Mae’r Farwnes Tanni Grey-Thompson, cadeirydd dros dro Clwb Criced Swydd Efrog, wedi ymateb mewn datganiad ar y cyd i helynt hiliaeth y sir.
Daw hyn ar ôl i wrandawiad gael y sylwebydd a chyn-gapten y sir, Michael Vaughan, yn ddieuog o wneud y sylwadau hiliol roedd wedi cael ei gyhuddo o’u gwneud.
Roedd honiadau ei fod e wedi dweud wrth griw o chwaraewyr o dras Asiaidd oedd yn chwarae i’r sir yn 2009 fod “gormod o’ch siort chi” ac y “bydd rhaid i ni gael gair am hynny”.
Daeth yr honiadau i’r fei fel rhan o’r ymchwiliad i honiadau gan y cyn-chwaraewr Azeem Rafiq, sydd wedi cael sylw yn San Steffan dros y blynyddoedd diwethaf.
Cafodd pum chwaraewr a hyfforddwr arall eu cyhuddo o wneud sylwadau hiliol neu ragfarnllyd, sef Matthew Hoggard, Tim Bresnan, Andrew Gale, Richard Pyrah a John Blain.
Yn wahanol i Michael Vaughan, fe wnaeth y pump wrthod cymryd rhan yng ngwrandawiad Pwyllgor Disgyblu Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, ond cafodd y cyhuddiadau eu cyflwyno yn eu habsenoldeb.
Roedd Gary Ballance, sydd bellach wedi dychwelyd i Zimbabwe, eisoes wedi cyfaddef iddo ddefnyddio iaith hiliol wrth siarad â’i ffrind Azeem Rafiq.
Yn ystod y gwrandawiadau sydd wedi’u cynnal ers dechrau’r helynt, fe ddaeth i’r amlwg hefyd fod Azeem Rafiq yntau wedi defnyddio iaith wrth-Semitaidd ar adegau.
‘Penderfyniad i ddysgu o’r gorffennol’
Mae Tanni Grey-Thompson, sydd wedi’i phenodi’n gadeirydd dros dro wrth i Glwb Criced Swydd Efrog chwilio am olynydd i’r Arglwydd Patel, yn un o ddau sydd wedi ymateb i’r helynt ar ran y sir.
Mae hi wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd â’r Prif Weithredwr Stephen Vaughan, gan ddweud bod y sir wedi dangos “penderfyniad i ddysgu o’r gorffennol” ers dechrau’r helynt.
“Trwy gydol gwrandawiadau’r Comisiwn Disgyblu Criced gafodd eu sefydlu gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr, mae Clwb Criced Swydd Efrog wedi’i yrru gan benderfyniad i ddysgu o’r gorffennol,” meddai’r ddau yn eu datganiad.
“Fel clwb, roedd angen i ni dderbyn a chymryd cyfrifoldeb am y materion diwylliannol alluogodd ymddygiad hiliol a rhagfarnllyd i ddigwydd heb iddo gael ei herio.
“Fis Chwefror, fe wnaethon ni dderbyn pedwar cyhuddiad gafodd eu haddasu yn ymwneud ag ymddygiad allai fod yn rhagfarnllyd i les criced a/neu a allai ddwyn anfri ar yr ECB neu griced, a’r cyfan rhwng 2004 a 2021.
“Fe wnaeth hyn ddatrys cyfrifoldeb y clwb, a wnaethon ni ddim mynychu gwrandawiadau’r CDC ddechrau mis Mawrth.
“Nid mater i’r clwb wneud sylw amdano yw’r dyfarniadau ehangach gan y panel.
“Mae ein sylw o hyd ar gyflawni sancsiynau rhesymol, a byddwn yn cyflwyno tystiolaeth maes o law i banel y CDC.
“Yn y cyfamser, mae’r Bwrdd yn gweithio’n galed i sicrhau dyfodol hirdymor y clwb wrth i ni barhau ar ein taith tuag at adferiad, ac rydym yn gwneud cynnydd da yn ein huchelgais i ddod yn glwb mwy cynhwysol a chroesawgar i bawb.”