Mewn darn arbennig i golwg360, y cyfrif Twitter Man Utd Cymraeg(@ManUtdCy) sy’n trafod tro ar fyd yn Old Trafford ers i’r clwb ennill Cwpan Carabao, eu tlws cyntaf ers 2017…


Erik tan Hag. Am ddyn. Y Consuriwr Moel.

Ar ôl rhai misoedd yn y swydd, mae e wedi cyflawni mwy na’r holl reolwyr eraill ers dyddiau Ferguson gyda’i gilydd.

Enillodd Van Gaal dlws, do, ond roedd y pêl-droed mor ddiflas.

Enillodd Mourinho dlysau, ond dyw cefnogwyr United byth am fod yn gyfforddus gyda pharcio’r bws na thaflu chwaraewyr ifanc o dan y bws.

Roedd Solskjaer yn hoffus, yn amlwg, ond roedd ei anallu tactegol a’i waith yn y farchnad yn chwerthinllyd (Harry Maguire am £80m, unrhyw un?!) Hefyd, ym mhob cyfweliad roedd e’n swnio fel bod cefnogwr wedi ennill cyfle i reoli United. Roedd yr holl beth braidd yn anghyfforddus erbyn y diwedd.

Dw i ddim hyd yn oed am sôn am Moyes, druan!

Yn ei gyfnod byr, mae Ten Hag wedi unioni’r camgymeriadau a wnaeth i fi feddwl bod llwyddiant flynyddoedd i ffwrdd. Mae steil a siâp i’r chwarae eto. Mae chwaraewyr ifainc cyffrous fel Mainoo a Garnacho yn cael eu meithrin. Mae e wedi delio â sefyllfaoedd heriol iawn yn effeithiol, fel gadael capten y clwb ar y fainc a phacio ego anferthol Ronaldo i ffwrdd i’r Dwyrain Canol. Mae e wedi gwella unigolion i lefelau anghrediniol (gweler Rashford, Fred neu hyd yn oed y blaenorol-anobeithiol Aaron Wan-Bissaka). Mae e wedi delio â phroblemau personol chwaraewyr fel Sancho mewn ffordd ddynol. O! Ac fe arwyddodd e chwaraewr canol cae addas i United am y tro cyntaf ers dyddiau Carrick neu Scholes (dwi mewn cariad gyda Casemiro).

Ac mae hyn i gyd wedi arwain at dlws.

Dwi wedi gweld twpsod (gair caredig) fel Piers Morgan yn y wasg yn chwerthin am ben United am ddathlu ennill y Carabao. Dwi ddim yn awgrymu am eiliad fod y Carabao ar yr un lefel â’r tair prif gystadleuaeth, ond mae ennill hon yn teimlo’n beth mawr ar ôl cyfnod o ddiffyg llwyddiant a diffyg gobaith. A beth yw pwynt pêl-droed os na allwch chi fwynhau’r buddugoliaethau? Mae ennill y tlws cyntaf sydd ar gael iddo yn rhyw fath o goron gynnar ar waith Ten Hag, yn arwydd o’r hyn sydd i ddod (gobeithio), ac yn gyfiawnhad o’i ddulliau. Ac fe allai fod mwy o lwyddiant ar y ffordd gyda’r tîm wedi iddyn nhw gyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr a chwarteri’r Gynghrair Europa hefyd…

Ar ôl y dechrau trychinebus i’r tymor, prin y galla i gredu pa mor gyfforddus mae’r clwb yn eistedd yn y pedwar uchaf. Ar ôl Awst anobeithiol a’r colledion i Brighton a Brentford, roedd pethau’n edrych yn ddu a dweud y lleiaf, ond fe welodd Erik y gwendidau’n glir, newid yr un-ar-ddeg cyntaf, arwyddo ambell i wyneb newydd, ac mae’r trawsnewidiad wedi bod yn ddigamsyniol. Petai Ten Hag wedi cael ei dîm ei hun ar y cae o ddechrau’r tymor, gallai teitl Uwch Gynghrair Lloegr fod o fewn cyrraedd ar y pwynt hwn, achos dyw Arsenal a City uwch ein pennau ddim yn berffaith.

Mae’r garfan yn dal i gario creithiau’r blynyddoedd diwethaf, ac mae’r gwendidau hyn yn dangos eu pennau o hyd o bryd i’w gilydd, fel y gwelon ni gydag un o’r canlyniadau gwaethaf yn hanes y clwb yn Anfield [colli o 7-0], ond er y gêm drychinebus / ryfedd / anesboniadwy hon, does neb o gwbl wedi cwestiynu’r rheolwr, sy’n arwydd amlwg o’r parch mae’r dyn wedi’i ennill mor gyflym.

Mae’n braf cael edrych ymlaen at wylio United eto, ac mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair o dan Erik.

#Glazers ma’s.