Mae Liam Cullen a Mark Harris wedi’u galw i garfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Croatia a Latfia.

Mae disgwyl i Brennan Johnson ymuno â’r garfan ddydd Iau (Mawrth 23) yn dilyn asesiad meddygol pellach, ond mae Wayne Hennessey wedi tynnu’n ôl o’r garfan er mwyn cael asesiad pellach.

Bydd Cymru’n herio Croatia oddi cartref ddydd Sadwrn, Mawrth 25, a Latfia gartref ar nos Fawrth, Mawrth 28.

Dyma’r garfan gyntaf i’w chyhoeddi ers ymddeoliadau Gareth Bale, Joe Allen, Chris Gunter a Jonny Williams dros yr wythnosau diwethaf.

Aaron Ramsey yw’r capten newydd, gan olynu Gareth Bale.

Y rhai yn y garfan heb gap yw Luke Harris, Jordan James, Ollie Cooper a Nathan Broadhead, tra bod Tom Bradshaw yn dychwelyd am y tro cyntaf ers pum mlynedd ar ôl cael ei enwi’n Chwaraewr y Mis y Bencampwriaeth ym mis Chwefror.

Rhain hefyd fydd gemau cynta’r hyfforddwyr newydd, Eric Ramsay a Nick Davies, gafodd eu penodi i dîm cynorthwyol Rob Page fis diwethaf.

Hefyd yng ngrŵp Cymru ar gyfer y gemau rhagbrofol mae Twrci ac Armenia, wrth iddyn nhw geisio cymhwyso ar gyfer eu trydedd Ewros yn olynol, a’r rheiny yn yr Almaen y flwyddyn nesaf.

Chris Gunter yn hyfforddi

Yn y cyfamser, yn dilyn ymddeoliad Chris Gunter, daeth cadarnhad ei fod e’n ymuno â’r garfan fel hyfforddwr.

Bydd e’n hyfforddi gyda’r garfan ar gyfer y ddwy gêm sydd i ddod yn y lle cyntaf.

Caiff y rôl ei hystyried yn un fydd yn ei helpu i ddod yn hyfforddwr llawn amser maes o law.

Rob Page yn cymeradwyo'r dorf

Pedwar cap a chapten newydd, Aaron Ramsey, yng ngharfan bêl-droed Cymru

Luke Harris, Jordan James, Ollie Cooper a Nathan Broadhead wedi’u cynnwys yn dilyn ymddeoliadau sawl chwaraewr blaenllaw

Chris Gunter wedi ymddeol o gemau pêl-droed rhyngwladol

Elin Wyn Owen

Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywed ei bod wedi bod yn “fraint” cynrychioli Cymru am 15 mlynedd