Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Peter Thomas, Llywydd Oes Rygbi Caerdydd, sydd wedi marw’n 79 oed.
Cafodd e ddiagnosis o ganser yn 2021, ac fe fu farw yn ei gartref yng Nghaerdydd, meddai datganiad ar wefan y clwb.
Mae’n gadael gwraig, Babs, eu plant Holly, Debs, Steph a Rod, a naw o wyrion.
Cafodd ei eni yng Nghaeredin yn 1943, a’i dad Stanley yn aelod o’r Llynges.
Symudodd y teulu i Swydd Gaerhirfryn cyn ymgartrefu ym Merthyr Tudful ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.
Cafodd ei addysg yn Nhwynyrodyn a Chastell Cyfarthfa, ac yna yn Taunton yng Ngwlad yr Haf.
Rygbi
Dechreuodd ei gysylltiad â’r byd rygbi yng Nghaerdydd, sy’n ymestyn dros 60 mlynedd, pan gafodd ei ddewis i dîm ieuenctid y brifddinas yn 1961.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n chwaraewr, yn fuddsoddwr, yn noddwr, yn gadeirydd, yn Llywydd Oes ac yn gefnogwr brwd.
Chwaraeodd e 11 o weithiau i Gaerdydd, gan deithio gyda’r clwb i Dde Affrica yn 1967.
Enillodd ei gap a’r Bêl Arian yn 1966.
Treuliodd e gyfnodau gyda Bedwas a Glyn Ebwy yn ystod ei yrfa hefyd.
Dywed Rygbi Caerdydd fod ei waddol yn “anfesuradwy”, a’i “haelioni a chefnogaeth yn eang a diwyro”.
Daeth yn noddwr Caerdydd yn 1990 ac yn gadeirydd yn 1996 pan ddaeth rygbi’n gamp broffesiynol, ac arhosodd yn y rôl tan 2018 pan ddaeth yn Llywydd Oes.
O dan ei arweiniad, enillodd y clwb sawl cynghrair, Cwpan Cymru, Cwpan Ewrop, Cwpan EDF a Chwpan Her Ewrop.
Byd busnes
Yn ŵr busnes o fri, fe ddaeth yn un o enwau amlycaf y byd masnachol yng Nghymru fel perchennog Peter’s Savoury Products gyda’i frawd Stanley a’i chwaer Mary.
Cafodd cwmni Peter’s Pies ei werthu am £75m yn 1988, ac fe dyfodd i fod yn fusnes gwerth £105m.
Ynghyd â Paul Bailey a’i frawd Stanley Thomas, aeth Peter Thomas yn ei flaen yn 1992 i sefydlu Thomas Bailey Investments, gan redeg dros 80 o feysydd awyr, gan gynnwys bod yn berchnogion ar Faes Awyr Caerdydd ymhlith eraill ledled Ewrop.
Fe lansiodd e’r cwmni Atlantic Property Developments, un o’r cwmnïau eiddo mwyaf yng Nghymru erbyn hyn.
Fe fu â rhan hefyd yn Festival Parks Europe, cwmni hamdden a manwerthu sy’n gyfrifol am nifer o ddatblygiadau ar draws Ewrop.
Cafodd ei urddo’n CBE yn 2012 am ei wasanaeth i fusnes, chwaraeon ac elusennau yng Nghymru, ac fe fu’n gefnogwr brwd o sawl sefydliad celfyddydol, gan gynnwys y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd a chôr Only Boys Aloud.
‘Gŵr bonheddig’
“Bu’n un o’r ffigurau pwysicaf yn hanes rygbi Cymru, ac fe fydd yn cael ei gofio fel gŵr bonheddig go iawn, oedd yn ostyngedig ac yn eithriadol o hael â’i amser, ei wybodaeth a’i gyfoeth,” meddai Rygbi Caerdydd.
“O’i ddyddiau chwarae i’w arweinyddiaeth ddiwyro a chadarn, ei allu busnes a’i gefnogaeth ariannol fel cyfarwyddwr a buddsoddwr, bydd yn cael ei gofio fel un o’r ffigurau pwysicaf a mwyaf dylanwadol yn hanes digyffelyb Rygbi Caerdydd.
“Roedd y clwb yn angerdd bore oes ganddo, a byddwn bob amser yn ddiolchgar i Peter a’r teulu Thomas.”
‘Cynhesrwydd’
Dywed David Buttress, cadeirydd rhanbarth rygbi’r Dreigiau, y byddai’n ei gyfarch bob amser “â’r fath gynhesrwydd ac anwyldeb”.
“Roedd Peter yn ŵr bonheddig iawn, ac mae ei ddylanwad a’i effaith ar Rygbi Caerdydd yn anfesuradwy,” meddai.
“Chwaraeodd i’r clwb yn ystod y 1960au, lle byddai’n cyfrif rhai o fawrion y gêm yng Nghymru – Syr Gareth Edwards, Gerald Davies a Barry John – ymhlith ei gyfoedion, cyn dod yn rym mawr oddi ar y cae pan aeth rygbi’n broffesiynol.
“Bydd colled fawr ar ôl Peter i gynifer o bobol, ac rwy’n siarad ar ran pawb ohonom yn y Dreigiau wrth anfon fy nghydymdeimlad dwysaf a’m meddyliau at ei deulu a’i ffrindiau ar yr adeg drist iawn hon.”
Dywed Dai Flanagan, prif hyfforddwr y Dreigiau, iddo “weld yr holl waith wnaeth e dros rygbi Cymru”.
Yn ôl Nigel Walker, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, fe wnaeth Peter Thomas “gyfraniad enfawr i Rygbi Caerdydd”.
“Ac fe gafodd e effaith sylweddol a hirhoedlog ar fy ngyrfa ar y cae ac oddi arno,” meddai.
Dywed rhanbarth y Gweilch y “bydd ei gyfraniad i’r gêm yn cael ei gofio am byth”.