Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi croesawu’r penderfyniad i wahardd cefnogwr rhag mynd i gemau am dair blynedd, ar ôl iddo fe sarhau cyn-chwaraewr yn hiliol.
Postiodd Josh Phillips y “sarhad hiliol ffiaidd” am Michael Obafemi, cyn-ymosodwr yr Elyrch, ar Ionawr 28 yn dilyn ei drosglwyddiad ar fenthyg i Burnley.
Aeth e gerbron ynadon yn Abertawe, a chafodd e ddedfryd o garchar am ddeuddeg wythnos, wedi’i gohirio am ddeunaw mis.
Mae’r gwaharddiad yn golygu na fydd e’n cael mynd i gemau cartref nac oddi cartref nac i gemau Cymru am dair blynedd.
Fydd e ddim chwaith yn cael teithio dramor i wylio pêl-droed rhyngwladol.
Mae’r clwb wedi diolch i’r heddlu, ac wedi canmol Michael Obafemi am siarad yn gyhoeddus ddechrau’r mis yma am y digwyddiad.
“Gobeithio y bydd y dyfarniad heddiw’n gosod cynsail cryf i unrhyw un sy’n cyflawni’r fath droseddau yn y dyfodol, ac y bydd difrifoldeb y ddedfryd yn helpu yn y broses o ddileu’r fath ymddygiad ffiaidd o fewn pêl-droed ac yn y gymdeithas,” meddai’r clwb.
Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi’u “ffieiddio gan yr iaith ofnadwy gafodd ei defnyddio yn y negeseuon sarhaus”, gan bwysleisio nad yw’r troseddwr “yn cynrychioli Abertawe na gwerthoedd ein clwb a’r gymuned”.
“Does dim lle i hiliaeth na rhagfarn o unrhyw fath yn y gymdeithas na phêl-droed, ac fe fydd Abertawe a Burnley ein dau yn parhau i gefnogi Michael,” meddai.