Mae Jon Grey wedi cael ei benodi’n aelod o staff hyfforddi tîm pêl-droed merched Cymru.

Yn fwyaf diweddar, fe fu’n hyfforddwr dan 21 ac yn Rheolwr Academi Abertawe.

Bydd yn ymuno â Chymru’n barhaol ac yn llawn amser, gan ddechrau gyda’r gemau sydd i ddod yn erbyn Gogledd Iwerddon a Phortiwgal.

Cynrychiolodd e dimau oedran Cymru, ac fe fu’n hyfforddi timau Cymru’n rhan amser dros y blynyddoedd diwethaf.

Bydd y rôl newydd hon yn un llawn amser, ar ôl i Jon Grey fod yn aelod o’r tîm hyfforddi ar gyfer Cwpan Pinatar fis diwethaf.

Ymateb i’r penodiad

“Dw i wrth fy modd ac wedi cyffroi o gael ymuno â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ar adeg mor bositif i bêl-droed Cymru,” meddai Jon Grey.

“Siaradais i â Gemma ynghylch sut y gallwn ni gydweithio, ac o fewn pum munud roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau bod yn rhan ohoni.

“Bydd y gemau yr wythnos nesa’n baratoad gwych ar gyfer Cynghrair y Cenhedloedd, rydyn ni’n gwybod fod gennym ni gemau mawr i ddod unwaith ddaw’r enwau o’r het, ac mae’n rhaid i ni fod yn barod amdanyn nhw.”

Mae Gemma Grainger hefyd wedi mynegi ei balchder ynghylch penodiad Jon Grey i’w thîm hyfforddi.

“Roeddwn i eisiau hyfforddwr Cymreig â Thrwydded Broffesiynol, ac roedd Jon yn wych yn yr amgylchfyd pan oedd e gyda ni fis diwethaf,” meddai.

“Dyma’r tro cyntaf i ni gael is-hyfforddwr llawn amser ar gyfer y tîm oedolion.

“Mae Jon yn ffitio’n wych i’r rôl ac alla i ddim aros i gydweithio â fe yn y gemau sydd i ddod.”

Mewn datganiad yn cyhoeddi ei ymadawiad, mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi diolch i Jon Grey ac wedi dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol.