Mae Cynllun Llysgenhadon Ar-lein wedi’i lansio gan Gyngor Sir Caerfyrddin, sy’n darparu cyfle hyfforddiant ar-lein i wella gwybodaeth pobol am y cyfleoedd twristiaeth sydd gan y sir i’w cynnig.

O’i thirweddau godidog a’i hanturiaethau awyr agored i’w diwylliant bywiog a’i threftadaeth gyfoethog, mae Sir Gaerfyrddin yn cynnig rhywbeth i bawb ac, fel llysgennad, bydd pobol yn gallu rhoi cyngor arbenigol i dwristiaid ac ymwelwyr yn y sir neu breswylwyr lleol sy’n chwilio am ddiwrnod allan.

Mae Cynllun Llysgenhadon Sir Gaerfyrddin yn cynnig ystod eang o fodiwlau hyfforddi ar-lein, ar amrywiaeth o themâu, a llu o adnoddau ar-lein.

Mae cofrestru i fod yn llysgennad Sir Gaerfyrddin yn syml, yn hawdd ac yn gyfle gwych i ddysgu rhywbeth newydd.

Mae am ddim ac yn agored i bawb, o breswylwyr, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol lleol i ddarparwyr llety ac atyniadau i’r rhai sy’n gweithio blaen tŷ mewn siop neu gaffi.

Mae myfyrwyr, wardeniaid traffig, tywyswyr teithiau a threfnwyr digwyddiadau hefyd yn yn cael eu hannog i fod yn llysgenhadon i ddysgu mwy am nodweddion unigryw yr ardal.

Mae tair lefel o achrediad – efydd, arian ac aur – yn dibynnu ar nifer y modiwlau sydd wedi’u cwblhau.

Bydd gwobrau, gan gynnwys tystysgrifau, yn cael eu hanfon at bawb sy’n cwblhau’r lefelau hyn.

Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint, Ynys Môn a Cheredigion yw’r cyrchfannau diweddaraf i ymuno â Sir Ddinbych i gynnig y cwrs llysgenhadon ar-lein yng Nghymru.

Mae llysgenhadon yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer sawl cwrs i ehangu eu dysgu am Sir Gaerfyrddin a bod yn rhan o gymuned ehangach.

‘Cyfuniad gwych o wybodaeth, ffeithiau a hiwmor’

Ymhlith y bobol gyntaf i gofrestru i gynllun llysgenhadon ar-lein Sir Gaerfyrddin mae George Reid, cadeirydd Fforwm Twristiaeth De Orllewin Cymru a pherchennog Plas Glangwili.

“Fel rhywun sydd wedi byw a gweithredu busnes twristiaeth yn Sir Gaerfyrddin ers dros 20 mlynedd, cefais fy syfrdanu gyda’r holl wybodaeth, straeon a hanesion nad oeddwn yn ymwybodol ohonynt,” meddai.

“Mae’r cwrs wedi’i ysgrifennu’n gynhwysfawr ac wedi’i ysgrifennu’n dda gyda chyfuniad gwych o wybodaeth, ffeithiau a hiwmor.”

‘Perlau cudd’

“Mae Sir Gaerfyrddin yn llawn perlau cudd sy’n aros i gael eu darganfod a dyna pam rydym yn annog cynifer o bobol â phosibl i’n helpu i godi ymwybyddiaeth o’r hyn sydd gan ein hardal i’w gynnig a helpu tuag at wireddu ei photensial mawr,” meddai Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth.

“P’un a ydych yn gweithio ym maes twristiaeth, lletygarwch neu’n dymuno dysgu rhagor am yr ardal, mae dod yn llysgennad yn ffordd wych o wella’ch gwybodaeth a’ch gwerthfawrogiad o’n sir.

“Mae sector twristiaeth Sir Gaerfyrddin wedi perfformio’n gryf yn dilyn cyfyngiadau Covid-19 gyda thros 2.3m o ymwelwyr yn ychwanegu £412m at yr economi leol.

“Os gallwn annog yr ymwelwyr hyn i ymweld â hyd yn oed fwy o leoedd ar hyd yr arfordir, yng nghefn gwlad, ar safleoedd hanesyddol, anturiaethau egnïol ac ystod anhygoel o siopau bwyd a diod, y mwyaf y byddant am aros, mwynhau, gwario, dychwelyd ac argymell i eraill.

“Er y gallai costau byw cynyddol wneud i bobl ailystyried sut y byddant yn treulio eu hamser gwerthfawr i ffwrdd eleni, mae amrywiaeth enfawr o gyfleoedd hamdden am ddim a hygyrch i deuluoedd, ffrindiau a chyplau fanteisio arnynt ledled y Sir.

“Fel llysgennad i Sir Gaerfyrddin, byddwch yn chwarae rôl allweddol i hyrwyddo hyn.”