Ar drothwy ei gêm gyntaf wrth y llyw ar yr Oval, mae rheolwr newydd tîm pêl-droed Caernarfon wedi bod yn trafod ei obeithion am weddill y tymor wrth siarad â golwg360.

Cafodd Richard Davies ei benodi ar ôl i dîm tre’r Cofis ddiswyddo Huw Griffiths.

Mewn datganiad, dywedodd y clwb eu bod nhw’n dymuno’r gorau i’r cyn-reolwr a’u bod nhw’n ddiolchgar am ei ymrwymiad i’r clwb.

Ond roedden nhw’n teimlo bod angen newid y rheolwr ar ôl perfformiadau siomedig yn ddiweddar.

“Dymunwn gyhoeddi ein bod wedi penderfynu rhyddhau Huw Griffiths o’i ddyletswyddau fel rheolwr tîm cyntaf,” meddai’r clwb.

“Diolchwn i Huw am ei ymroddiad, ei waith caled a’i ymdrechion ar ein rhan a dymunwn bob lwc iddo ar gyfer y dyfodol.

“Rydym wedi penodi Richard Davies yn rheolwr am weddill y tymor, a bydd unrhyw gyhoeddiadau pellach yn ymwneud â’r staff rheoli yn cael eu gwneud maes o law.”

Yn ôl y cadeirydd Paul Evans, “dydy hi byth yn dasg hawdd ffarwelio â rheolwr”.

Ond “mae’r tymor hwn wedi bod yn hynod o siomedig ar ôl dechrau addawol”, meddai, er iddyn nhw geisio “rhoi pob cyfle iddo wneud pethau’n iawn y tymor hwn”.

“Mae gen i ofn nad oes yna lyfr arweiniad ar sut i redeg clwb pêl-droed ac felly roedd y Bwrdd yn teimlo mai dyma’r ffordd decaf a chywir i weithredu,” meddai wedyn am y penderfyniad i ddiswyddo Huw Griffiths.

“Yn anffodus, ni welsom welliant ac mae’r ddau berfformiad diwethaf wedi bod yn wael iawn, gan arwain at golli neithiwr yn yr Oval.

“Er nad yw pethau wedi gweithio y tymor hwn dydw i i ddim yn meddwl y gall unrhyw un gwestiynu ymrwymiad Huw i’r rôl a’i falchder o fod yn rheolwr i ni, ac mae pawb yn yr Oval yn diolch iddo ac yn dymuno pob lwc iddo yn y dyfodol.”

“Rhywbeth arbennig” am yr Oval

Cawson nhw gêm gyfartal 2-2 oddi cartref yn Hwlffordd y penwythnos diwethaf, ac mae’r rheolwr newydd yn gobeithio adeiladu ar hynny yn y gemau sydd yn weddill.

Ar drothwy’r gêm gartref yn erbyn Airbus heno (nos Wener, Mawrth 31), mae Richard Davies yn edrych ymlaen at gael y chwaraewyr a chefnogwyr ynghyd.

“Rwy’n excited am y gêm nos Wener,” meddai Richard Davies wrth golwg360.

“Rwy’n edrych ymlaen cael bod ’nôl yn yr Oval hefo’n cefnogwyr.

“Mae yna rywbeth arbennig am Friday night under the lights, a gobeithio y gallwn ni roi perfformiad y bydd yr holl gefnogwyr sy’n dod i’n gwylio a’r Cofi Army yn falch ohonom, a’n bod ni’n cael triphwynt hollbwysig.”

Mae Richard Davies yn gobeithio cael llwyddiant yn y pedair gêm sydd yn weddill y tymor hwn, gyda’i dîm yn wythfed yn y JD Premier ar hyn o bryd.

“Y prif nod yw cadw Caernarfon yn y JD Cymru Premier, ac ennill gymaint o’r pedair gêm sydd yn weddill y tymor yma,” meddai.

“Rwy’n gobeithio gwella’r perfformiadau drwy greu amgylchedd positif a gwneud yn siŵr fod y chwaraewyr yn rhoi bob dim i’r crys.

“Mae yna chwaraewyr da yn y tîm, rhaid cofio ’na’r tîm yma lwyddodd i guro’r play-offs flwyddyn ddiwethaf, felly rhan fawr i fi ydi rhoi hyder yn ôl i unigolion i geisio cael y gorau allan ohonynt.

“Rwy’ hefyd wedi bod yn atgoffa’r hogia’ o werthoedd y clwb.”

‘Brwdfrydedd mawr’

Fel un sy’n angerddol am dîm pêl-droed Caernarfon, a phêl-droed yn gyffredinol, mae Richard Davies yn gobeithio sicrhau bod y clwb yn aros yn yr Uwch Gynghrair am dymor arall.

Mae’n deall yn iawn sut mae’r clwb yn gweithio, meddai, ac yn barod i gydweithio.

“Mae gennyf i brwdfrydedd mawr i’r proffesiwn ac mae pawb yn ymwybodol o’r cariad sydd genna’i tuag at y clwb a phêl-droed,” meddai.

“Ar hyn o bryd, dwi’n canolbwyntio ar roi 100% i mewn i’r swydd er mwyn cyrraedd ein nod o aros yn yr Uwch Gynghrair.

“Rwy’ wedi bod hefo’r clwb am nifer o flynyddoedd rŵan, ac mae gennyf fi ymwybyddiaeth dda o sut mae’r clwb yn rhedeg a be’ mae aros yn yr Uwch Gynghrair yn golygu i bawb sy’n rhan o’r clwb yma.

“Rwy’n teimlo bod gennyf i berthynas dda efo’r Bwrdd, y cefnogwyr a’r chwaraewyr ac yn meddwl, os ydy pawb yn deall ei gilydd, bod pethau da yn gallu digwydd.”

Heriau

Ond bydd nifer o heriau i Richard Davies a’r tîm serch hynny.

“Does dim un gêm hawdd, felly’r her fwyaf fydd gwneud yn siŵr ein bod ni’n cael mwy o bwyntiau na’r timau eraill,” meddai wedyn.

“Efo Darren Thomas – y ‘Cofi Messi’ – Rob Hughes a Laurie Bell yn methu’r ddwy gêm nesaf efo suspension, fydd y rhain yn golled fawr ond yn gyfle i rywun arall ddod i mewn, sefyll allan a chymryd ei gyfle.”

Dywed ei fod yn awyddus i “ddiolch i’r Bwrdd am y cyfle yma” i gael rheoli’r clwb.

“Gallaf sicrhau fy mod i’n mynd i roi bob dim i’r pedair gêm olaf rŵan, er mwyn gwneud yn siŵr bo ni’n aros yn yr Uwch Gynghrair y flwyddyn nesa,” meddai.

“I’r holl gefnogwyr a’r Cofi Army, plîs dewch i gefnogi’r hogia’ a bod yn 12th man, fel maen nhw’n dweud.

“Mae teimlo egni’r cefnogwyr yn rhoi gymaint o hyder i’r hogia’, felly mae gennym ni gyd ran i’w chwarae.”