Mae Ben Cabango, amddiffynnwr canol Abertawe sy’n hanu o Gaerdydd, yn dweud bod chwaraewyr yr Elyrch yn edrych ymlaen at herio tîm y brifddinas yn y gêm ddarbi fawr ddydd Sadwrn (Ebrill 1).
Sgoriodd y Cymro Cymraeg y tro diwethaf i’r gelynion pennaf herio’i gilydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd, wrth i’r Elyrch ennill o 4-0 a chyflawni’r gamp o fod y tîm cyntaf erioed i ennill dwy gêm ddarbi yn yr un tymor.
Dyma’r eildro i’r Elyrch a’r Adar Gleision wynebu ei gilydd y tymor hwn, ar ôl i Abertawe guro Caerdydd o 2-0 yn Stadiwm Swansea.com ym mis Hydref diolch i goliau Ollie Cooper a Michael Obafemi.
Aeth Caerdydd i lawr i ddeg dyn ar ôl saith munud, wrth i Callum Robinson daflu’r bêl i wyneb Ben Cabango, fydd yn chwarae yn ei bedwaredd gêm ddarbi ddydd Sadwrn pe bai’n cael ei ddewis. Mae e hefyd wedi bod ar y fainc ar gyfer dwy gêm ddarbi arall.
“Mae hi bob amser yn gêm enfawr i ni fel chwaraewyr a chefnogwyr,” meddai Ben Cabango.
“Rhown ni bopeth iddi, ceisio perfformio ar ein gorau a gobeithio y gallwn ni gael y triphwynt.
“Mae perfformiadau fel yr un yn erbyn Bristol City, gyda’r fuddugoliaeth a’r llechen lân, yn rhoi cymaint o hyder i ni, ac mae’n bwysig ein bod ni’n adeiladu ar hynny.
“Bydd pawb wedi bod yn gweithio’n galed yn ystod y toriad, a byddwn ni’n ceisio bod yn barod ar gyfer y gêm yn erbyn Caerdydd.”