Mae dyfodol rhyngwladol Joe Hawkins, canolwr tîm rygbi Cymru, yn y fantol ar ôl iddo symud i Gaerwysg o’r Gweilch.
Mae e wedi llofnodi cytundeb hirdymor gyda’r clwb yn Nyfnaint, gan ymuno â’r clwb oedd wedi meithrin doniau Dafydd Jenkins a Christ Tshiunza.
Er ei fod e “wedi cyffroi” o gael symud i Loegr, ac yn “ddiolchgar” i’r Gweilch am roi’r cyfle iddo chwarae rygbi proffesiynol, dydy e ddim wedi ennill digon o gapiau dros ei wlad i’w eithrio o reolau dadleuol.
Yn ôl yr hen reol, doedd chwaraewyr sy’n chwarae i glybiau tu allan i Gymru ddim yn gymwys i’r tîm cenedlaethol heblaw eu bod nhw wedi ennill 60 o gapiau.
Ond yn dilyn cytundeb newydd gyda’r rhanbarthau, mae’r nifer wedi’i gostwng i 25, ond dim ond ers yr hydref mae Joe Hawkins wedi bod yn chwarae i Gymru.