Mae Osian Roberts, is-reolwr Clwb Pêl-droed Crystal Palace, wedi gadael y clwb.

Daw hyn ar ôl i’r rheolwr Patrick Vieira gael ei ddiswyddo.

Mae Kristian Wilson a Saïd Aïgoun hefyd wedi gadael y clwb.

Dydy Crystal Palace ddim wedi ennill yr un o’u deuddeg gêm diwethaf, ac maen nhw bellach wedi colli tair gêm yn olynol heb yr un ergyd ar y gôl, sy’n eu gadael nhw’n ddeuddegfed yn y tabl ond dim ond triphwynt uwchlaw safleoedd y gwymp.

Cafodd Patrick Vieira ei benodi cyn dechrau tymor 2021-22, ond y tymor hwn mae ei dîm ond wedi sgorio 21 gôl mewn 27 o gemau.

“Rydym yn difaru’n fawr iawn fod y penderfyniad hwn wedi cael ei wneud,” meddai’r cadeirydd Steve Parish mewn datganiad.

“Yn y pen draw, mae’r canlyniadau dros y misoedd diwethaf wedi ein rhoi ni mewn sefyllfa beryglus iawn yn y gynghrair, ac rydym yn teimlo bod newid yn angenrheidiol er mwyn rhoi’r cyfle gorau i ni gadw ein statws yn yr Uwch Gynghrair.”

Cafodd Osian Roberts ei benodi’n is-reolwr fis Awst 2021 ar ôl gadael ei rôl yn Gyfarwyddwr Technegol Cymdeithas Bêl-droed Moroco.

Cyn hynny, treuliodd ddeuddeg mlynedd yn yr un swydd gyda Chymru o dan reolaeth Gary Speed, Chris Coleman a Ryan Giggs.

Fe wnaeth Osian Roberts arwain y cwrs lle enillodd Patrick Vieira ei gymwysterau hyfforddi gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.