Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd yn dweud eu bod nhw’n “hynod siomedig” ar ôl clywed y bydd yn rhaid iddyn nhw ailchwarae’r gêm Bencampwriaeth gyfan yn erbyn Rotherham ar Fawrth 18.

Bu’n rhaid i’r chwaraewyr adael y cae ar ôl 48 munud ar Fawrth 18 o ganlyniad i gae gwlyb, a hynny pan oedd yr Adar Gleision ar y blaen o 1-0.

Cafodd y mater ei gyfeirio i Fwrdd y Gynghrair Bêl-droed ar gais y ddau glwb, ac fe wnaethon nhw gyflwyno tystiolaeth er mwyn i’r holl ffactorau gael eu hystyried, gan gynnwys amseru dirwyn yr ornest i ben, yr amser oedd yn weddill, a’r amgylchiadau posib pe bai’r gêm wedi cael ailddechrau gydag 48 munud wedi mynd ar ddyddiad gwahanol.

Yn ôl y Gynghrair, roedden nhw’n awyddus i sicrhau cysondeb ag achosion tebyg mewn gemau eraill.

‘Diystyru hanner cynta’r gêm wreiddiol’

Yn ôl Clwb Pêl-droed Caerdydd, mae’r penderfyniad i ailchwarae’r gêm gyfan yn “diystyru hanner cynta’r gêm wreiddiol, nad oedd wedi’i effeithio gan unrhyw dywydd”.

“Er i ni gyflwyno adroddiad digwyddiad manwl i Gynghrair Bêl-droed Lloegr, oedd yn cynnwys ffotograffau a fideos yn dogfennu’r digwyddiadau yn Stadiwm AESSEAL New York ar Fawrth 18, rydyn ni’n ddig fod y pwyntiau y gwnaethon ni eu codi wedi cael eu gwrthod,” meddai llefarydd.

“Rydyn ni’n arbennig o rwystredig fod rhaid i’n staff, chwraewyr a chefnogwyr oedd wedi teithio i Dde Swydd Efrog fynd ar y daith bell unwaith eto, yn ystod adeg o gostau personol uchel a llu o gemau.”

Mae’r clwb wedi diolch i’r cefnogwyr, gan edrych ymlaen at eu cefnogaeth yn y gêm yn Rotherham nos Fawrth, Ebrill 25 (7.45yh).

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi maes o law, ond mae’r clwb wedi cyhoeddi y bydd Vincent Tan, perchennog Caerdydd, yn talu i’r cefnogwyr oedd wedi teithio i Rotherham ar gyfer y gêm wreiddiol gael mynd eto.