Roedd Aaron Ramsey yn ugain oed y tro cyntaf iddo gael ei benodi’n gapten tîm pêl-droed Cymru ond ag yntau bellach yn 32 oed, mae’n mynnu ei fod e’n barod am y cyfrifoldeb.

Ar y pryd, Ramsey oedd y capten ieuengaf erioed, gan dorri record Mike England wrth i’r rheolwr Gary Speed ddangos ffydd yn y chwaraewr canol cae ifanc a disglair.

Ddeuddeg mlynedd yn ddiweddarach, fe yw’r chwaraewr mwyaf profiadol yn y garfan gyda 78 o gapiau, un yn fwy na’r un arall gafodd ei grybwyll fel capten posib, yr amddiffynnwr Ben Davies.

Yn dilyn penodiad Aaron Ramsey, daeth cadarnhad ar ôl iddo siarad â’r wasg fod Ben Davies allan o’r garfan ag anaf, a bod Morgan Fox o Stoke wedi’i alw i’r garfan yn ei le, ynghyd â’r golwr Tom King.

Bydd Cymru’n herio Croatia oddi cartref ddydd Sadwrn (Mawrth 25) a Latfia gartref dridiau’n ddiweddarach, wrth i garfan Rob Page baratoi i chwarae eu gemau cyntaf ers ymddeoliadau Gareth Bale, Joe Allen, Jonny Williams a Chris Gunter ar ddechrau ymgyrch Euro 2024.

Mae Twrci ac Armenia hefyd yn eu grŵp rhagbrofol.

“Mae’n amser hir ers i fi fod yn gapten ddiwethaf, ac mae llawer wedi newid yn ystod y cyfnod hwnnw, felly dw i’n teimlo fy mod i’n barod amdani,” meddai.

“Dw i wedi dysgu llawer dros y blynyddoedd.

“Ro’n i’n ugain oed pan ges i [y gapteniaeth] ddiwethaf, felly wrth gwrs mae’n gyfle y bydda i bob amser yn ddiolchgar i Gary amdano fe.

“Ro’n i’n ugain oed bryd hynny, a ddim yn deall yn iawn beth oedd yn mynd ymlaen wir.

“Ond ar y pryd, roedd Gary yn credu ynof fi mai dyma’r peth iawn i fi i gael tyfu i mewn i’r rôl a dysgu wrth i fi fynd ymlaen. Bydda i bob amser yn ddiolchgar am hynny.

“Ond mae cymaint wedi newid – fy mywyd personol, fy ngyrfa, dw i wedi profi cymaint o wahanol bethau felly wrth gwrs fod hynny’n mynd i helpu fi.

“Dw i wedi chwarae o dan capteiniaid gwych hefyd, gan gynnwys Ashley Williams a Gareth Bale, felly mae yna bethau i’w cymryd o’r capteiniaid hyn dros y blynyddoedd, a cheisio’u hychwanegu nhw at eich gêm eich hun a’ch capteniaeth eich hun.

“Ond dw i’n teimlo fy mod i’n barod amdani nawr, mae’n fraint fawr iawn i fi a’r teulu, a gobeithio y bydd yn amser llwyddiannus iawn i ni.”

“Siom” ond ailafael ynddi

Yn dilyn y siom o fethu â chymhwyso ar gyfer rowndiau olaf Cwpan y Byd yn Qatar ar ddiwedd 2022, mae Aaron Ramsey yn cyfaddef fod y cyfnod hwnnw’n “anodd iawn”, ond ei bod hi’n bryd edrych ymlaen erbyn hyn.

Dywedodd yn ddiweddar ei fod e bellach yn llygadu 100 o gapiau dros ei wlad.

“Yn amlwg, fe wnaethon ni mor dda i gyrraedd y Ffeinals ac i brofi hynny,” meddai.

“Roedd yn Gwpan y Byd rhyfedd iawn, a dw i’n meddwl bod llawer o bethau’n rhedeg trwy eich meddwl wedyn.

“Ond ar y pryd, mae’n cymryd ychydig wythnosau i’w lyncu, ac rydych chi’n barod i fynd eto wedyn.

“Dw i’n mwynhau fy mhêl-droed ac yn chwarae’n dda, felly mae llawer i edrych ymlaen ato.”

Bydd yn rhaid i Gymru ymdopi heb y pedwarawd sydd wedi ymddeol, yn enwedig dau mor allweddol â Gareth Bale a Joe Allen, sydd wedi bod ymhlith yr hoelion wyth ers blynyddoedd.

Cyfnod newydd yn hanes Cymru

Felly pa mor anodd fydd hi i ymdopi hebddyn nhw yn eu hymgyrch gyntaf ers yr ymddeoliadau?

“Wrth gwrs, mae’r chwaraewyr hynny – Gareth, Joe, Jonny a Gunts – wedi bod yn allweddol i ni dros y blynyddoedd,” meddai.

“Byddan nhw’n rhan o hanes Cymru am byth.

“Mae pêl-droed yn newid o hyd, a bydd cyfleoedd nawr i’r chwaraewyr iau hyn gamu i fyny a dangos beth maen nhw’n gallu ei wneud, ac i greu ychydig bach o hanes eu hunain.

“Rydych chi eisiau mynd [i Gwpan y Byd] a dangos beth allwch chi ei wneud, ond wnaethon ni ddim cweit cyrraedd y lefel rydyn ni’n gyfarwydd â hi am ba bynnag reswm, felly roedd hynny’n siomedig iawn i ni nad oedden ni wedi cael y cyfle i ddangos beth allwn ni ei wneud ar y llwyfan mawr.

“Ond dysgon ni dipyn o hynny, a bydd yn ein rhoi ni mewn sefyllfa dda ar gyfer twrnameintiau ac ymgyrchoedd rhagbrofol y dyfodol.

“Mae’r garfan hon yn un gyffrous iawn i fod yn rhan ohoni.

“Mae newid mawr wedi bod yn yr hyfforddwyr a’r chwaraewyr hynny, ond mae’r cnewyllyn yn dal yno, y gwerthoedd yn dal yno, felly mae’n fater o weithio’n galed yr wythnos hon i gael ein hunain yn y lle gorau gallwn ni i ddechrau’r ymgyrch hon yn dda.”