Mae miloedd o bobol ar fin dod yn fwy actif yn Aberystwyth, diolch i grant gwerth £470,261 i adnewyddu Canolfan Hamdden Plascrug yn Aberystwyth.
Dywed Cyngor Sir Ceredigion bod disgwyl i’r cyfleuster newydd sicrhau mwy na 70,000 o ymwelwyr y flwyddyn.
Bydd ardal segur yn cael ei hadfywio fel cyfleuster pob tywydd, gyda llifoleuadau gydag arwyneb Gen2 newydd sy’n addas ar gyfer hoci pump bob ochr, pêl droed pump bob ochr a phêl-rwyd.
Bydd yr ailwampio’n darparu cyfleoedd i ysgolion a’r gymuned leol.
£3.1m i brosiectau ledled Cymru
Mae’r arian hwn yn rhan o gyhoeddiad Chwaraeon Cymru y bydd £3.1m mewn cyllid cyfalaf newydd o fudd i nifer o brosiectau cyffrous mewn cymunedau ledled Cymru.
Mae cyfanswm o 30 o brosiectau wedi derbyn cyllid i alluogi mwy o gyfleoedd i bobol fwynhau chwaraeon, gan gynnwys BMX, bocsio, pêl-rwyd a ffensio.
Mae buddsoddi yn yr ardaloedd sydd ei angen fwyaf yn rhan o Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.
Yn ogystal â darparu mwy o gyfleoedd chwaraeon, bydd y cyllid hefyd yn helpu i ddiogelu dyfodol hirdymor cyfleusterau hamdden drwy eu gwneud yn fwy ynni effeithlon a chynaliadwy.
“Braf gweld Chwaraeon Cymru yn buddsoddi yng nghefn gwlad Cymru”
Mae Arwel Jones, Rheolwr Canolfan Hamdden Plascrug, ar ben ei ddigon gyda’r newyddion.
Maen nhw’n paratoi i wneud gwelliannau mawr yno, a bydd hyn o fudd mawr i’r gymuned yn enwedig pobol ifanc.
“Mae o’n braf i weld bod Chwaraeon Cymru yn buddsoddi yng nghefn gwlad Cymru,” meddai wrth golwg360.
“Mae angen yr adnoddau arnom ni i roi cyfleoedd cyfartal i bawb.
“Mae hwnna’n bositif iawn.
“Y gobaith yw y byddwn yn gallu gwneud y gwaith yn ystod y flwyddyn hon a bod yn barod ar gyfer y gaeaf sydd i ddod.
“Mae’n adnodd arall i ni allu darparu gwasanaeth i’r cyhoedd a chwsmeriaid yng ngogledd Ceredigion.
“Mae gyda ni’r safle ers sawl blwyddyn sydd wedi dirywio.
“Dyw e ddim bellach yn cael ei ddefnyddio.
“Mae unrhyw waith arno yn mynd i alluogi ni i gynnig mwy i’r defnyddwyr.
“O ran y gymuned leol bydd yn adnodd maint perffaith bydden i’n meddwl ar gyfer timau pêl-droed ieuenctid y plant, yn enwedig o dan 11, i hyfforddi arno.
“Does dim digon o adnoddau i gyrraedd y demand yng ngogledd Ceredigion.
“Bydd pobol yn gwneud mwy o ymarfer corff oherwydd y grant yma.
“O ran ymarfer corff, byddwn yn dal yn darparu popeth rydym yn ei ddarparu ar hyn o bryd, jyst ychwanegiad yw hyn sy’n rhoi mwy o gyfle i fwy o bobol i gael mynediad addas at gyfleuster i wneud ymarfer corff.”
Y ganolfan hamdden yng nghanol yr ysgolion
Wedi ei leoli yn y man perffaith ar gyfer pobol ifanc gan ei fod yng nghanol ysgolion, bydd yr ysgolion yn gallu gwneud defnydd o’r cyfleusterau newydd.
“Mae lleoliad Plascrug o ran ysgolion rydym yng nghanol sawl ysgol, Ysgol Gyfun Penweddig, mae ysgolion cynradd, Ysgol Gymraeg Plascrug a Phadarn Sant,” meddai.
“Maen nhw’n gallu’i ddefnyddio fo yn ystod y dydd.
“Rydym hefyd i ysgolion, felly pan fydd ysgolion yn dod mewn i gael gwersi nofio, mae’n bosib y bydd plant eraill yn yr ysgol yn gallu dod mewn a defnyddio’r cae aml bwrpas.”
Yn ôl Arwel Jones, does dim digon o bobol ifanc yn cymryd rhan mewn ymarfer corff, ac mae’r rhai sydd â phroblemau iechyd oherwydd gorbwysedd ar gynnydd.
Mae’n credu bod ymarfer corff yn rhan o’r ateb.
“Rydym yn gweithio yn y gwasanaeth felly rydym yn gweld ymarfer corff yn bwysig,” meddai.
“O edrych ar ystadegau chwaraeon Cymru gyda’r School Sports Survey, mae hwnna’n dangos fod nifer y plant a phobol ifanc sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon ddim mor uchel â dylai o fod.
“Rydym yn gweld o adroddiadau’r Bwrdd Iechyd, mae obesity a chlefyd y galon yn cynyddu.
“Wel, yn amlwg, yr ateb i hwnna yw bwyta’n iach ac ymarfer corff.
“O ran gwasanaeth a darpariaeth, mae e’n hanfodol i iechyd bob un, nid yn unig yng Ngheredigion a gogledd y sir ond yng Nghymru a thros y byd.”