Mae Ioan Cunningham, prif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru, wedi cyhoeddi’r pymtheg fydd yn herio’r Alban yn ail rownd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Sadwrn (Ebrill 1).

Bydd y tîm yn gobeithio adeiladu ar eu buddugoliaeth o 31-5 dros Iwerddon ar Barc yr Arfau ar benwythnos cynta’r gystadleuaeth.

Hannah Jones fydd yn arwain y tîm, wrth i Keira Bevan ennill ei hanner canfed cap.

Bydd Kerin Lake hefyd yn y canol, gyda Courtney Keight yn y crys rhif pymtheg a Lisa Neumann a Carys Williams Morris ar yr esgyll.

Mae Gwen Crabb allan o’r tîm ag anaf i’w phenglin, gyda Georgia Evans yn symud i’r ail reng yn ei lle i gadw cwmni i Abbie Fleming, tra bod Sioned Harries yn dechrau yn y crys rhif wyth a Bethan Lewis yn symud i ochr dywyll y rheng ôl.

Gwenllian Pyrs, Kelsey Jones a Sisilia Tuipulotu fydd yn y rheng flaen, gydag Alex Callender yn cwblhau’r rheng ôl.

Tîm sy’n “haeddu’r cyfle”

“Mae’r tîm hwn yn haeddu’r cyfle i adeiladu ar y perfformiad yn erbyn Iwerddon ar gyfer yr hyn rydyn ni’n gwybod fydd yn her anodd oddi cartref yn yr Alban,” meddai Ioan Cunningham.

“Bydd yr Alban yn dal yn brifo ar ôl y ffordd wnaethon ni gael buddugoliaeth yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd.

“Tra ei fod yn un o’r perfformiadau gorau rydyn ni wedi’u cael fel tîm yng Nghaerdydd, mae digon o lefydd i wella.

“Rydyn ni wedi gweithio ar yr agweddau hynny drwy gydol yr wythnos.

“Dangosodd y pwynt bonws y gallwn ni sgorio ceisiau, a dyna un o’r meysydd rydyn ni wedi’u targedu i’w gwella yn yr ymgyrch yma.

“Bydd sgorio’r ceisiau hynny’n rhoi hyder gwirioneddol i ni yn y ffordd rydyn ni eisiau chwarae ac ymosod.

“Rydyn ni wedi’n gorfodi i wneud un newid oherwydd anaf Gwen Crabb ac mae’r holl hyfforddwyr, chwaraewyr a staff yn eithriadol o siomedig drosti ar ôl iddi weithio mor galed i gael yn ôl ar y cae.

“Bydd Gwen yn cael yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arni gennym ni, a dw i’n gwybod y bydd hi’n ôl.”


Tîm Cymru:

15. C Keight, 14. L Neumann, 13. H Jones (capten), 12. K Lake, 11. C Williams-Morris, 10. E Snowsill, 9. K Bevan; 1. G Pyrs, 2. K Jones, 3. S Tuipulotu, 4. A Fleming, 5. G Evans, 6. B Lewis, 7. A Callender, 8. S Harries.

Eilyddion:

16. C Phillips, 17. C Hope, 18. C Hale, 19. N John, 20. K Williams, 21. Ff Lewis, 22. Ll George, 23. H Bluck.