Bydd tîm pêl-droed Cymru’n gobeithio adeiladu ar eu pwynt gwerthfawr yng Nghroatia, wrth iddyn nhw groesawu Latfia i Stadiwm Dinas Caerdydd heno (nos Fawrth, Mawrth 28) ar gyfer eu gêm gartref gyntaf yn ymgyrch ragbrofol Ewro 2024.
Prin y byddai neb wedi disgwyl iddyn nhw gael gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn y ffefrynnau i ennill y grŵp, ond mae’r canlyniad wedi gosod seiliau cadarn i dîm sy’n chwarae eu hymgyrch gyntaf heb Gareth Bale a Joe Allen, gyda Chris Gunter a Jonny Williams bellach wedi ymddeol hefyd.
Ond ym munudau ola’r ornest yn Split, ychwanegodd Nathan Broadhead ei enw i restr sgorwyr rhyngwladol Cymru, wrth i’r ymosodwr ifanc daro’r bêl i’r rhwyd gyda’i gyffyrddiad cyntaf ar y llwyfan rhyngwladol.
Bydd yr ornest hon yn dra gwahanol, gyda Chymru’n ffefrynnau i gipio’r triphwynt yn erbyn wythfed tîm gwanna’r cyfandir a thîm gollodd eu gêm ddiwethaf o 3-2 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn.
Yn ôl Rob Page cyn y gemau, byddai cipio chwe phwynt yn eu dwy gêm gyntaf fel “ennill y loteri”.
“Rhaid i ni fod yn synhwyrol,” meddai am ei benderfyniad i dynnu rhai o’r chwaraewyr amlycaf oddi ar y cae yng Nghroatia.
“Pedwar pwynt roedden ni wedi’u targedu.
“Dydy’r pedwar blaen ddim yn chwarae ar lefel clybiau, pe baen nhw wedi chwarae 95 munud, a fydden ni’n cael y gorau allan ohonyn nhw nos Fawrth?
“Rydyn ni’n edrych ar y gêm yn erbyn Latfia fel un i’w hennill, felly dyna’r cynllun erioed.
“Roedd yn bwynt bonws i ni y noson o’r blaen; y cynllun yn mynd i mewn i [y gemau hyn] oedd: ‘Pe baen ni’n cael pedwar pwynt, gwych; chwe phwynt ac rydyn ni wedi ennill y loteri, gwych.”
- Mae disgwyl i Gymru anrhydeddu Gareth Bale, yn ogystal â Joe Allen, Chris Gunter a Jonny Williams cyn dechrau’r gêm heno.