Mae dau o gyn-reolwyr Abertawe wedi cael eu diswyddo heddiw (dydd Sul, Ebrill 2).

Oriau’n unig ar ôl i Gaerlŷr ddiswyddo Brendan Rodgers, daeth y newyddion fod Chelsea hefyd wedi diswyddo Graham Potter.

Mae Caerlŷr wedi colli pum gêm allan o chwech yn ddiweddar ac wedi gostwng i safleoedd y gwymp, tra bod Chelsea wedi colli 11 o gemau allan o 31 ers i Potter gael ei benodi.

Cafodd Brendan Rodgers ei benodi fis Chwefror 2019, tra bod Graham Potter wedi para llai na saith mis yn ei swydd yntau ar ôl creu argraff wrth y llyw yn Brighton cyn cael ei gyfle mawr.

Enillodd Caerlŷr Gwpan FA Lloegr yn 2021, a hynny am y tro cyntaf yn eu hanes, ac roedden nhw wedi gorffen yn bumed yn ei ddau dymor cyntaf wrth y llyw.

Ond mae’r clwb yn dweud bod y perfformiadau wedi bod yn “is na’r disgwyl” y tymor hwn a’u bod nhw’n awyddus i weithredu er mwyn cael aros yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Ond collon nhw saith allan o’u deg gêm agoriadol y tymor hwn, gan ostwng i waelod y tabl cyn ennill pedair allan o bum gêm cyn Cwpan y Byd.

Serch hynny, yn fwyaf diweddar, dim ond saith pwynt maen nhw wedi’u hennill allan o 33.

O ran Chelsea, dydy eu canlyniadau nhw ddim wedi adlewyrchu’r £550m maen nhw wedi’i wario ar chwaraewyr newydd, ac maen nhw bellach yn chwilio am eu trydydd rheolwr y tymor hwn yn dilyn diswyddiad Thomas Tuchel cyn i Graham Potter ei olynu.

Maen nhw yn hanner gwaelod y tabl, ddeuddeg pwynt islaw’r pedwar tîm uchaf, ond mae’r clwb wedi ei ganmol am ei gymeriad a’i ymroddiad i’r swydd serch hynny.