan rai busnesau amheuon am ardoll ymwelwyr ac rwy’n ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i ymateb i’r ymgynghoriad.

“Bydd yr ymatebion hyn yn cael eu hystyried yn ofalus wrth inni barhau i ddatblygu ein cynlluniau penodol ar gyfer ardoll.

“Mae llawer o lefydd o amgylch y byd yn defnyddio ardoll ymwelwyr i roi grym a hwb i’w hardaloedd lleol er budd ymwelwyr a phobol leol fel ei gilydd – hyderaf y bydd yn gwneud hynny yma yng Nghymru.”

Sector sy’n “ffynnu ac yn gynaliadwy”

Mae cynigion ar gyfer ardoll ymwelwyr wedi’u datblygu drwy Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru.

“Rydym am i sector twristiaeth Cymru ffynnu a bod yn gynaliadwy,” meddai Cefin Campbell, Aelod Dynodedig Plaid Cymru. “Bydd yr ardoll ymwelwyr yn helpu i sicrhau hynny.

“Ein nod yw datblygu twristiaeth gyfrifol sy’n gweithio ar gyfer ymwelwyr a’r cymunedau maen nhw’n ymweld â nhw.

“Bydd awdurdodau lleol yn gallu cyflwyno cyfraniad bach gan ymwelwyr sy’n mwynhau eu hardal i helpu i ddatblygu a diogelu gwasanaethau a seilwaith lleol.”