Mae tîm criced Cymru dros 50 wedi colli yn rownd derfynol y Bowlen yng Nghwpan y Byd dros 50 oed yn Ne Affrica.

Collon nhw’r ornest gyda dim ond wyth pelen yn weddill ar ôl sgorio 146 wrth fatio’n gyntaf, ar ôl perfformiad cryf gan India’r Gorllewin gyda’r bat ac yn y maes.

Cipiodd Julian Ballinger bedair wiced am 24 ond doedd hynny ddim yn ddigon i gipio’r fuddugoliaeth i Gymru, yn dilyn cystadleuaeth lle maen nhw wedi dangos cryn gymeriad gan ennill pedair allan o naw gêm.

Daethon nhw’n agos at guro Awstralia diolch i 86 gan eu capten Iwan Rees, ac fe fu’n rhaid iddyn nhw frwydro’n galed mewn sawl gêm arall yn erbyn rhai o dimau cryfa’r twrnament.

Ymhlith sêr y twrnament i Gymru roedd Michael Cann, cyn-chwaraewr Morgannwg.