Roedd ennill noson yn yr Uwch Gynghrair Dartiau am y tro cyntaf eleni’n “deimlad braf” i Jonny Clayton.

Fe wnaeth y Cymro Cymraeg o Bontyberem guro Michael van Gerwen, ei gyd-Gymro Gerwyn Price a Michael Smith i godi’r tlws yn Berlin neithiwr (nos Iau, Mawrth 30).

Cyn neithiwr, roedd e wedi colli yn rownd yr wyth olaf ar dair noson yn olynol, ond mae ei fuddugoliaeth yn yr Almaen yn ei adael yn bumed yn y tabl.

Ar ôl trechu pencampwr 2022, Michael van Gerwen, yn yr wyth olaf, fe sicrhaodd Clayton gyfartaledd o dros 100 i drechu Price, cyn cipio’r wobr o £10,000 wrth guro’r Sais Michael Smith.

Cipiodd e’r fuddugoliaeth yn y pen draw gyda sgôr tri dart o 120.

“Y bythefnos ddiwethaf, fe wnaeth Gerwyn Price fy chwalu i’n llwyr, ac roedd hi’n anodd,” meddai wedi’r fuddugoliaeth.

“Doedd Michael [van Gerwen] ddim wedi chwarae ei gêm heno, ond roedd yn rhaid i fi ganolbwyntio ar fy ngêm fy hun, a nawr mae gyda fi wên ar fy wyneb a buddugoliaeth y tu ôl i fi.

“Am ryw reswm, roedd fy hyder yn wych heno, ro’n i’n teimlo’n gyfforddus ac roedd y dorf yn hollol wych.

“Mae pwysau enfawr bob wythnos, ond heno dw i wedi cwblhau’r job ac mae’r tabl yn edrych gymaint gwell.

“Gobeithio bo fi yma tan y diwedd, a dw i’n mynd i drio ‘ngorau!”