A oes peryg i ddealltwriaeth Gymreig o’r byd gael ei golli yn sgil y cyfryngau cymdeithasol?
Dyna fydd testun sgwrs rhwng Simon Brooks a Huw L Williams, fydd yn cael ei chadeirio gan yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, yng ngŵyl lenyddol ‘Amdani, Fachynlleth!’ dros y penwythnos.
Fel rhan o’r drafodaeth, bydd yr arbenigwyr yn trafod beth yw’r Meddwl Cymreig, ac yn ystyried a ydyn ni’n dal i’w ddefnyddio i’r un graddau erbyn hyn.
Y man cychwyn wrth ystyried beth ydy’r Meddwl Cymreig ydy gofyn a oes yna dystiolaeth empeiraidd yng nghofnodion hanesyddol Cymru bod yna ffordd wahanol o weld y byd yng Nghymru, yn ôl Simon Brooks, sy’n arbenigwr ar hanes syniadau yn y diwylliant Cymraeg.
Oes, yn hanesyddol, ydy’r ateb, meddai.
“Mae hynny wedi codi’n rhannol oherwydd presenoldeb y Gymraeg, y Gymraeg fel iaith leiafrifol,” esbonia Simon Brooks wrth golwg360 cyn y sgwrs gyda’r athronydd Huw L Williams yn Senedd-dy Owain Glyndwr, Machynlleth am 4.30yp ddydd Sadwrn (Ebrill 1).
“Mae e wedi codi hefyd oherwydd ymdeimlad y Cymry eu bod nhw’n grŵp lleiafrifol eu hunain oddi mewn i Brydain.
“Roedd y Cymry’n meddwl mai nhw oedd trigolion cyntaf Prydain yn eu mytholeg eu hunain, dyna sut oedden nhw’n gweld y byd.
“Mae’r gwahanol ystyriaethau yma, yr ymwybodol o fod yn lleiafrif a’r ffaith bod rhywun yn siarad iaith wahanol, dros y blynyddoedd, wedi creu – i bob pwrpas – draddodiad deallusol sy’n rhan o’r traddodiad yn y gorllewin.
“Dydy o ddim ar wahân i’r traddodiadol gorllewin, mae o’n rhan ohono fo, ond mae ei bwyslais yn gallu bod yn wahanol.
“Mi fydd Huw yn dadlau bod y Meddwl Cymreig, at ei gilydd, wedi bod yn weddol progressive oherwydd y cyd-destun yma.
“Mi fydda i yn dadlau bod y Cymry’n draddodiadol wedi tueddu i edrych ar y byd drwy gyfrwng iaith yn hytrach nag unrhyw gyfrwng arall wrth ddiffinio eu hunain.”
Effaith y cyfryngau cymdeithasol
Mae Simon Brooks yn pwysleisio bod dylanwadau o’r tu allan yn beth da, a bod y Meddwl Cymreig wedi cael ei gyfoethogi’n aruthrol ar wahanol adegau gan ddylanwadau o’r tu allan i Gymru.
“Ond mae gennych chi sefyllfa erbyn hyn bod lle mae’r drafodaeth gyhoeddus yn digwydd wedi symud efallai o lle’r oedd hi’n cael ei chynnal hanner canrif yn ôl – wastad yn cael ei chynnal mewn llyfrau, er enghraifft,” meddai.
“Mae hi’n tueddu i fynd ar-lein i gyfeiriad y cyfryngau cymdeithasol yn benodol.
“Mae dadansoddiadau diwylliannol sydd ar y cyfryngau cymdeithasol at ei gilydd yn adlewyrchu trafodaethau yn yr Unol Daleithiau.
“Mae hynny, yn fy marn i, wedi arwain at sefyllfa lle mae ein traddodiadau neu ein meddwl ni’n hunan yn cael llai o sylw nag y dylai.
“Mae yna duedd i ddod i mewn efo damcaniaethau o America, ac i feddwl bod yna rywbeth yn anghywir os nad ydy’r sefyllfa Gymreig yn ffitio yn hynny.
“Enghraifft o hyn, efallai, unwaith eto fysa iaith. Pan mae rhywun yn edrych ar syniadau sy’n dod mewn o America, fel arfer dydyn nhw ddim yn trafod iaith yn ddwys iawn o gwbl.
“Maen nhw’n trafod y byd o gyd-destun pethau eraill, ond dim iaith. Mae iaith yn ganolog i’r bydolwg Cymraeg felly mae cael trafodaeth ddeallusol neu syniadol sy’n cogio nad yw iaith yn bwysig nag yn ganolog, er enghraifft wrth drafod materion yn ymwneud â sut ydych chi’n dehongli’r byd, yn anffodus.
“Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi arwain at lai o amrywiaeth, mae yna lai o lefydd i ddiwylliannau lleiafrifol o fewn i hynny.
“Mae yna duedd i ddweud wrthym ni beth ddylen ni fod yn meddwl, ac mae yna duedd i anghofio ein traddodiadau ni ein hunain.”
‘Dychwelyd at ein bydolwg’
At hynny, mae Simon Brooks yn ofni bod y duedd i ddefnyddio fframwaith Americanaidd i drin a thrafod y byd yn tanseilio’r Meddwl Cymreig a’r syniadau sy’n bodoli o fewn y diwylliant.
“Mae [pwysigrwydd y Meddwl Cymreig] yn dibynnu i ba raddau mae rhywun yn credu bod y gymdeithas Gymreig yn gymdeithas sydd efo’i sofraniaeth ddiwylliannol ei hun ac i ba raddau mae yna amodau cymdeithasol penodol yn y gymdeithas honno,” meddai.
“Fy nehongliad i o’r gymdeithas Gymraeg ydy ei bod hi’n gymuned leiafrifol sydd efo’i chadarnle mewn un rhan o Brydain – sef yng Nghymru – er bod i’r Cymry eu hunain yn ganolog i’r bydolwg yma ydy’r syniad eu bod nhw wedi perchnogi Prydain i gyd ar un adeg.
“Ond cymuned leiafrifol felly sydd wedi meithrin dull o weld y byd sydd ar wahân i’r meddwl Angloffon ers canrifoedd.
“Nawr mae gennym ni, yn sgil hynny, draddodiad eithriadol o gyfoethog mewn llenyddiaeth, ond mewn syniadau hefyd.
“Dw i’n ofni, a dw i’n credu bysa Huw yn cytuno, bod y duedd yma jyst i drafod dylanwadau Americanaidd yn tanseilio hynny.
“Weithiau, dw i’n ofni nad oes yna ddigon o gydnabyddiaeth yn y dehongliadau sy’n dod o America, gan nad ydyn nhw’n trafod iaith, ein bod ni’n gymuned leiafrifol o gwbl.
“Dw i’n cael y teimlad weithiau ein bod ni’n trafod materion a does yna ddim cydnabyddiaeth ein bod ni’n gymuned leiafrifol.
“Bydden ni’n dadlau yn ogystal, dw i’n credu, bod gennym ni, yn y Gymraeg, archif. A be’ dw i’n golygu wrth archif ydy bod gennym ni ein testunau ein hunain sy’n mynd yn ôl am ganrifoedd, a dydy beth sydd yno yn ein harchif ni ddim yn ddiwerth.
“Dydy o ddim yn rywbeth i’w ddiystyru, mae angen i ni fynd yn ôl at ein bydolwg ni ac ystyried sut mae hynny’n berthnasol i gwestiynau heddiw.”