Bydd tîm pêl-droed Cymru dan 17 yn herio Hwngari, Gwlad Pwyl a Gweriniaeth Iwerddon yn Ewro 2023.
Cafodd yr enwau eu tynnu o’r het heddiw (dydd Llun, Ebrill 3).
Dechreuodd ymgyrch ragbrofol Cymru fis Hydref y llynedd gyda buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Croatia, cyn gêm gyfartal gyffrous 3-3 yn erbyn Sweden, ac yna gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Albania.
Cymru oedd yr unig dîm di-guro yn ystod yr ymgyrch ragbrofol, ac fe wnaethon nhw orffen ar frig eu grŵp cyn symud ymlaen i herio’r Alban, Gwlad yr Iâ a Montenegro yn y grŵp dilynol.
Fe wnaethon nhw guro’r Alban o 4-2 yng Nghasnewydd, cyn gorffen yn gyfartal 1-1 yn erbyn Gwlad yr Iâ.
Roedd gêm gyfartal 2-2 yn ddigon i orffen ar y brig ac i gyrraedd y rowndiau terfynol am y tro cyntaf erioed.
Bydd y twrnament yn dechrau ar Fai 17, gyda’r rownd derfynol ar Fehefin 2.