Yn wyneb cyfarwydd ar y sgrîn deledu, mae cyflwynydd Heno Angharad Mair hefyd yn rhedwr o fri, ac wedi llwyddo i guro tair record newydd yn ddiweddar.
Mae hi’n awyddus i bwysleisio nad yw unrhyw oedran yn rhy hen i herio’ch hun a bod yn gystadleuol.
Rhedodd ei marathon llawn cyntaf yn Efrog Newydd yn 1991, mewn tair awr a 29 munud ar ei ben.
Gan ei bod hi newydd ddechrau rhedeg bryd hynny, roedd ei chanlyniad yn hwb iddi barhau i ymarfer, ac yn 1996 enillodd hi Farathon Reykjavik.
Ymunodd â’r rhagbrofion ar gyfer carfan athletau Prydain ar gyfer Pencampwriaethau’r Byd yn 1997 yn Athens yng Ngroeg, lle daeth yn 23ain ym Marathon y Merched, gan orffen mewn 2:42:31.
Daliodd i redeg, ac yn 2014 gorffennodd hi’n drydydd ym Marathon Eryri.
Categori dros 60 ddim yn golygu record “soft” nac “araf”
Er iddi roi’r gorau i redeg am bymtheg mlynedd yn dilyn anaf yn 1998, ailgydiodd hi mewn rhedeg a llwyddo i dorri record Ewrop yn y categori oedran dros 55 oed ym Marathon Llundain.
Ond mae hi’n dweud ei bod yn tueddu i fynd trwy gyfnodau o flynyddoedd o beidio rhedeg, ond mae hi’n credu mai dyma’r rheswm pam ei bod hi’n dal i dorri recordiau.
“Achos bo fi’n cymryd blynyddoedd bant ar y tro, fi’n meddwl bod hynny’n golygu bod dim gymaint o anafiadau gyda fi,” meddai wrth golwg360.
“Efallai bod llai o straen ar fy nghorff i.
“Wnes i roi’r gorau i redeg ar ôl y record yna ym Marathon Llundain ond, yn ystod Covid, achos roedd hi mor braf wnes i ddechrau mynd yn ôl i redeg yn araf bach, ac wedyn haf y llynedd wnes i fynd yn ôl ati fwy o ddifri.
“Alla i ddim mynd ma’s i redeg oni bai bod nod gyda fi, felly wnes i benderfynu ’mod i am redeg Marathon Llundain eleni.
“Ac wrth gwrs, un ffordd o ymarfer yw rhedeg rasys, felly wnes i redeg hanner marathon Casnewydd, ble wnes i dorri record Prydain dros 60 ac wedyn mewn ras ugain milltir, a wnes i dorri record fy hunan yn yr hanner marathon ddoe gan orffen mewn 1:25:28.
“Beth dyw pobol ddim yn sylweddoli efallai yw pa mor gystadleuol yw popeth.
“Fi’n casáu dweud ’mod i yn y categori dros 60 oed, ond ar y llaw arall beth sy’n ddifyr o ran rhedeg er mwyn torri record Prydain dros 60 yw, roedd rhaid i fi redeg un awr 25 munud ar gyfer hanner marathon, sy’n chwe munud a hanner ar gyfer pob milltir.
“Felly dyw e ddim fel bod e’n record soft, dyw e ddim yn araf.
“Fyddai lot o bobol ddim yn gallu rhedeg chwe munud a hanner y filltir am 13 o filltiroedd.
“Felly dw i’n meddwl bod e’n werth pwysleisio ’mod i yn y categori 60 oed, achos allwch chi fod unrhyw oedran a gwneud pethau cystadleuol.
“Ddylen ni ddim meddwl am bobol yn cyrraedd rhyw oedran ac maen nhw’n hen.
“Mae dal i dorri recordiau yn beth braf achos mae’n dangos bo ti’n gallu cyrraedd unrhyw oedran a bod yn gystadleuol, a bod lot o bobol gystadleuol ma’s yna yn unrhyw oedran.
“Dyna’r neges bwysicaf i fi, mae modd bod yn gystadleuol yn unrhyw oedran, mewn gwirionedd.
“Y pwysigrwydd yw bod fi’n teimlo fel bo fi’n chwifio’r faner dros unrhyw un sy’n meddwl bod unrhyw oedran yn rhy hen i fod yn gystadleuol.
“A beth sy’n wych i bobol sydd yn dechrau yw pethau fel Couch to 5k a’r Park Runs sy’n digwydd ym mhob rhan o Gymru.
“Beth sy’n ddiddorol am Park Runs yw nad ras yw e, ond ras yn erbyn chi’ch hunain.
“Ac wedyn mae’n age graded, felly mae pawb yn rhedeg yn erbyn pawb arall sydd yr un oedran â nhw a ti’n cael sgôr bob wythnos.
“Mae’n annog pobol i redeg yn ôl eu gallu nhw a’u hoedran nhw.
“Mae’n rywbeth cymdeithasol hefyd, yn enwedig yn y gaeaf pan mae’n unig yn mynd ma’s dy hun.”
Cael nod yw’r hwb
I Angharad Mair, y nod sy’n bwysig a chael rheswm cystadleuol i redeg.
“Y peth am redeg a rhedeg marathon yw bod e’n galed,” meddai.
“Fi’n gweithio llawn amser, so does dim llawer o amser gyda fi ond ti’n gorfod mynd allan a gwneud e pan mae hi’n bwrw glaw ac mae hi’n wyntog ac yn dywyll ac ych-a-fi.
“Felly pan fi ddim yn rhedeg, fi ddim yn colli fe o gwbl.
“Ond er mwyn cael y ddisgyblaeth i fynd, mae’n rhaid bod nod gyda fi neu byddwn i’n edrych ma’s trwy’r ffenest a meddwl: “Fi ddim yn mynd ma’s yn y tywydd yma.
“Fi wastad wedi bod yn eithaf lwcus fy mod i ddim yn berson sy’n rhoi pwysau ymlaen yn hawdd, felly fi byth wedi teimlo bod rhaid i fi fynd ma’s i gadw’n heini.
“Ond y gystadleuaeth a chael nod sy’n bwysig i fi.
“Achos fi’n weddol gystadleuol, unwaith fi wedi cael y nod fi eisiau gwneud y gorau fi’n gallu wedyn.”
Golwg ar record newydd yn Llundain
Ymhen pum wythnos, bydd Angharad Mair yn rhedeg Marathon Llundain unwaith eto.
“Mae record y byd yn anodd iawn, iawn i guro yn ddwy awr 51 munud, felly wna’i ddim torri hwnnw,” meddai.
“Ond ar y llaw arall, mae’r record Ewropeaidd dros dair awr felly os alla i gadw dan dair awr, bydda i wedi torri’r record.
“Gyda hanner marathon o awr a 25 munud, gall hynny ddigwydd os yw popeth yn mynd yn dda.
“Dwed bod ti’n troi fyny yn Llundain a bod y gwynt yn ddrwg neu dy fod yn cael cramp, wedyn efallai fyddai hynny ddim yn bosib.
“Ond byddai’n rhaid i bopeth fynd yn dda ar y diwrnod.”