Daeth dros 500 o bobol ynghyd ger Senedd Iwerddon ddoe (dydd Mercher, Mawrth 29) i alw am “Wyddeleg i bawb” ac i brotestio yn erbyn y dulliau sy’n cael eu defnyddio i addysgu’r iaith.
Ymhlith y rhai ddaeth ynghyd ger Leinster House roedd myfyrwyr ysgol a thrydedd lefel, athrawon, rhieni, cynrychiolwyr undebau athrawon, a chynrychiolwyr sefydliadau iaith Wyddeleg.
Roedden nhw’n galw am brofiad dysgu boddhaol i bob disgybl sy’n dysgu Gwyddeleg drwy’r system addysg, a hynny drwy ddatblygu Polisi Gwyddeleg o’r Blynyddoedd Cynnar hyd at y Drydedd Lefel, gan sefydlu gweithgor arbenigol ar unwaith gydag aelodau sy’n deall ac sydd â phrofiad o’r Wyddeleg yn y system addysg.
‘Mae’r system wedi torri’
“Mae’r system wedi torri yn nhermau’r Wyddeleg yn y system addysg,” meddai Julian de Spáinn, ar ran yr ymgyrch Gaeilge4All.
“Mae’r gofynion a’r meysydd llafur heb synnwyr ar gyfer cylchoedd iau ac uwch (er enghraifft, mae 90%+ o athrawon yn anhapus â nhw ar lefel cylch iau).
“Mae gwneuthuriad y dystysgrif adael mewn perygl oherwydd y penderfyniad i symud papur 1 yr iaith Wyddeleg i ddiwedd y bumed flwyddyn (er bod y penderfyniad hwn wedi’i ohirio am flwyddyn yn ddiweddar, dydy’r penderfyniad ei hun ddim wedi cael ei atal).
“Mae yna ddiffyg Gaelscoileanna a Gaelcholáistí (ysgolion a cholegau Gwyddeleg) fel opsiwn i rieni pan mai dim ond 7% o fyfyrwyr y wlad sy’n gallu cael mynediad at y nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael.
“Mae eithriadau allan o reolaeth, gyda thros 40,000 o fyfyrwyr ail lefel ar hyn o bryd wedi’u heithrio, a does dim cynllun i gefnogi myfyrwyr ag anghenion arbennig i sicrhau eu bod nhw’n cael cymorth i barhau i ddysgu Gwyddeleg yn hytrach na chael eu cau allan.
“Ac yn ddiweddar, cafodd 30 munud yr wythnos o addysgu Gwyddeleg ei ddileu o’r cwricwlwm cyradd ar gyfer y dosbarth cyntaf ymlaen, heb fod ymchwil wedi’i gwneud ynghylch effaith hyn ar safon yr iaith Wyddeleg.
“Gadewch i ni drwsio’r system ar y cyfan.
“I’r perwyl hwnnw, mae’r ymgyrch Gaeilge4All yn galw am y camau canlynol gan y Gweinidog Addysg Norma Foley: fod pob disgybl yn ein system addysg yn cael profiad dysgu iaith Wyddeleg boddhaol; fod Polisi ar gyfer Gwyddeleg yn y System Addysg o Addysg Blynyddoedd Cynnar hyd at y Drydedd Lefel yn cael ei ddatblygu er mwyn sicrhau’r profiad hwn i fyfyrwyr; fod gweithgor arbenigol penodol yn cael ei sefydlu, gydag aelodau sy’n deall ac sydd â phrofiad o’r iaith Wyddeleg yn y system addysg i ddatblygu’r polisi hwn.”
Cafodd polisi tebyg ei addo yn y Rhaglen Lywodraeth, ac roedd hefyd yn rhan o addewidion Fianna Fáil yn ystod etholiad cyffredinol 2020.
“Mae’n bryd gwireddu’r addewidion hynny,” meddai’r ymgyrch.
‘Dydy’r system bresennol ddim yn gweithio’
“Mae athrawon iaith Wyddeleg yn credu’n gryf nad yw’r system bresennol yn gweithio, ac un o’r methiannau mwyaf sy’n bod ers rhai blynyddoedd yw fod llais athrawon a myfyrwyr wedi’i hepgor o nifer o benderfyniadau ar ddyfodol Gwyddeleg yn y system,” meddai Shane Ó Coinn, cadeirydd An Gréasán do Mhúinteoirí Gaeilge.
“O ganlyniad, mae’r Wyddeleg wedi’i gwanhau o fewn y system.
“Rhaid gwrando ar lais athrawon a myfyrwyr a gweithredu ar sail hynny.
“Er enghraifft, mae’n amlwg o ymchwil ddiweddar sydd wedi’i chwblhau gan SEALBHÚ ar farn athrawon a myfyrwyr ynghylch Gwyddeleg Cylch Iau fod angen brys am arholiad llafar yn y drydedd flwyddyn fyddai’n werth 40% o farc terfynol myfyrwyr.
“Yn anffodus, doedd dim gweithredu ar sail yr argymhelliad hwn ac argymhellion gwerthchweil eraill gafodd eu cyflwyno’n gryf gan athrawon yn yr un ymchwil, a dim ond mân newidiadau gafodd eu gwneud pan gafodd diwygiadau eu cyhoeddi’n ddiweddar.
“Rhaid mynd i’r afael â’r prif broblemau yn y system ar frys, er mwyn cael rhoi pethau’n iawn.
“Mae’n bryd seilio’r system ar bolisi ar gyfer yr iaith Wyddeleg yn y system addysg o addysg blynyddoedd cynnar i’r drydedd lefel, fel y mae’r ymgyrch Gaeilge4All yn galw amdani.
“All system sydd wedi torri ddim cael parhau.”
‘Cymryd cam yn ôl cyn gweithredu’
“Dydy myfyrwyr ddim yn deall pam nad oes dull integredig yn y system addysg ar gyfer yr iaith Wyddeleg,” meddai Gráinne Ní Ailín, Swyddog Iaith Wyddeleg Undeb Myfyrwyr yr Ail Lefel.
“Ar y naill law, mae’r Gweinidog Addysg yn symud Papur 1 y Dystysgrif Adael ar gyfer yr iaith Wyddeleg i ddiwedd y bumed flwyddyn, ac ar y llaw arall mae asiantaeth y Wladwriaeth, Cyngor Cenedlaethol y Cwricwlwm ac Asesiadau, yn gweithio tuag at newid y gofynion neu’r meysydd llafur ar gyfer y dystysgrif adael yn ei chyfanrwydd.
“Dydy hi ddim yn bosib gwneud y ddau beth ar yr un pryd.
“Onid yw’n well cymryd cam yn ôl a gadael i banel o arbenigwyr sy’n deall yr iaith Wyddeleg yn y system addysg ddatblygu’r polisi mae’r ymgyrch Gaeilge4All yn ei gynnig, heb oedi pellach?”