Mae tîm pêl-droed Cymru wedi curo Latfia o 1-0 yn eu gêm ragbrofol Ewro 2024 gyntaf yng Nghaerdydd.

Daeth y gôl fuddugol oddi ar ben Kieffer Moore yn yr hanner cyntaf, wrth i dîm Rob Page orffen y ddwy gêm agoriadol gyda phedwar pwynt ar ôl gêm gyfartal annisgwyl o 1-1 oddi cartref yng Nghroatia nos Sadwrn (Mawrth 25).

Gyda momentwm eiliadau ola’r ornest nos Sadwrn gyda Chymru, roedden nhw’n awyddus i adeiladu ar hynny ac fe ddechreuon nhw’r ornest hon heno’n egnïol.

Daeth cyfle cynnar yn y munudau agoriadol, wrth i Harry Wilson ergydio â’i droed chwith yn syth at y golwr Pāvels Šteinbors oddi ar groesiad campus Dan James ar yr asgell chwith.

Prin y cafodd Latfia droed ar y bêl yn ystod y deng munud cyntaf wedyn, wrth i dîm Rob Page ddominyddu’r meddiant (87%) wrth geisio gosod eu stamp ar yr ornest.

Roedd eiliadau nerfus i ddilyn i Gymru, serch hynny, wrth i bàs lac at Connor Roberts a chamgymeriad y cefnwr da wrth golli’r bêl arwain at ergyd gan Mārcis Ošs wrth i hwnnw orfodi arbediad gan Danny Ward.

Wrth i’r bêl adlamu i ffwrdd o’r cwrt cosbi, bu bron i Gymru fanteisio ar wrthymosodiad i alluogi Kieffer Moore i fylchu cyn i’r llumanwr ddatgan camsefyll.

Doedd hi ddim yn hir cyn i Moore gael cyfle arall, ar ôl i Wilson a Connor Roberts gyfuno i lawr yr asgell dde, a Roberts yn croesi wrth i Moore dynnu’r bêl ar draws y golwr.

Gyda chwta hanner awr o’r ornest wedi mynd, cyfunodd Roberts a Wilson i lawr y dde unwaith eto, gyda Roberts yn croesi cyn i Neco Williams ganfod ei hun mewn gofod ar ymyl y cwrt cosbi a thanio chwip o ergyd dros y trawst oddi ar ei droed dde.

Er gwaethaf gwaith creadigol da gan Wilson, fe gafodd ei hun yn llyfr y dyfarnwr bum munud yn ddiweddarach am drosedd ar Ošs er gwaetha’i brotestiadau iddo gael ei afael ar y bêl wrth i’r glaw dasgu ar y cae.

Ond prin fod hynny wedi atal Cymru rhag parhau i fod yn fygythiad, wrth i Dan James ruthro at y cwrt cosbi i groesi at Ethan Ampadu, ac ergyd hwnnw’n adlamu oddi ar amddiffynnwr er mai cic gôl i Latfia gafodd ei dyfarnu.

Talodd gwaith caled Cymru ar ei ganfed, wrth i James weu ei ffordd drwy’r amddiffyn, a Moore yn codi uwchlaw Vladislavs Sorokins yn y cwrt cosbi, a phenio’r bêl heibio’r golwr diymadferth.

Gallai Cymru fod wedi dyblu eu mantais o fewn dim o dro, wrth i James groesi o’r chwith, a’i groesiad yn hwylio heibio’r postyn pellaf wrth i Moore aros amdani mewn gofod.

Gwelodd Sorokins gerdyn melyn eiliadau’n ddiweddarach am dynnu Wilson i’r llawr, ac roedd Moore wedi canfod ei hun yn destun trosedd hefyd cyn i Wilson ergydio’r gic rydd ar draws y gôl, er mawr rhyddhad i’r golwr wrth i’r dyfarnwr chwythu ei chwiban.

Hanner amser: Cymru 1-0 Latfia

Roedd Cymru ar dân ar ddechrau’r ail hanner, wrth i Dan James a Neco Williams greu cyfle euraid o’r ochr chwith.

Creodd James ofod i Williams, ac ergyd hwnnw’n taro’r golwr a’r trawst cyn i Wilson gael cyfle eiliadau’n ddiweddarach gyda Šteinbors yn gorfod sefyll yn gadarn unwaith eto rhwng y pyst.

Daeth cyfle i’r ymwelwyr, serch hynny, wrth i Vladislavs Gutkovskis orfodi Danny Ward i wneud arbediad wrth droelli ei gorff heibio i Joe Rodon.

Daeth dau gerdyn melyn i Latfia yn fuan wedyn, wrth i’r capten Antonijs Černomordijs ac Arturs Zjuzins fynd i lyfr y dyfarnwr am droseddau ar y capten Aaron Ramsey a Neco Williams.

Cyfnod anarferol ddilynodd i Gymru wedyn, a byddai Rob Page wedi bod yn gobeithio ailafael yn y momentwm wrth ddod â Nathan Broadhead i’r cae yn eilydd ar gyfer ei gêm ryngwladol gartref gyntaf yn y crys coch.

Ac fe ddaeth y momentwm hwnnw i raddau wrth i Gymru ddechrau rheoli’r gêm unwaith eto o amgylch y cwrt cosbi, a byddai cadw’r meddiant yn allweddol yn y chwarter olaf i sicrhau’r triphwynt.

Yn debyg i’r hanner cyntaf, daeth cyfle i Neco Williams o ryw ugain llath, a’r bêl yn cael ei gwthio dros y trawst gan y golwr.

Latfia gafodd y cyfle nesaf ar ôl 83 munud, serch hynny, wrth i Eduards Emsis yrru’r bêl dros y trawst wrth i’w dîm gyflymu’r tempo wrth geisio unioni’r sgôr.

Symudodd y momentwm yn ôl at yr ymwelwyr i raddau wrth iddyn nhw bwyso ar amddiffyn Cymru, ond roedd eu diffyg bygythiad gwirioneddol ym mlaen y cae yn golygu bod tîm Rob Page wedi gallu gwrthsefyll pob ymosodiad hyd y diwedd.

Ymateb Rob Page

“Dyw’r tri blaen ddim yn chwarae i’w clybiau bob wythnos ac mae’n gwneud gwahaniaeth mawr,” meddai Rob Page, rheolwr Cymru.

“O ran cyfle H [Harry Wilson], pe bai’n chwarae bob wythnos, gallai fod wedi bod yng nghefn y rhwyd.

“Os ydych chi’n chwarae, mae’n rhoi rhythm y gêm i chi.

“Ro’n i’n meddwl eu bod nhw [Cymru] yn rhagorol heno.

“Gallen ni fod wedi sgorio rhagor o goliau, bydden ni wedi hoffi sgorio rhagor.

“Rydyn ni wedi creu cyfleoedd i sgorio goliau, ond rhaid cadw llechen lân i ennill o 1-0 ac felly mae hynny’n arwydd da.”

Gareth Bale yn diolch i’r Wal Goch

Hon oedd gêm gartref gyntaf Cymru ers i Gareth Bale ymddeol o bêl-droed ryngwladol, ac fe gafodd ei gyflwyno i’r dorf cyn yr anthemau a’r gic gyntaf.

“Braint oedd cynrychioli’r wlad hon a chwarae gerbron y ffans gorau yn y byd,” meddai cyn-gapten Cymru.

“Alla i ddim diolch i chi ddigon.

“Pleser mwya’ mywyd oedd chwarae ger eich bron drwy gydol fy ngyrfa.

“Chi’r ffans yw pêl-droed Cymru. Chi sy’n ei gwneud hi’n arbennig a’r hyn yw hi heddiw.”

Ewro 2024: Cymru’n gobeithio adeiladu ar eu pwynt yng Nghroatia

Bydd tîm Rob Page yn croesawu Latfia i Stadiwm Dinas Caerdydd heno (nos Fawrth, Mawrth 28) ar gyfer eu gêm gartref gyntaf yn yr ymgyrch